Waeth i ni gnoi cil ar yr etholiad un waith eto cyn symud ymlaen i edrych mwy ar etholiad mwy diddorol - Etholiad Cyffredinol Gwanwyn 2010.
Yr agwedd ar yr etholiad aeth a sylw'r cyfryngau oedd y ffaith i'r Toriaid ddod yn gyntaf. Byddai'n grintachlyd braidd peidio a chydnabod pwysigrwydd hynny - mae'n garreg filltir arwyddocaol iddynt. Ond wedi cydnabod hynny, doedd y perfformiad ddim mor gryf a hynny iddynt mewn gwirionedd. Hyd at 1997 galla'r Toriaid ddisgwyl i gael rhwng chwarter a thraean o'r bleidlais mewn Etholiad Cyffredinol. 21% o'r bleidlais a gawsant y tro hwn. Roeddynt hefyd yn gwneud yn dda iawn mewn etholiadau Ewrop yn ol yn 80au'r ganrif ddiwethaf.
I mi mae'r etholiad hefyd yn cael ei nodweddu gan ddau batrwm arall - y gwymp syfrdanol ym mhleidlais Llafur, a'r ffaith bod pawb wedi elwa mymryn o'r gwymp yna. O safbwynt y Mudiad Cenedlaethol mae'r gwymp ym mhleidlais Llafur yn gam arwyddocaol ymlaen - mae'r ffaith i ni fethu ag elwa mwy na neb arall yn siom, ac yn fethiant etholiadol mewn gwirionedd. Serch hynny 'dwi'n meddwl bod y gwymp ym mhleidlais Llafur yn bwysicach o safbwynt hir dymor nag ydi'n methiant ni i gymryd llawn fantais o hynny. Mi geisiaf egluro pam.
Mae'n anodd gor bwysleisio'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru. Yn hanesyddol mae Cymru wedi bod yn wlad o hegemoniau gwleidyddol - hegemoni'r Rhyddfrydwyr hyd at ddegawau cyntaf y ganrif ddiwethaf, ac yna un Llafur ar ol hynny. 'Dwi'n siwr fy mod yn gywir i ddweud mai dyma'r unig etholiad ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf i Lafur fethu dod o flaen y pleidiau eraill yng Nghymru. Mae yna adegau wedi bod yn ystod y cyfnod hwnnw lle'r oedd yn edrych fel petai pethau'n newid - yn ol yn 1983 er enghraifft pan wnaeth y Toriaid yn dda, neu'n 1999 pan wnaeth y Blaid yn dda yn etholiadau cyntaf y Cynulliad a'r rhai Ewrop y flwyddyn ganlynol. Ond yn y ddau achos llwyddodd Llafur i ail afael yn y rhan fwyaf o'r tir a gollwyd mewn cyfnod cymharol fyr.
Y cwestiwn y dylid ei ofyn mae'n debyg yw os ydi'r hyn sydd wedi digwydd y tro hwn yn barhaol neu'n lled barhaol? Mae'n anodd dweud - ond mae rhai arwyddion sy'n awgrymu efallai bod rhywbeth sylfaenol yn digwydd.
Y peth cyntaf ydi ei bod yn ymddangos bod Llafur yn colli pleidleisiau ar sawl ffrynt ar yr un pryd - yn y dinasoedd, yn y Gymru Gymraeg, ar hyd y maes glo, yn y Gogledd Ddwyrain - ym mhob man.
Yn ail mae'n ymddangos bod Llafur yn perfformio'n waeth yng Nghymru na mae'n ei wneud yng ngwledydd eraill y DU - yn sicr roedd y gwymp yn fwy serth o lawer. Mae hyn yn newydd. Yn y gorffennol mae'r Blaid Lafur wedi dangos gallu i wrthsefyll llif cryf tuag at y Toriaid yng Ngweddill Prydain - ym mhumpdegau'r ganrif ddiwethaf er enghraifft.
Yn drydydd y ffigyrau eu hunain - mae'r bleidlais mae Llafur wedi ei dderbyn y tro hwn yn is o lawer nag yw wedi bod o'r blaen. Yn llawer, llawer is, ac fel y dywedwyd mae'r cwymp yn un sy'n gyffredinol tros y wlad i gyd.
Os oes newid sylfaenol yn digwydd - ac mae'n 'os' o hyd - yna beth ydi'r goblygiadau? Mae dau brif oblygiad 'dwi'n credu, ac mae'r ddau yn gysylltiedig.
Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol y byddai cwymp arwyddocaol yn lefelau cefnogaeth Llafur o fwy o fantais i Blaid Cymru na neb arall - nid cymaint oherwydd y byddai rhan o'u cefnogaeth yn mynd i'r Blaid - ond yn hytrach oherwydd na fydd yn bosibl ffurfio clymblaid ym Mae Caerdydd nad yw'n cynnwys y Blaid os nad ydi ffigyrau Llafur a'r Lib Dems rhyngddynt yn gallu ffurfio mwyafrif.
Byddai clymblaid sy'n cynnwys Llafur a'r Toriaid yn ail strwythuro gwleidyddiaeth Cymru, a 'dydi'r naill blaid na'r llall am adael i hynny ddigwydd os oes yna unrhyw beth y gallant ei wneud am y peth. O dan yr amgylchiadau hyn y blaid sy'n gallu dewis ei phartner ydi'r blaid gryfaf - beth bynnag am y nifer o Aelodau Cynulliad. Dyma pam bod y PDs yn Iwerddon wedi llwyddo i wireddu eu holl agenda fwy neu lai trwy fynd i bartneriaith efo Fianna Fail - er ei bod yn blaid llawer, llawer llai na FF.
Mae'n bwysig bod y Blaid yn deall y rheol clymbleidio euraidd - mai'r blaid sydd yn sicr o fod mewn clymblaid efo rhywun neu'i gilydd sy'n llywio'r agenda - beth bynnag ei maint cymharol. O ddeall hyn, ac o gael yr arddeliad priodol, gall y Blaid sicrhau bod y blynyddoedd nesaf yn rhai lle bydd gwladwriaeth newydd yn cael ei hadeiladu bricsen wrth fricsen.
Yn ail gall arwain at normaleiddio gwleidyddiaeth Cymru. Tros y ganrif ddiwethaf mae gwleidyddiaeth Cymru wedi bod yn abnormal o safbwynt y sawl sy'n ystyried Cymru'n wlad yn ystyr llawn y gair hwnnw. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydym wedi dilyn patrwm gwleidyddol De / Canol / Chwith gwledydd annibynnol Ewrop. Neu i'w roi mewn ffordd arall, mae ein gwleidyddiaeth wedi ei yrru gan ystyriaethau dosbarth cymdeithasol. Gan amlaf mewn sefyllfa lle nad yw gwlad yn annibynnol mae gwleidyddiaeth dosbarth cymdeithasol yn cael ei anghofio'n rhannol tros dro, ac mae gwleidyddiaeth gwrth drefiigaethol yn weithredol.
Gyda llywodraeth Doriaidd lled barhaol yn San Steffan - ac un a barnu o sylwadau sydd wedi eu gwneud tros yr wythnosau diwethaf - sydd am fod eisiau torri ar bwerau'r Cynulliad, bydd y tirwedd gwleidyddol yn newid yn sylfaenol - gyda'r llinellau gwleidyddol yn rhai cenedlaetholgar / unoliaethol - yn unol a'r drefn drefedigaethol hwyr arferol.
Mae cwymp disymwth Llafur yn yr etholiadau Ewrop diweddar yn magu arwyddocad ychwanegol yn y cyd destun 'dwi wedi ei ddisgrifio uchod. Mae carfannau sylweddol o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio i Lafur yn y gorffennol, yn rhannol oherwydd canfyddiad mai hi ydi'r blaid sefydliadol 'Gymreig'. Mae unrhyw beth sy'n cynorthwyo i chwalu'r canfyddiad hwnnw yn yr hir dymor am ei gwneud yn haws i greu gwleidyddiaeth newydd, ac felly'n llesol i'r Mudiad Cenedlethol - hyd yn oed os mai'r Ceidwadwyr ac UKIP sy'n elwa yn y tymor byr.
1 comment:
Heblaw am Joanna Lumley buaswn ni di ennill...
Post a Comment