Wednesday, February 24, 2016

Pwy sy'n rhy hen i wleidydda yn ol Llafur Arfon?


Rydym eisoes wedi edrych ar yr esiampl bach rhyfeddol yma o
ageism gan Blaid Lafur Arfon.  Beth bynnag am hynny, dwi'n rhyw feddwl bod y bennod yn cynnig cyfle da i gynnal cystadleuaeth fach.



Ar ol gwneud ychydig o syms bach elfennol i weld pwy mae Llafur Arfon yn eu hystyried eisoes yn rhy hen a musgrall i wleidydda, dwi wedi mynd ati i gywain lluniau nifer o hen begoriaid.  Mae rhan fwyaf yn hawdd, un neu ddau yn anodd iawn - ond mae'r cwbl yn dal i wleidydda.




                                  





































8 comments:

Anonymous said...

Mae o'n adrodd cyfrolau am ragfarnau'r cyfryngau nad oes dim yn cael ei wneud o'r stori yma. Petai wedi dweud yn ei bamffled bod pobl hoyw yn anaddas neu bobl o India mi fyddai'r BBC, y Faily Post a Golwg tros y stori i gyd. Ond pan mae Llafur yn pigo ar grwpiau llawer mwy, y canol oed a'r hen does yna ddim gair. Mae bod efo rhagfarnau yn erbyn rhai grwpiau yn iawn, ond dim eraill.

Anonymous said...

Ond nath o ddim dweud hynny naddo ! Mond deud nath o y bysa fo yn sefyll mwy nag un tymor. Neu ydw'i wedi methu rhywbeth ??????

Anonymous said...

Swn ni ddim yn cwyno am y peth Cai bach, mae'r pamffled yn pechu lot o bobl hen. Nhw ydi'r bobl sy'n fotio wrth gwrs. Mi gafodd mam wasgfa pan welodd hi y sylwadau. Dwi'n siwr y bydd llwyth o bobl eraill hefyd.

Anonymous said...

Yma yng Ngheredigion mae'r Blaid Lafur newydd ddewis ei ymgeisydd. Crwt ifanc 21 oed o Arfon sy'n fyfyriwr yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth. Does neb for' hyn yn nabod e. Pwy yw e?

Cai Larsen said...

Anon7:27 Ti wedi colli rhywbeth. Pam ti'n meddwl bod boi 25 oed yn teimlo 'r angen i sicrhau pawb na fyddai'n rhoi'r gorau iddi ar ol tymor oherwydd 'hensint'?.

Dwi ddim yn gwybod pwy ydi 'r boi Ceredigion mae gen i ofn.

Anonymous said...

Tria hwn

https://twitter.com/iwan4ceredigion

Cai Larsen said...

Sori, dal ddim callach.

Hogyn o Rachub said...

Oni'n meddwl ei fod o'n hŷn na fi deu gwir. A dwi'n 30.