tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post2374731433661602100..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Yng nghefn ciw BrexitCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger8125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-67749011527598461592016-11-01T09:08:42.897+00:002016-11-01T09:08:42.897+00:00A bod yn deg yr unig Blaid Gymreig sydd wedi lluni...A bod yn deg yr unig Blaid Gymreig sydd wedi llunio ymateb sydd yn ddealladwy ydi'r Blaid - does yna'r un arall wedi - hyd yn oed y blaid lywodraethol.

Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-59365819121853607572016-11-01T07:58:15.215+00:002016-11-01T07:58:15.215+00:00Nodyn byr arall ar Brexit ar sefyllfa bresenol. Ty...Nodyn byr arall ar Brexit ar sefyllfa bresenol. Tydwi ddim yn meddwl fod Brexit meddal yn opsiwn o gwbwl. Fydd yr Almaen na Ffrainc yn fodlon ar hynny ac er mawr syndod ir lemons yn y wlad yma bydd eu egwyddorion yn bwysicach iddynt na sicrhau fod gwneuthurwyr ceir Almaenig yn cael gwethu eu cynyrch yma heb dariff. Fydd yna ddim mynediad i farchnad rydd dim hyd yn oed model Norwy. Rhid i ni dderbyn mai Brexit caled fydd hi.Beth yw cynllun Cymru dan y termau yma?? Rhaid ir Blaid ddechrau trafod yr opsiynau sydd wirioneddol ar gael yn lle gwastraffu amser yn meddwl y cawn fynediad ir farchnad rydd. Joniestahttps://www.blogger.com/profile/11732543635424249152noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-17414933472493663572016-10-31T19:32:43.141+00:002016-10-31T19:32:43.141+00:00Dwi pob amser yn cyhoeddi sylwadau oni bai eu bod ...Dwi pob amser yn cyhoeddi sylwadau oni bai eu bod yn anweddus neu'n enllibio rhywun neu 'i gilydd.

Fel dwi wedi dweud o'r blaen roeddwn yn anghywir am y niwed economaidd. Y rheswm am hynny ydi fy mod wedi cymryd y byddai'r llywodraeth wedi defnyddio synnwyr cyffredin a sicrhau ein bod yn aros yny Farchnad Sengl. Ymddengys eu bod yn ystyried bod plesio'r Dde senoffobaidd yn bwysicach nag amddiffyn masnach - felly bydd niwed economaidd yn dilyn o hynny. Os ti eisiau fy meirniadu am fod yn anghywir - croeso, mae pawb yn anghywir weithiau - ac o bosibl mae'r blog yma'n anghywir yn llai aml na'r rhan fwyaf o gyfryngau prif lif.

Mae'n anffodus dy fod yn fy uniaethu fi efo PC - roedd y Blaid yn rhybuddio rhag niwed economaidd - ac roedd yn fwy cywir na fi yn hynny o beth.

Fel y dywedais o 'r blaen mae canolbwyntio ar y Blaid yn y cyd destun yma yn wirion. - ymylol fyddai dylanwad y Blaid petai wedi dewis taflu ei pheiriant ar y refferendwm yn hytrach nag ar yr etholiad. Doedd hi ddim mewn gwirionedd yn bosibl ei daflu ar y ddau.

Gan nad oes yna fawr ddim ymdriniaeth gall o'r niwed economaidd tebygol yn y cyfryngau prif lif yng Nghymru, mae 'n anodd gweld pam ti'n trio cau fy ngheg trwy ddweud fy mod yn codi pais ar ol piso.

Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-75811163657002409082016-10-31T16:41:30.637+00:002016-10-31T16:41:30.637+00:00Diolch am gyhoeddi fy sylw. Serch hynny dy union ...Diolch am gyhoeddi fy sylw. Serch hynny dy union eiriau ar y blog hwn wythnos cyn y bleidlais oedd y canlynol;

"Yn bersonol dwi ddim yn credu'r darogan gwae economaidd gan yr ochr aros".

Yn fras dy ddadl oedd mae yn y tymor byr yn unig y byddai 'na drafferthion economaidd a hynny i raddau yn fater i'r marchnadoedd arian. Yn anffodus y gwrthwyneb oedd yn amlwg wir. Gyda'r bleidlais yn gynyddol yn datblygu i fod yn fater o ddatgan barn am fewnfudo (agwedd greiddiol i'r farchnad sengl) yna anodd oedd methu gweld fod yna berygl go iawn i economi Cymru sy'n parhau i allforio'n drwm. Dim mewnfudo = dim marchnad sengl. Doedd dim angen athrylith i weld hynny.

Ti hefyd yn dewis cam ddeall fy mhwynt am ymgyrch PC. Wrth gwrs na fyddai cefnogaeth 100% o gefnogwyr PC wedi ein harbed rhag pleidlais i adael drwy'r DU ond fyddai ymdrech go iawn wedi efallai newid y canlyniad yng Nghymru? Ydi trefniadaeth UKIP yn y cymoedd yn well na threfniadaeth PC? Wn i ddim ond fe fyddwn yn gobeithio ddim. Falle, jyst falle o ymgyrchu yn hytrach na gwadu'r her i economi Cymru fe allai ti a'th gyd weithwyr fod wedi rhoi buddugoliaeth i aros yng Nghymru.

Anodd iawn ydi gwadu na fyddai canlyniad o'r fath wedi rhoi safle gref i lywodraeth Cymru yn y trafodaethau. Ond dyna fo, gydag ambell eithriad di-ddim oedd ymgyrch Llafur a di-ddim oedd ymdrech PC.

Fel y bu i mi ddweud "codi pais....." yw dy neges sy'n fisoedd yn rhy hwyr.

Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-11017004718968331182016-10-30T22:29:26.668+00:002016-10-30T22:29:26.668+00:00Pleidlais pobl Cymru oedd ´r un beth â Lloegr, sef...Pleidlais pobl Cymru oedd ´r un beth â Lloegr, sef am adael y UE. O safbwynt eich cyd-Geltion yn yr Alban ac Iwerddon, dim ond cynffonwyr i Lundain ydych chi, yn hytrach na chynghreirwyr. Druan o beth yn llwyr, ond dyna ni. Felly ¨codi pais wedi piso¨ ydi´ch cwyn chi i´r dim, ysywaeth :-(Marconatrixhttps://www.blogger.com/profile/01199367986122142971noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-9797922147221547932016-10-30T18:51:20.945+00:002016-10-30T18:51:20.945+00:00Dwi'n cytuno gyda'r sylw diwethaf ma gynna...Dwi'n cytuno gyda'r sylw diwethaf ma gynnai ofn. Roedd y blaid yn llawer rhy dawel a toedd yna ddim ymdrech go iawn i gyd weithio gyda Llafur yn ystod y refferendwm. Roedd Llafur yr un mor amaturaidd a llipa yn ystod y refferendwm. Roedd na hysteria gwallgof yn dilyn y bleidlais yn meddwl y byddai y canlyniad yn ysgogi pobol i edrych ar annibyniaeth fel ateb. Dwi'n gefnogol i annibyniaeth ond sgynai ddi syniad o hyd o sut y byddai Cymru yn llwyddo fel gwlad annibynol yn ddelwedd Plaid Cymru. LLe mae'r syniadau yma am greu cyfoeth cyflogaeth etc sydd eu hangen ar gyfer creu y Gymru newydd fodern annibynol ir dyfodol?? Joniestahttps://www.blogger.com/profile/11732543635424249152noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-69211101397416337652016-10-30T18:44:04.088+00:002016-10-30T18:44:04.088+00:00Ynglyn a'r pwynt olaf gweler - https://oclmena...Ynglyn a'r pwynt olaf gweler - https://oclmenai.blogspot.co.uk/2016/10/effeithiau-brexit-ar-economi-du.html

Dwi'n meddwl bod yna wirionedd na fu ymdrech anferth gan beiriant y Blaid - na'r un plaid arall yng Nghymru. - roedd etholiad newydd ddigwydd, ac roedd actifyddion wedi bod allan am wythnosau. Roedd yna hefyd y cymhlethdod bod pawb yn gwybod na fyddai'n gwneud botwm o wahaniaeth petai pawb yng Nghymru'n fotio'r un ffordd.

Er mae'n rhaid nodi i'r Blaid yn Arfon, er enghraifft ohebu efo'i chefnogwyr i gyd yn gofyn iddynt fotio i aros. Mi fyddwn i hefyd yn nodi bod cefnogwyr y Blaid wedi fotio i aros i raddau mwy na'r un blaid arall.

Serch hynny mae braidd yn stiwpid i feio'r Blaid am y canlyniad - digwyddodd yr hyn ddigwyddodd oherwydd i drwch y bleidlais Geidwadol tros y DU benderfynu gadael. Piso dryw yn y mor oedd pleidlais y Blaid, ac yn wir Cymru yn hyn oll.

Ta waeth, dwi 'n cymryd o'ch sylwadau eich bod wedi gwneud cryn ymdrech eich hun yn yr ymgyrch, a da iawn chi am hynny.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-22508900987220823052016-10-30T12:03:01.410+00:002016-10-30T12:03:01.410+00:00Llawer o wir fan hyn. Tristwch y sefyllfa ydi fod...Llawer o wir fan hyn. Tristwch y sefyllfa ydi fod PC ac hefyd awdur y blogiad hwn wedi bod yn gymharol ddi-hid trwy gydol y refferendwm gyda'r cyferbyniad rhwng ymdrechion etholiad y cynulliad a'r bleidlais Ewropeaidd yn syfrdanol. Ai disgwyl cyfle o weld Cymru'n dewis aros a Lloegr (a thrwy hynny Brydain) yn dewis gadael oedd wrth wraidd diffyg ymdrech gan gefnogawyr ac arweinwyr PC (eithriad anrhydeddys oedd Wigley).

Yn dilyn y bleidlais cafwyd cannoedd ar y maes yng Nghaernarfon yn ffug wylofain. Lle buo nhw cyn y bleidlais tybed?

I gloi, cofier i awdur y blog hwn ddiystyrru'r effaith economaidd gan weld y rhybuddion am fynediad i'r farchnad sengl fel rhan o rhyw 'project fear'. Bod yn ddoeth gyda mantais yr hyn sy'n amlwg yw'r blogiad hwn. Bu'r ymdrechion i ddarogan effaith dewis gadael cyn y bleidlais yn enbyd o ddiffygiol gan yr awdur. Codi pais wedi piso sydd yma bellach.
Anonymousnoreply@blogger.com