Daeth hynny i ben yn dilyn cyflafan fancio 2008 pan benderfynodd y llywodraeth bod rhaid i'r trethdalwr achub y banciau, a thros y blynyddol dilynol mae'n debyg i dros i £1 triliwn gael ei roi o'r neilltu i'r pwrpas hwnnw. Arweiniodd y penderfyniad at drosglwyddiad anferth o adnoddau oddi wrth y trethdalwr i'r sector breifat. Roedd y wladwriaeth yn ymyryd unwaith eto efo'r sector breifat - ac yn gwneud hynny i raddau arwyddocaol iawn.
Mae'n ymddangos bellach y bydd y bleidlais i adael yr Undeb Ewropiaidd am gwblhau'r broses yna, ac arwain at berthynas fwy clos o lawer rhwng y sector breifat a'r wladwriaeth. Y rheswm am hynny ydi bod y llywodraeth wedi dod i benderfyniad bod lleihau / atal mewnfudo yn flaenoriaeth iddi - a chanlyniad anhepgor hynny ydi y bydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl. Canlyniad hynny fydd tollau ar allforion a mewnforion, a chanlyniad hynny yn ei dro fydd lleihad mewn masnach rhyngwladol, a lleihad yng ngallu busnes yn y DU i gystadlu'n rhyngwladol.
Yn y cyd destun yna y dylid edrych ar benderfyniad Nissan wythnos diwethaf i barhau i gynhyrchu ceir yn y DU. Mae'n amlwg na fyddai Nissan wedi cytuno i fuddsoddi biliynau heb gael sicrwydd y bydd y llywodraeth yn dod o hyd i ffordd i'w digolledu am yr effaith y bydd tollau rhyngwladol yn ei gael ar eu busnes, ac mae'n ymddangos i'r un sicrwydd gael ei roi i'r diwydiant ceir yn ei gyfanrwydd. O safbwynt y llywodraeth mae hyn yn benderfyniad cwbl resymegol. Mae'r diwydiant ceir yn y DU yn cynhyrchu 1.5 miliwn car y flwyddyn, mae'n cyflogi 900,000 o bobl ac mae iddo drosiant blynyddol o tua £70bn. Ond mae i'r sefyllfa oblygiadau negyddol i Gymru.
Mae'n amlwg y bydd ymadawiad y DU a'r UE yn fler - ac mae'n amlwg y bydd y llywodraeth yn blaenori yr hyn maent eisiau ei amddiffyn ac yn anwybyddu'r hyn nad ydynt am ei amddiffyn. Gallwn fentro y bydd sicrwydd yn cael ei roi i ddiwydiannau allweddol eraill y bydd y llywodraeth yn dod o hyd i ffyrdd o sicrhau na fydd eu gallu i gystadlu yn erydu yn sgil y newidiadau. Bydd y sector gwasanaethau ariannol ar flaen y ciw yma. Bydd yna gost ariannol i amddiffyn diwydiannau dethol - a bydd y gost yn un uchel. Bydd y wladwriaeth yn dewis yn ofalus pa sectorau sydd werth eu hamddiffyn, a pha rai nad ydynt werth eu hamddffyn.
Ac mi fydd yna eithriadau sydd ddim yn rhai ariannol hefyd - mae llawer o ffermydd mawr yn Ne Lloegr yn ddibynnol iawn ar lafur tramor tymhorol. Mae'n debyg bod sicrwydd ynglyn a hynny eisoes wedi ei ddarparu. Bydd cartrefi gofal, y Gwasanaeth Iechyd ac ati yn chwilio am sicrwydd tebyg.
A bydd eithriadau o fath arall hefyd. Mae'n debyg y bydd Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol i weddill y DU, mae'r syniad o ffin caled rhyngwladol nad ydi hi'n bosibl ei selio yn Iwerddon yn codi pob math o broblemau anodd iawn i fynd i'r afael a nhw. Bydd Gibraltar yn eithriad arall - byddai'n anodd iawn i economi'r ynys bellenig honno o Brydeindod oroesi os byddai'n cael ei gwahanu gan ffin galed oddi wrth y gweithlu sy'n ei chynnal. Ac mae'n ddigon posibl y bydd yr Alban yn cael ei thrin yn wahanol hefyd - yn arbennig os y bydd yn edrych fel petai'r wlad am dorri ei chwys ei hun a gadael y DU.
Y sawl sydd yn gryf, y sawl sy'n fawr neu'r sawl fydd mewn lle i fargeinio fydd yn cael ffafriaeth - bydd y sawl sy'n wan, y sawl sy'n fach a'r sawl sydd ddim mewn lle i fargeinio yn cael eu gadael i wywo ar y gangen.
Lle fydd hynny yn gadael Cymru? Faint o'n diwydiannau ni sy'n cael eu hystyried yn allweddol i economi'r DU? Go brin bod angen crafu pen gormod cyn cael ateb i honna. Yn wleidyddol rydym yn hynod ddof ac ufudd o gymharu a Gogledd Iwerddon a'r Alban - o safbwynt llywodraeth y DU bydd yn hawdd ein cymryd yn ganiataol, bydd yn hawdd ein hanwybyddu. Byddwn o safbwynt economaidd a gwleidyddol yn flaenoriaeth isel iawn - byddwn ar gefn y ciw - fel arfer.