Friday, February 12, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhan 7

Jones yr ieuengaf unwaith eto.  Ymddengys bod cynghorydd Bethel wedi rhedeg cais rhyddid gwybodaeth a darganfod bod Cyngor Gwynedd wedi gwario tua £460k ar ymgynghorwyr allanol tros y bedair blynedd diwethaf.




Rwan mae'r defnydd o ymgynghorwyr allanol gan awdurdodau lleol yn fater cynhenus.  Mae'r sawl sy'n beirniadu'r arfer yn honni (fel arfer) y dylai'r awdurdodau eu hunain wneud y gwaith a bod talu i rywun arall wneud hynny yn wastraff arian.  Ond mae'r awdurdodau yn honni (eto fel arfer) mai defnyddio ymgynghorwyr am gyfnodau byr i bwrpas cyflawni cynlluniau penodol maen nhw, a bod hynny'n fwy cost effeithiol nag ydi cyflogi pobl ar gytundebau hir dymor.


Does yna ddim rheol cyson yma - weithiau mae'n fwy cost effeithiol i chwilio am arbenigedd allanol, ond weithiau mae'n fwy cost effeithiol i ddefnyddio arbenigedd mewnol, neu gyflogi pobl sydd efo 'r sgiliau angenrheidiol ar gytundebau parhaol.  Mae dod i gasgliadau ynglyn ag effeithlionrwydd cynlluniau fel hyn yn fater o edrych ar bethau achos wrth achos.   


Serch hynny mae faint o arian sy'n cael ei wario yn gallu rhoi rhyw fath o syniad i ni.  Er enghraifft gallwn gymryd bod y tua £2.8m a wariwyd gan Gyngor Fflint (Llafur) rhwng mewn blynyddoedd diweddar yn ddefnydd aneffeithiol o adnoddau - yn arbennig felly ag ystyried nad ydi'r cyngor hwnnw yn gwneud joban dda o gofnodi yn union faint o ddefnydd maent yn ei wneud o ymgynghorwyr.  Mae'n rhaid bod yna ffordd o strwythuro'r gweithlu mewn modd fyddai'n caniatau i gyngor wario £2.8m ar weithwyr cyflogedig llawn amser.


Beth bynnag, yn wahanol i ambell achlysur diweddar, mae ffigyrau Sion yn gywir y tro hwn - y ffordd maen nhw'n cael eu defnyddio ydi'r broblem o ran camarwain. 


Daeth Sion o hyd i'r wybodaeth trwy redeg cais rhyddid gwybodaeth yn gofyn am wybodaeth moel am faint o bres mae Gwynedd wedi ei wario ar ymgynghorwyr allanol tros y bedair blynedd ddiwethaf.  Wele canlyniad yr ymarferiad hwnnw.


2012/13 - £44,377

2013/14 - £34,761

2014/15 - £240,950
2015/16 - £136,662

Gallai Sion - fel cynghorydd - fod wedi gofyn i swyddogion y cyngor am y manylion a gafodd trwy redeg y cais rhyddid gwybodaeth, ynghyd a holi am fanylion llawnach.  Byddai hynny wedi bod yn fwy effeithiol - gan arbed y gost a'r ymdrech i'r cyngor o brosesu cais rhyddid gwybodaeth, yn ogystal a darparu eglurhad llawn am y taliadau.  Byddai hynny wedi bod yn well o safbwynt treth dalwyr y sir.  

Beth bynnag, ni chafwyd ymholiad am y rhesymau tros y gwariant, ond anfonwyd y ffigyrau yn ddi addurn i'r Daily Post.  Byddai mymryn o ymchwil ar ran Sion - neu roi cwestiwn syml i swyddog - wedi rhoi darlun cyflawn o natur y gwariant.  Gan na wnaeth o drafferthu gwneud hynny, mi af i ati i ddarparu 'r wybodaeth.

Mae'r rhan fwyaf o'r gwariant - £260,000 yn 2014-15 a 2015-16 yn ymwneud a gwariant ar gynllun i intigreiddio gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd.  Er bod Cyngor Gwynedd yn comiwsiynu'r gwaith, nid Cyngor Gwynedd sy'n talu amdano.  Llywodraweth Cymru sy'n talu am 100% o'r costau.  Mi fyddwch yn gwybod mai llywodraeth Lafur ydi Llywodraeth Cymru.

 

Roedd £21,500 o'r hyn a wariwyd ar ymgynghorwyr allanol yn 2015-16 yn ymwneud a datblygu system dechnoleg gwybodaeth ar ran holl awdurdodau'r Gogledd.  Eto mae 100% o'r gwariant yma yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.  Mi fyddwch yn gwybod mai llywodraeth Lafur ydi Llywodraeth Cymru.  

 

Gwariwyd £13,680 tros y ddwy flynedd ariannol diwethaf ar gwmni recriwtio staff a £14,770 ar gyflogi swyddog arbenigol i gymryd lle swyddog yn ystod absenoldeb hir dymor.  

 

Gwariwyd £28,400 ar ymgynghoriad ynglyn a'r ddarpariaeth a roir i bobl mewn oed yn lleol.  

 

Tros y bedair blynedd diwethaf mae £90,220 wedi  ei wario ar gwmni sy'n darparu hyfforddiant i benaethiaid gwasanaethau ac ar ddarparu penaethiaid gwasanaethau tros dro pan roedd swyddi yn wag.   

 

Mae'r ychydig sy'n weddill yn cael ei wario ar fan gynlluniau.


Rwan o edrych ar y manylion 'does yna ddim o hyn yn ymddangos yn afresymol.  O ddarparu'r wybodaeth yn gwbl foel, yn ddi eglurhad, ac wedi ei agredu tros bedair blynedd mae'r gwariant yn ymddangos yn afresymol.  


Mae'n bosibl camarwain efo ffeithiau sy'n wir weithiau. 



2 comments:

Tirglas@ twitter.com said...

Dyma'r cynghorydd a gwynodd yn yr wasg am hysbyseb gan gwmni Cartrefi Cymunedol Gwynedd. Cyhyddodd y cwmni am fod yn rhagfarnllyd ac yn ymylu am fod yn hiliol.Pam? Am fod y cwmni yn mynnu fod y Gymraeg yn hanfodol yn y swyddi 'roeddent yn ei hysbysebu. Gan fod CCG wedi ei leoli yng Nghwynedd, naturiol fellu ei bod yn gweithredu'n ddwyieithog,ac angen staff sy'n rhugl yn y ddwy iaith. Eto, yn ddiweddar cyflwynodd ddeiseb i'r cynulliad yn gofyn am, yn ei eiriau ef, Pencampwr y Gymraeg. A'i swyddogaeth? Ceisio hybu defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned. Rhyfel do fyd.

Cai Larsen said...

Dwi'n meddwl bod ychydig o gamddealltwriaeth yma. Dweud bod Plaid Cymru yn 'ymylu ar fod yn hiliol' wnaeth o am feirniadu penderfyniad CC i beidio a mynnu bod y Gymraeg yn hanfodol i uwch swyddogion.

Ond yn ei hanfod mae'r pwynt yn un teg.