Sunday, February 28, 2016

Gair olaf am y tro ar yr etholiadau Gwyddelig

Mae etholiadau Gweriniaeth Iwerddon wedi gadael y wlad yn rhywle nad yw wedi bod o't blaen.  Mae'r ddwy blaid geidwadol Rhyfel Cartref yn debyg iawn o ran maint gyda FG yn colli sleisen enfawr o'i phleidleisiau ac i raddau llai ei TDs.  Perfformiodd y blaid Rhyfel Cartref arall FF yn dda - yn well na'r disgwyl - yn arbennig felly mewn ardaloedd gwledig.  Perfformiodd Sinn Fein yn well na wnaeth yn 2010 gan ennill seddi ar hyd y wlad - ond ddim cystal a roedd nifer yn disgwyl.  Cafodd Llafur brofiad tebyg i un y Lib Dems yn y DU y llynedd, a gwnaeth amrywiaeth eang o ymgeiswyr a grwpiau annibynnol yn dda iawn.

Mae yna lywodraeth amlwg wedi ymddangos o'r canlyniad cwbl anisgwyl yma - clymblaid FG / FF - gyda chymorth rhai o'r elfennau annibynnol gene pool - pobl sydd a'i gwreiddiau yn y ddwy brif blaid - os oes angen hynny.  Ond 'dydi FG a FF ddim yn debygol o wneud hynny.  Y rheswm am hynny ydi bod y Chwith yn y Weriniaeth yn wasgaredig iawn - gyda Sin Fein a nifer o grwpiau llai - a mwy asgell chwith - am yddfau ei gilydd.  Petai'r ddwy blaid fawr yn clymbleidio SF fyddai'n arwain y yr wrthblaid.  Byddai hynny'n eu darparu efo cyfle i uno'r Chwith Gwyddelig o gwmpas eu baner.  Dewis go iawn i'r etholwyr ydi'r peth diwethaf mae'r prif bleidiau a'r sefydliad Gwyddelig ei eisiau.  Felly maen nhw'n anhebygol o ddilyn y trywydd hwn.


   Y Brodyr Healy-Rae, Danny a Michael - Annibynnol.  Cafodd y ddau eu hethol yn Kerry - gyda Michael yn cael y bleidlais uchaf yn y wladwriaeth.  


Y canlyniad mwyaf tebygol i hyn oll ydi ymgais gan un blaid - gyda chymorth grwp o annibynwyr o bosibl - i lywodraethu fel llywodraeth leiafrifol yn ogystal a chydsyniad distaw bach y brif blaid arall. Rhywbeth tebyg i'r hyn ddigwyddodd yn yr Alban rhwng 2007 a 2011, ond mewn amgylchiadau llawer mwy cymhleth.  Byddai hynny'n gadael y blaid fyddai'n arwain yr wrthblaid mewn lle anodd - byddai'n rhaid iddi ymddwyn fel gwrthblaid tra'n gwneud yn siwr nad yw'n dod a'r llywodraeth i lawr.  Ni fydd hynny'n hawdd i'w gynnal - yn arbennig mewn diwylliant gwleidyddol sydd wedi arfer efo gwrthdaro chwyrn.  

Y canlyniad mwyaf tebygol ydi etholiad arall o fewn ychydig fisoedd mae gen i ofn.


No comments: