Saturday, May 02, 2015

Ymgyrch Llafur yn Arfon yn syrthio'n ddarnau

Rwan efallai fy mod i yn hen ffasiwn, ond dwi wedi ymwneud a rhyw etholiad neu'i gilydd trwy gydol fy mywyd fel oedolyn.  Yn ystod yr amser hwnnw dwi'n rhyw feddwl fy mod wedi dod i ddeall rheolau sylfaenol ymladd etholiad cyffredinol yn weddol dda.  Maen nhw'n sylfaenol syml.

1). Mae'r etholiadau cyffredinol yn ymwneud a materion economaidd - rhaid i pob neges sylfaenol ymwneud a materion bara menyn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
2). Mae rhaid i naratif pleidiol mewn etholiad cyffredinol gysylltu a'r naratif ehangach.  Mae hyn yn dod a ni'n ol i faterion economaidd.
3). Mae'n rhaid ymdrin a'r presennol - does yna ddim pwynt ymladd brwydrau'r gorffennol na'r dyfodol.  
4). Mae'n rhaid gwneud y defnydd mwyaf effeithiol posibl o'r adnoddau sydd ar gael.
5). Mae'n rhaid cadw ffocws tan y diwedd.
6). Mae'n hanfodol adnabod cefnogwyr a sicrhau eu bod yn pleidleisio ar y diwrnod.

Mae ymgyrch Llafur yn Arfon wedi llwyddo i dorri pob un o'r rheolau yna tros y dyddiau diwethaf.  Ychydig iawn o adnoddau sydd ganddyn nhw ar lawr gwlad, ac mae hi'n benwythnos olaf ymgyrch etholiadol ffyrnig.  Penderfynodd tim ymgyrchu Llafur mai'r ffordd orau o dreulio eu dydd Sadwrn olaf oedd trwy wisgo fel anifeiliaid gwyllt, a dilyn bws etholiadol y Blaid o gwmpas yr etholaeth.  Felly tra'r oedd actifyddion y Blaid yn dosbarthu  miloedd o daflenni, roedd tim ymgyrchol Llafur yn dawnsio mewn cylchfannau lle'r oedd y bws yn pasio.





Mae'n anodd bod yn siwr pam eu bod yn ymddwyn mewn modd mor bisar, ond fel strategaeth etholiadol roedd yn esiampl o idiotrwydd di glem o'r math gwaethaf.  Duw a wyr pwy sy'n gyfrifol am eu hymgyrch, ond petai'n aelod o'r Blaid byddai wedi cael y sac yn syth oherwydd diffyg proffesiynoldeb a chrebwyll o sut i ymladd etholiad.  Mae'n hanfodol i blaid wleidyddol ymddangos fel plaid ddifrifol a chyfoes, ac nid fel grwp pwyso ymylol.  Mae'r Blaid wedi hen ddysgu'r wers honno.  

Mae'n bosibl bod antics Llafur yn rhywbeth i'w wneud efo Deddf Hela, 2004 - neu o bosibl Deddf Atal Creulondeb i Anifeiliaid 1911 - pwy a wyr?  Dydi'r naill ddeddf na'r llall yn ddim oll i'w wneud efo'r etholiad yma.  Gwnaeth Plaid Lafur Arfon iddyn nhw eu hunain edrych fel grwp protest ymylol heddiw.

4 comments:

Anonymous said...

Onid yw Leanne Wood wedi newid polisi PC yn ddiweddar ar ladd moch daear bethbynnag ?

http://syniadau--buildinganindependentwales.blogspot.co.uk/2015/04/question-marks-over-plaids-policies.html

Tydi o ddim yn fater sy'n poeni mymryn arnaf i, na trwch etholwyr Arfon, fe dybiwn i. Mae'n bosib fod y bobl yma'n gwneud y camgymeriad ymgyrchu clasurol o goelio fod mater sy'n bwysig iawn i chi'n bwysig i bobl eraill.

chwads said...

Yr unig sylwadau glywes i, Cai, oedd ''Pennau bach'. Arwydd un ai eu bod nhw wedi rhoi'r fffidil y y to, neu eu bod nhw'n ymgyrchwyr anobeithiol. Dw i'n amau mae'r ola sy'n wir. Pwy goblyn ydy'r dwl-al sy'n gyfrifol am eu hymgyrch nhw?

Anonymous said...

Mae'r arolygon barn heno yn awgrymu tebygolrwydd uwch o fwyafrif Llafur . Yn rhwystredig, gallai'r SNP a PC gael etholiad llwyddiannus, ond heb gael math o ddylanwad wedyn. Buasai'r gwrthdaro rhwng Caeredin a San Steffan werth ei weld, ond er mwyn i PC elwa yn 2016, buasai'n rhaid i Gymru ddioddef (fwy byth) o dan Sosialaeth.

Cai Larsen said...

anon 10:12 -Does gan Llafur ddim gobaith o gwbl o gael mwyafrif llwyr.