Sunday, February 14, 2016

Y Mail ydi'r Mail _ _

_ _ ble bynnag mae o.  Mi fydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn gyfarwydd ar papur dyddiol senoffobaidd sydd byth a hefyd yn ceisio dychryn ei ddarllenwyr efo straeon am ddrygioni tramorwyr.  Mae hwn yn hen draddodiad i'r papur - gwariodd gryn dipyn o amser cyn yr Ail Ryfel Byd yn ein rhybuddio rhag drygioni'r Iddewon ac yn canu clodydd y diweddar Adolf Hitler.

Bydd llawer ohonoch hefyd yn ymwybodol o sterics hysteraidd gwrth annibyniaeth y papur yn y misoedd cyn refferendwm yr Alban y llynedd.  Mae'r sterics hwnnw wedi mynd rhagddo fwy neu lai yn ddi dor ers hynny - er i'r refferendwm gael ei hennill gan ochr y Mail.

Ond efallai na fyddwch mor gyfarwydd a'r fersiwn Wyddelig.  Mae'n ddigon tebyg i'r lleill.  



Yr hyn a geir yma ydi ymdrech i ddifa ymgyrch etholiadol un o aelodau hynnaf y Dail, Joe Costello yn Dublin Central.  Mae plaid Costello - Llafur - wedi bod mewn clymblaid efo hoff blaid y Mail (Fine Gael) am bum mlynedd, ond mae yna ogwydd yn erbyn y pleidiau llywodraethol yn y brif ddinas, ac mae'r gogwydd hwnnw wedi gadael y ddwy blaid lywodraethol yn ymladd yn erbyn ei gilydd am sedd olaf Dublin Central. 

Felly mae'r Mail wedi dod o hyd i lun o Costello, ei wraig Emer, ac un o arweinwyr gangiau drwgweithredwyr Dulyn a dynwyd yn ystod ymgyrch afleyddianus Emer i amddiffyn ei sedd Ewropiaidd ddwy flynedd yn ol.  Mae yna hysteria am gangiau yn Nulyn ar hyn o bryd am resymau amlwg.  Tynnir miloedd o luniau o bobl efo ymgeiswyr  yn ystod ymgyrchoedd etholiadol, a dydi'r ymgeiswyr ddim yn gwybod pwy ydi 95% o'r bobl maent yn cael eu lluniau wedi eu tynnu efo nhw.  Dylai hynny fod yn amlwg i bawb - hyd yn oed darllenwyr y Mail.

Ond dyna fo, y Mail ydi'r Mail - ble bynnag mae'n cael ei gyhoeddi.

1 comment:

Anonymous said...


Diddorol. Yw'r papurau yn perthyn i'w gilydd?