Monday, February 29, 2016

Yr unig blaid unedig?

Rydan ni wedi son eisoes am oblygiadau posibl agosatrwydd refferendwm Ewrop ag etholiad y Cynulliiad.  Heb fynd i ail adrodd y stori, awgrymais bod dau bosibilrwydd:

1). Bod yr etholiad yn cael ei dominyddu'n llwyr gan naratif Prydeinig.  Byddai hynny'n dda i'r pleidiau unoliaethol, ac yn arbennig felly UKIP
2). Bod yr ymgyrch etholiadol yn cael ei dominyddu i'r fath raddau gan yr ymgyrch Ewrop fel nad oes fawr o neb yn sylwi arni, a bod hynny 'n llusgo'r cyfraddau pleidleisio tua'r llawr.  Byddai hynny - mae'n debyg - yn llesol i Blaid Cymru.

Ond o weld y trydariad isod gan AS Aberconwy, Guto Bebb mae rhywbeth arall yn fy nharo.


Mae Guto'n gwbl gywir bod ymddangosiad David Jones (AS Gorllewin Clwyd) gydag UKIP yn rhoi hygrededd i'r blaid wrth Ewropiaidd ymysg Toriaid, ac felly yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd Janet Finch Saunders yn cael ei hailethol.  Ond yr hyn sy'n fwy arwyddocaol ydi'r ffaith ydi bod ymgyrchu yn erbyn yr Yndeb Ewropiaidd yn bwysicach i David Jones nag amddiffyn sedd ei protoge, a bod y Toriaid yn fodlon ffraeo'n gyhoeddus tros y mater.  Rydym wedi clywed ffraeo felly ar lefel gweinidogol tros y dyddiau diwethaf wrth gwrs.  Y gwir ydi bod ffraeo am Ewrop yn rhan  o DNA y Toriaid.  Meddyliwch am y naw degau.  Ychwanegwch at hynny'r ffaith bod tyndra eisies yn bodoli oherwydd y newidiadau arfaethiedig yn y ffiniau etholiadol am gael effaith hynod niweidiol ar y Toriaid yng Nghymru, a bod cystadleuaeth chwyrn am y seddi 'diogel'.  Mae yna bosibilrwydd cryf o ffraeo Toriaidd go iawn yn yr wythnosau sy'n arwain at yr etholiad ym mis Mai.  Dydi etholwyr ddim yn hoff o bleidiau sy'n chwifio eu dillad budur yn gyhoeddus.

A daw hynny a ni at y Blaid Lafur - mae'r blaid honno wedi symud o ddisgyblaeth haearnaidd o dan Tony Blair lle nad oedd neb yn cael dweud fawr ddim i'r eithaf arall lle mae pawb yn cael credu beth maen nhw ei eisiau, dweud beth maen nhw ei eisiau a ffraeo'n gyhoeddus am beth bynnag maen nhw ei eisiau.  Ac wedyn dyna UKIP sydd heb ddewis ymgeiswyr rhanbarthol yng Nghymru eto oherwydd ffraeo mewnol, sydd a'r rhan fwyaf o'u ychydig aelodau etholedig wedi ymddiswyddo, lle mae llythyrau maleisus yn cael eu dosbarthu'n fewnol gan aelodau UKIP am wleidyddion blaenllaw UKIP.

Mae hynny'n gadael y Dib Lems a Phlaid Cymru.  Go brin y bydd y cyntaf o 'r rhain yn ffactor arwyddocaol fis Mai, sy'n gadael y Blaid.  Bydd y Blaid yn ol pob tebyg yn cael ei hun yn y sefyllfa  o fod yr unig blaid arwyddocaol fydd yn wynebu'r etholiad ym mis Mai yn unedig, tra bod pawb arall yn ffraeo ymysg ei gilydd yn gyhoeddus.  Mae'r sefyllfa yna'n anarferol os nad unigryw - ac mae'n sefyllfa sy'n cynnig cyfleoedd i elwa'n etholiadol.


No comments: