Tuesday, March 17, 2015

Ynglyn a gwneud addewidion na ellir eu gwireddu

Rydan ni wedi son o'r blaen am addewidion ymgeisydd Llafur yn Arfon, Alun Pugh ynhlyn a'r hyn fydd yn digwydd os caiff ei ethol.  Mae gaddo y bydd cytundebau sero awr yn cael eu diddymu ac isafswm cyflog o £8 yn cael ei gyflwyno os caiff ei ethol yn amlwg yn - wel - anwiredd.

Fel llawer o gamarwain Llafur mae yna rhywfaint o wirionedd iddo.  Mae Llafur bellach yn gwneud synnau yn erbyn cytundebau sero awr, ac mae hefyd yn bolisi gan Lafur i gyflwyno lleiafswm cyflog o £8 yr awr - erbyn 2020 pan fydd Alun yn 74 oed.  Yn wir, byddai £8 erbyn 2020 yn golygu bod Llafur wedi llwyddo i arafu'r cynnydd yn yr isafswm cyflog.


Ond mae yna nifer o resymau pam bod yr honiad yn anonest.  Dydi hi ddim yn dilyn y byddai Llafur yn cael eu hethol i lywodraeth petai Mr Pugh yn cael ei ethol yn Aelod Seneddol.  Yn wir petaem yn clonio Mr Pugh 39 o weithiau ac yn prynu peiriant amser a dweud wrtho y caiff o neu ei glons sefyll ym mhob etholaeth yng Nghymru yn ystod unrhyw etholiad cyffredinol tros y ganrif diwethaf, a phetai pob copa walltog yng Nghymru yn pleidleisio i Mr Pugh neu un o'i glons mae'n hynod o amheus y byddai llwyddiant y Pughs wedi atal llywodraeth Doriaidd cymaint ag unwaith mewn canrif.

Ond mae yna fwy na hynny wrth gwrs.  Er bod gwleidyddion Llafur yn honni eu bod yn erbyn cytundebau sero awr, roeddynt yn dweud hynny yn 1997 hefyd - ond ni chawsant eu diddymu yn y tair blynedd ar ddeg o reolaeth Llafur.  Cynghorau Llafur ydi'r rhai gwaethaf am ddefnyddio'r math yma o gytundebau, ac mae yna lawer o aelodau seneddol Llafur yn defnyddio'r cytundebau hyn i gyflogi eu staff eu hunain.  Mae'r mudiad Co op sy'n noddi llawer o Aelodau Seneddol Llafur yn hoffi cyflogi pobl yn y ffordd yma hefyd.  Petai Mr Pugh yn aelod seneddol Llafur, a phetai yna lywodraeth Lafur, mae'n debygol na fyddai llawer o gyd aelodau Mr Pugh yn awyddus o gwbl i gael gwared o gontractau sero awr - naill ai oherwydd eu bod yn eu defnyddio eu hunain, oherwydd bod eu ffrindiau adref ar y cynghorau yn eu defnyddio neu oherwydd bod eu noddwyr yn eu defnyddio.  Y tebygrwydd ydi na fyddai dim yn newid - yn union fel ddigwyddodd o 1997 i 2010,

A wedyn wrth gwrs mae Llafur yn ddigon hapus efo cyflogau isel - fel mae'r hysbyseb hwn gan gwmni sydd ym mherchnogaeth Cyngor Caerfyrddin yn ei ddangos - cyngor sy'n cael ei arwain gan blaid Mr Pugh.  


2 comments:

Anonymous said...

Cwestiwn digon rhyfedd - yn dilyn un y gwnes y diwrnod o'r blaen - a oes gan Hywel Williams ddiddordeb mewn peldroed o gwbl , yn enwedig peldroed ar lefel Gogledd Cymru ?

Anonymous said...

Y rheswm yr wyf yn gofyn yw fod Cymdeithas Beldroed Cymru yn ymgynghori parthed symud gemau cyngrhair Cymru (WPL) i'r Haf. Mae cefnogwyr Bangor yn chwyrn yn erbyn y peth, ac yn chwyrn yn erbyn Gwyn Derfel, sy'n rhedeg y sioe.
O weld fod Alun Pugh wedi bod yn Nantporth rhyw wythnos yn ol, yr wyf yn poeni y gallai hwnnw achub y blaen ac arwain rhyw fath o ymgyrch yn erbyn y peth. Mae nifer eisiau dychwelyd i chwarae yn Lloegr. Petai Hywel Williams yn camu i mewn - mae'n destun amlwg ym Mangor - ni fuasai'n rhoi crwsad ar blat i'r Blaid Lafur. (Credaf mai Cofi yw Gwyn Derfel, sydd ddim yn helpu pethau).