Tuesday, February 02, 2016

Llafur Cymru yn cefnogi'r economi (hy un Essex)

Gair bach o ganmoliaeth am unwaith i ymgeisydd Llafur yn Arfon, Sion Jones.  A chymryd bod y trydariad isod yn ddibynadwy, ymddengys bod Sion yn dilyn esiampl Plaid Cymru ac yn argraffu ei ddeunydd etholiadol yn lleol.  Yn amlwg mae hyn yn rhywbeth i'w groesawu.



Serch hynny mae yna rhywbeth ychydig yn anarferol am y geiriad - pan rydym yn dweud ein bod yn 'gwrthod' gwneud rhywbeth, mae yna rhywun yn ceisio ein gorfodi i wneud rhywbeth yn erbyn ein hewyllys gan amlaf.  Pwy tybed fyddai'n ceisio gorfodi ymgeisydd i argraffu ei ddeunydd y tu allan i'w etholaeth?  Un ateb posibl ydi'r 'Blaid Lafur Gymreig'  - neu o leiaf byddai rhywun yn credu hynny o edrych ar ffrwd trydar Carl Harris - @cjharris85.

Mae Carl wedi bod yn cael cip ar wariant diweddar y Blaid Lafur 'Gymreig' ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Yn ol ei drydariad cyntaf ar y pwnc ymddengys iddynt wario £14k ar eu 'gwrw' Americanaidd.


Rwan mi geisiwn fod yn garedig.  Duw a wyr pam y byddai'r Blaid Lafur Gymreig eisiau gwasanaethau 'gwrw' Americanaidd, ond os oes rhaid iddyn nhw gael un, mae'n siwr bod rhaid mynd i America i chwilio amdano. Mae croeso iddyn nhw wastraffu eu pres os ydyn nhw eisiau gwneud hynny.   Mae'n debyg bod yna rai mathau o gyngor neu wasanaethau nad ydynt ar gael yng Nghymru.  Iawn, gadawn i honna fynd 'ta.  Beth arall mae Carl wedi ei ddarganfod?


Hmm - deunyddiau etholiadol ydi'r rheiny.  Be arall?  


Paratoi a phostio deunyddiau etholiadol.  Be arall?



Gwasanaethau cwmni paratoi gwefannau.  Ddim ar eu pennau eu hunain yn y fan yna debyg.  Be arall?


Argraffu deunyddiau etholiadol i'w dosbarthu yng Nghymru.  Be arall?


Mwy o'r un peth.  Unrhyw beth arall?


Taflenni.  Oes yna fwy?



Mwy o'r un peth.  Oes yna fwy?


A - posteri.  Mwy?


Mwy o bosteri.  


Mwy o bres yn mynd o Gymru i Essex felly, diolch i'r Blaid Lafur Gymreig.  Ydi hyn yn dechrau mynd yn llwyth o bres dywedwch?


Arglwydd mawr mae yna wariant anferth fan hyn.  Oes 'na fwy?


Mae'n anodd gwybod beth i'w ddweud mewn gwirionedd.  Mae Llafur eisiau i etholwyr Cymru fuddsoddi eu ffydd ynddyn nhw trwy bleidleisio iddynt ym Mis Mai - ond dydyn nhw ddim eisiau buddsoddi eu harian eu hunain yn economi Cymru.

Dweud y cyfan mewn gwirionedd.



















2 comments:

Anonymous said...

Wedi gweld deunyddiau etholiadol SJ ar ei drydar heddiw....dewis lliwiau diddorol iawn a dim ond symbol llafur bychan iawn ar y gwaelod, ymgais i ddrysu etholwyr o bosib??

Anonymous said...

Ond mae Cyngor Gwynedd yn fodlon gwario bron i Hanner Miliwn o £ o arian cyhoeddus ar wasanaethau ymgynghorwyr tu allan i Wynedd ????

Ble mae Polisi Plaid Cymru ar gadw'r bunt yn lleol wedi mynd ???