Saturday, February 13, 2016

Etholiadau Gweriniaeth Iwerddon - rhan 2 - Fianna Fail

Mae'r blog yma wedi nodi sawl gwaith eisoes batrwm hynod anarferol gwleidyddiaeth Gweriniaeth Iwerddon.  Yr hyn sy'n hynod ydi bod gwleidyddiaeth etholiadol wedi adlewyrchu hollt chwerw a greuwyd mewn cymdeithas Wyddelig  yn ystod y Rhyfel Cartref, a bod y patrwm hwnnw wedi goroesi am bron i ganrif.  Canlyniad hyn ydi bod gwleidyddiaeth y Weriniaeth wedi ei ddominyddu gan ddwy blaid geidwadol, Fine Gael a Fianna Fail - pleidiau a gododd o'r Rhyfel Cartref - am y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif.

Fianna Fail oedd y fwyaf o'r ddwy blaid yma am y rhan fwyaf o'r cyfnod - a'r un mwyaf hyblyg o ran polisi economaidd.  Cafodd ei sefydlu gan Eamonn DeValera - arweinydd yr ochr a gollodd y Rhyfel Cartref yn 1926 - flwyddyn wedi i Blaid Cymru gael ei sefydlu.  

Yn wahanol i Blaid Cymru tyfodd Fianna Fail yn gyflym iawn, gan sefydlu llywodraeth leiafrifol yn 1932 a mynd ati i ddominyddu gwleidyddiaeth y Weriniaeth tan 2011.  Yn wir am y rhan fwyaf o'r amser hwnnw roedd yn fwy o fudiad cenedlaethol na phlaid wleidyddol.  Ychydig iawn, iawn o bleidiau gwleidyddol democrataidd sydd wedi bod mor llwyddiannus yn unrhyw le yn y Byd.





Penllanw llwyddiant FF - o ran nifer o bleidleisiau beth bynnag - oedd 2007.  Cafodd fwy o bleidleisiau na gafodd yr un blaid yn hanes y wladwriaeth ar ddiwedd cyfnod y Teigr Celtaidd.  Yna daeth y chwalfa economaidd a syrthiodd pleidlais Fianna Fail oddi ar ochr dibyn yn etholiad 2011.  Dau ganfyddiad oedd y tu ol i hyn - bod stiwardiaeth FF o'r economi wedi bod yn anghyfrifol a'r honiadau o lygredd oedd wedi amgylchu'r blaid ers y saith degau.  Roedd pobl yn fodlon maddau ychydig o lygredd os oedd llwyddiant economaidd yn dod yn ei sgil - ond newidiodd yr agwedd yn llwyr yn wyneb anhrefn economaidd.

A dydi FF heb symud ymlaen fawr ddim ers hynny.  Mae'n sicr mai eu gelynion traddodiadol - Fine Gael - fydd y blaid fwyaf o ddigon wedi'r etholiad, ac mae bron yn sicr mai'r blaid honno fydd yn arwain y llywodraeth nesaf.  Mae'n debyg y bydd FF yn cael canran ychydig yn uwch na'r 17% a gawsant yn 2011, ond byddant yn brwydro yn erbyn Sinn Fein - plaid oedd efo nesaf peth i ddim cefnogaeth yn y Weriniaeth (roedd yn wahanol yn y Gogledd wrth gwrs) ar droad y mileniwm.  

Byddwn yn disgwyl i FF ennill y gystadleuaeth honno y tro hwn, ond dydi'r rhagolygon hir dymor ddim yn arbennig o dda iddynt.  I lwyddo mewn gwleidyddiaeth Gwyddelig mae'n rhaid bod yn gystadleuol yn nhalwrn etholiadol Dinas Dulyn - ac maent yn ei chael yn anodd cystadlu gyda FG ar y Dde a SF a llu o grwpiau radicalaidd eraill ar y Chwith yno.  Yn ychwanegol at hynny maent yn dioddef o broblem y Blaid Lafur Albanaidd - demograffeg anffafriol.  Pobl mewn oed sy'n pleidleisio iddynt yn bennaf.  

Mae nifer o bobl wedi rhagweld diwedd gwleidyddiaeth y Rhyfel Cartref ers degawdau.  Byddai bron i'r cwbl o'r pleidiau hynny wedi cymryd mai FG fyddai'n diflannu, neu o leiaf yn troi'n blaid fach iawn oherwydd hynny.  Mae'n ymddangos bod rhan gyntaf y broffwydoliaeth am gael ei gwireddu - ond nid felly'r ail.  



No comments: