Thursday, May 14, 2015

Ymddiswyddiadau diweddaraf Llais Gwynedd

Mae'n anhygoel cymaint o gynghorwyr sydd wedi gadael Llais Gwynedd yn ystod hanes byr y corff hwnnw.  Gadawodd Louise Hughes yn dilyn ffrae am na chafodd ei henwebu i sefyll tros Lais Gwynedd yn etholiad y  Cynulliad / San Steffan ddiwedd y llynedd, gadawodd Chris Hughes a Gethin Hughes i ymuno a'r Blaid cyn etholiad cyngor 2012, gadawodd Gwilym Euros a Dafydd Williams, Richard Jones oherwydd amgylchiadau nad oeddynt yn ymwneud a gwleidyddiaeth yn ystod tymor diwethaf Cyngor Gwynedd, a rwan mae Seimon Glyn, Gweno Glyn a Gruff Williams wedi gadael i ymuno a Phlaid Cymru.  Mae hynna'n llwyth o gynghorwyr i'w colli.  

Rwan dwi ddim am glochdar - er fy mod yn hapus i ddeall bod y triawd wedi croesi'r llawr.  Mae'n dda gen i bod yr ymadawiad wedi bod ar delerau da y tro hwn, ac nad oes yna lawer o ddrwg deimlad wedi ei greu.  Mae'n bryd i'r hollt rhwng y cynghorwyr hynny oddi mewn i Lais Gwynedd sy'n genedlaetholwyr a gweddill y Mudiad Cenedlaethol ddod i ben.  Roedd yna resymau dealltadwy tros enedigaeth Llais Gwynedd - ond mae'r rhesymau hynny bellach yn cilio i'r gorffennol.  Mae'r sefyllfa gyllidol sydd ohoni yn siwr o arwain at fygythiadau sylweddol i gymunedau'r Gogledd Orllewin, ac mae'r bygythiadau i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg cyn gryfed ag erioed.  Mae Llais Gwynedd yn rhy fach - ac a barnu oddi wrth yr holl ymddiswyddiadau - rhy ansefydlog - i fynd i'r afael a'r grymoedd mawr sy'n bygwth ein cymunedau.  Mae caredigion Cymru a'r Gymraeg yn ddigon prin beth bynnag - mae'n bryd i ni roi chwerwedd y gorffennol i'r neilltu a symud ymlaen i amddiffyn yr hyn sy'n annwyl i ni i gyd.

10 comments:

Anonymous said...

A mae angen i tithau fod yn llai chwerw hefyd er mwyn i ni fedru tynnu mwy o bobl i mewn i'r camp i ddiogelu yr hyn sydd yn annwyl i ni gyd. Mwy o straeon positif plis Cai a llai o'r crap anti llafur trwy'r amser a thargedu pobl yn ddiddiwedd.

Cai Larsen said...

Llafur ydi'r rheswm pam bod Cymru yn dlawd ac yn ddibynol. Mae eu llyfdra wedi gwneud mwy o niwed i Gymru na hyd yn oed y Toriaid. Os ti ddim eisiau gweld beirniadaeth o Lafur, nid dyma'r lle i ddod mae gen i ofn.

Anonymous said...

Mae dy sylwadau n oddefgar iawn,ddywedwn i.Yn bersonnol,ac wedi rhoi fyny efo ego y cynghorydd Glyn a gwenwyn Ll.G am ddeg mlynedd yma yn Llŷn a thu hwnt,fuaswn i ddim mor groesawus.Gweld sut mae'r gwynt yn chwythu mae'r rhain a mi ffraeant eto pan ddawpenderfyniadau anodd i'w gwneud

Gyda llaw,dwi'n mwynhau y broses wrïo,blasus iawn ydi sawl prŷd yna

Simon Brooks said...

Na, rwyt ti'n ddoeth i gymodi, Cai. Cyn i dri Dwyfor groesi'r llawr, Llais Gwynedd oedd prif blaid Llyn ac Eifionydd, ac roedd hollt ddaearyddol yn agor yn y sir.

At hynny, mi fasa Seimon Glyn wedi gwneud yn dda yn erbyn Dafydd Elis-Thomas yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesa'. Dwi ddim yn meddwl y basa fo wedi curo, efallai, ond does neb yn amau na fyddai mwyafrif Dafydd El wedi dod lawr yn sylweddol.

Felly, nid o safbwynt o wendid y penderfynodd y tri yma groesi'r llawr, ond o gryfder cymharol. Gan hynny, gwell meddwl am yr ail-ymuno yn nhermau cymod yn hytrach na buddugoliaeth, ceisio tynnu mwy i mewn i'r gorlan, a symud ymlaen felly mewn ysbryd da.

Anonymous said...

A beth am ymgeiswyr y Blaid gollodd etholiad cyngor sir ddwaethaf,yng ngwyneb clymblaid atgasedd Ll.G?

Sawl un yn weithgar ac yn aelodau ers blynyddoedd,oni ddylsai'r canghennau lleol gytuno?

Mae'r glymblaid gwrth Bleidiolyn chwalu yng ngwyneb narrative o dorriadau o Llundain,a mi fuasai wedi colli'n ryfeddol o drom yn erbyn DET.

Teyrngarwch bregus iawn sydd yma ,a dwi'n ofni fydd y Blaid ar ei cholled yn y tymor hir.

Anonymous said...

Yn anffodus, dwi'n cytuno gyda'r gŵr anhysbys adawodd neges am 9.59pm. Nid o reidrwydd am y blaid Lafur, ond am farn negyddol a beirniadaeth di-ben-draw BlogMenai.

Rydw i, yn bersonol, wedi derbyn chwip ei dafod drwy ymosodiad hollol bersonol ar y we, er nad yw'n fy adnabod nag yn gwybod dim oll am yr hyn a wnaf dros Gymru a'r Gymraeg yn feunyddiol.

Yn gyffredinol rwyf o'r un farn ag ef yn aml, ond mae'n rhy hawdd bod yn arwr y we a gwneud dim go iawn, jest cwyno.

Llwyddodd y brawd i wneud gelyn ohonof yn hollol ddiangen. Ac, hyd y gwn i, mae'n hollol anymwybodol o hynny. Os y gwnaeth hynny i mi, dwi'n amau efallai bod yr agwedd honno'n tarfu ar sawl un.

Cai Larsen said...

Un boi anhysbys yn cytuno efo boi anhysbys arall ynglyn a chyhuddiad cyffredinol sydd wedi ei gyfeirio at rhywun sy'n rhoi ei enw y tu ol i bob dim mae'n ei sgwennu.

O ddifri, mae'n syndod i mi os ydw i wedi ymosod yn bersonol ar unrhyw un - dydi Blogmenai byth yn rhedeg straeon personol (er bod llwyth yn cael eu hanfon ataf), ond mi fydd pobl yn cael eu beirniadu am eu safbwyntiau gwleidyddol weithiau, neu oherwydd anghysondeb neu anonestrwydd mewn perthynas a gwleidyddiaeth.

Dydi 'Blogmenai' ddim yn 'gwneud' stwff personol.

Cai Larsen said...

O ran y sylwadau eraill na i ond ailadrodd be dwi wedi ei ddweud yn barod. Dim ond gelynion cenedlaetholdeb sy'n elwa o hollt ymysg cenedlaetholwyr. Does yna ddim pwrpas cadw ffrae yn mynd er mwyn hynny. Mae'n bryd dod a'r ffrae i ben.

Anonymous said...

Os daw mwstasho yn ol byddaf yn gadael y Blaid

Cai Larsen said...

Mae'n fwy tebygol y bydd Uffern yn rhewi'n gorn.