Wednesday, May 27, 2015

Arweinyddiaeth y Blaid Lafur

Os ydi fy syms i 'n gywir mae'r Blaid Lafur Brydeinig wedi cael 22 arweinydd gwahanol ers 1908.  Pedwar yn unig o'r rheony sydd wedi cael eu hethol mewn etholiad cyffredinol yn brif weinidog - Ramsey McDonald, Clem Atlee, Harold Wilson a'r erchyll Tony Blair.  Dydi pedwar prif weinidog mewn 107 o flynyddoedd ddim yn record wych.  Mae'r Toriaid wedi cael 11 prif weinidog tros yr un cyfnod.  

Roedd llywodraeth cyntaf McDonald yn 1924 yn un anarferol - nid Llafur oedd y blaid fwyaf - roedd gan y Toriaid fwy o seddi na nhw.  Llywodraeth leiafrifol oedd ei ail lywodraeth hefyd yn 1929, er bod y Blaid Lafur efo mwy o aelodau seneddol y tro hwnnw.  Roedd ganddo fwyafrif llethol y trydydd tro - ond arwain clymblaid 'cenedlaethol' oedd yn hytrach na llywodraeth Lafur.

Cafodd Clem Atlee fwyafrif llethol yn 1945 yn sgil poblogrwydd eu polisi i sefydlu gwladwriaeth les.  Collodd Llafur y rhan fwyaf o'u mwyafrif yn yr etholiad canlynol yn 1950 gan eu gafael efo mwyafrif o 5 ac roedd y Toriaid yn ol mewn grym erbyn 1951.

O bedair sedd yn unig enilliodd Harold Wilson ei etholiad cyntaf yn 1964 er iddo gael mwyafrif llethol yn 1966.  Collodd etholiad 1970, cyn mynd ati i ffurfio llywodraeth lleiafrifol yn Chwefror 1974 - lle cafodd fwy o seddi ond llai o bleidleisiau na'r Ceidwadwyr.  Ffurfiodd lywodraeth fwyafrifol yn ddiweddarach y flwyddyn honno wedi ail etholiad.  Roedd ganddo fwyafrif o dri.  

Roedd hi'n 23 blynedd cyn i Lafur ennill etholiad arall o dan arweinyddiaeth y gwir anrhydeddus Tony Blair.  Enilliodd efo mwyafrif llethol yn 1997 a 2001 a chyda mwyafrif llai o lawer yn 2005 - y tro diwethaf i Lafur ennill etholiad cyffredinol tan 2020 - ar y gorau.

Mae'n  amlwg bod y Blaid Lafur yn ei chael yn hynod o anodd i gael prif weinidog wedi ei ethol - ac yn arbennig felly efo mwyafrif cyfforddus.  1945, 1966, 1997 a 2001 ydi'r unig adegau pan mae hynny wedi digwydd mewn gwirionedd.  Mae'n bwysicach iddyn nhw wneud y dewis 'cywir' neu a bod yn fwy manwl y dewis mwyaf etholadwy wrth ddewis eu harweinydd nesaf.  Yn anffodus o safbwynt y Blaid Lafur dydyn nhw ddim yn gwneud y dewis gorau yn aml iawn - fel mewn cymaint o feysydd eraill mae ystyriaethau mewnol y blaid yn bwysicach nag ymarferoldeb ac effeithlionrwydd.  

3 comments:

Anonymous said...

Rwyt ti wedi anghofio am Gordon Broon. Hawdd gwneud :)

Cai Larsen said...

Na, wnes i ddim anghofio amdana fo na Callahagan. Nid trwy etholiad cyffredinol y cawsant eu gwneud yn brif weinidogion ond trwy brosesau mewnol y Blaid Lafur.

Cai Larsen said...

Dwi wedi addasu rhyw gymaint i osgoi camddealltwriaeth.