Monday, February 15, 2016

Pol heddiw ac effaith y refferendwm ar etholiadau'r Cynulliad

Dydw i ddim yn un sy 'n credu mewn anwybyddu polau piniwn nad ydych yn hoffi eu canfyddiadau - a byddai'n gamgymeriad peidio a chymryd y pol Barometer a gyhoeddwyd y bore 'ma o ddifrif.   Prif ganfyddiad y pol ydi bod y pleidiau i gyd ag eithrio UKIP yn aros fwy neu lai yn yr unfan - ond bod y blaid honno - er gwaetha'r holl ffraeo cyhoeddus, er gwaetha'r ymddiswyddiadau, ac er gwaetha'r ffaith nad oes ganddyn nhw cymaint ag un ymgeisydd rhanbarthol mewn lle - yn parhau i ennill tir.

Byddwn, fodd bynnag yn gwneud un sylw.  Mae UKIP yn perfformio'n dda yn y polau piniwn Prydeinig, ond 'dydi'r llwyddiant hwnnw ddim yn cael ei adlewyrchu mewn is etholiadau.  Chafodd o ddim ei adlewyrchu yn is etholiad seneddol Oldham West, a 'dydi o ddim yn cael ei adlewyrchu mewn llu o is etholiadau cyngor ar hyd a lled y DU chwaith.  Dydi hi ddim yn bosibl gwneud cymhariaeth yng Nghymru - anaml iawn y bydd UKIP yn sefyll mewn is etholiadau lleol yng yma, ond 'does yna ddim rheswm i gredu y byddai'r patrwm  yn wahanol petaent yn trafferthu i sefyll.  

Ni ddylid cymryd o hyn bod y polau yn anghywir - ond mae'n rhesymol cymryd bod yna rhywbeth yn anwadal am gefnogaeth UKIP.  Gallai hyn olygu y byddai eu pleidlais yn uchel mewn etholiad cyffredinol, ond nad ydi 'r blaid yn ei chael yn hawdd i gael eu pleidleiswyr allan mewn etholiadau nad ydynt yn eu hystyried yn rhai arbennig o bwysig.  

Dwi'n tueddu i gredu y byddai cefnogwyr UKIP yn gweld etholiadau'r Cynulliad rhywle rhwng etholiad cyffredinol ac is etholiadau lleol, ac na fydd eu pleidlais cyn uched ag mae'r pol yn awgrymu.  Dwi ddim yn dadlau na fyddent yn cael etholiad dda ac yn ennill seddi rhanbarthol - ond 'dwi 'n amau'n gryf y byddant yn agos at 18%.  

Daw hyn a ni at fater arall diddorol - effaith refferendwm Ewrop ar etholiadau'r Cynulliad.  Gan y bydd y refferendwm yn cael ei gynnal ym Mis Mehefin (yn ol pob tebyg)  a chan y bydd y papurau newydd Prydeinig - lle mae'r rhan fwyaf o Gymry yn cael eu newyddion - yn llawn o'r stori refferendwm erbyn dechrau Mai, mae'n anhepgor y bydd yn dylanwadu ar etholiadau'r Cynulliad.  Ond mae'n anodd rhagweld yr union effaith.  Gallai'r etholiadau gael eu dominyddu gan Ewrop a'u Prydaineiddio - byddai hynny'n dda i'r pleidiau Prydeinig, ac yn arbennig felly UKIP, ond yn ddrwg i Blaid Cymru.  Ond gallai'r ymgyrch etholiadol gael ei boddi'n llwyr gan naratifau'r refferendwm, a byddai hynny yn ei dro yn llusgo'r cyfraddau pleidleiso i lawr.  Plaid Cymru fyddai'n debygol o elwa o hynny oherwydd bod ei chefnogwyr yn rhoi bri i'r etholiadau arbennig yma.  Llafur fyddai'n debygol o ddioddef fwyaf.

Amser a ddengys.

2 comments:

Marconatrix said...

Dwi'n gobeithio fod dy sylwadaeth ddiwetha yr un sy'n iawn :-)

William said...

cyfle i'r Blaid yn ddios er fy mod i'n cofio rhywun yn taeru fod UKIP wedi "dwyn" fôts PC yn Llanelli adeg y lecsiwn llynedd. Byddai'n ddiddorol gweld faint o Gymry cynhenid sy'n barod i gefnogi UKIP. Fiw iddynt arddel UKIP ar goedd ond mae rhywun yn rhyw gofio Elwyn Jôs yn brolio am y Cymry Cymraeg yn bwrw eu pleidlais i Margaret yn 1979 a 1983...(dichon fod hynny wedi digwydd i raddau ond rwy'n meddwl mai'r mewnlifiad oedd y rheswm pennaf...)

Plaid protest heb brofiad o rym a'r cyfrifoldeb o reoli ydi UKIP a mae PC yn "rhan o'r dodrefn" ers meitin yn enwedig yng Ngwynedd

Ysgwn i faint o bobl sioemedig a sathredig y cymoedd fydd yn trafferthu i fyd allan i bleidleiso dros UKIP mewn etholiad cynulliad.....

Dal i deimlo fod pôliwrs yn anghofio pwy sy'n mynd i fotio'n bendant yn lle deud ei fod yn bwriadu gwneud....