Tuesday, March 31, 2015

Llafur Watch - rhif 1,001

Rydym wedi nodi eisoes bod y Blaid Lafur yn fwy parod na'r un blaid arall i geisio cam arwain yr etholwyr trwy ddweud, neu awgrymu pethau sydd - wel jyst ddim yn wir.  Esiampl da ydi'r un isod gan arweinydd y Blaid Lafur Albanaidd lle mae'r ffaith bod yr SNP eisiau hunan lywodraeth i'r Alban yn cael ei droi i awgrymu bod y cenedlaetholwyr eisiau cael gwared o bensiynau.


Wele esiampl arall yn agosach at adref o lawer - honiad gan Alun Pugh bod buddugoliaeth Plaid Cymru yn Arfon wedi helpu rhoi Cameron yn 10 Stryd Downing.


Beth am edrych ar ychydig o ffeithiau yn hytrach na rwdlan celwyddog?

Cafodd y Toriaid 306 o seddi, Llafur 258, y Dib Lems 57, yr SNP 6, Plaid Cymru 3, y Gwyrddion 1, y DUP 9, Annibynnol 1, Sinn Fein 5, yr SDLP 3.  Mae plaid angen o leiaf 326 sedd i gael mwyafrif llwyr.  Roedd y Toriaid 20 sedd yn brin, felly roedd rhaid iddynt ddod o hyd i bartner.  Oherwydd y fathemateg dim ond partneriaeth efo Llafur neu'r Lib Dems oedd yn bosibl mewn gwirionedd, ac mi ddewisodd Cameron y Dib Lems - er bod ei blaid efo mwy yn gyffredin efo Llafur mewn gwirionedd.  Roedd Llafur 68 yn brin.  Iddyn nhw gael mwyafrif byddai'n rhaid sicrhau cytundeb efo o leiaf tair plaid arall - gan gynnwys y Dib Lems.  

Petai Alun Pugh wedi ennill yn Arfon i'r Blaid Lafur mi fyddai'r fathemateg yr un peth.  Byddai'r Toriaid angen ugain sedd ychwanegol - yn union fel a ddigwyddodd yn 2010, a byddent wedi mynd i glymblaid efo'r Lib Dems.  Byddai'n rhaid i Lafur ddod o hyd i dri phartner gan gynnwys y Lib Dems - yn union fel ddigwyddodd go iawn.

Gyda llaw - fel mae'r blog yma wedi nodi sawl gwaith - petai pawb yng Nghymru wedi fotio Llafur mi fyddai gan y Lib Dems a'r Toriaid efo mwyafrif llwyr o 26.  Mewn geiriau eraill byddai'r llywodraeth yn San Steffan yn un Toriaidd / Lib Dem - yn union fel y mae rwan.

Yr unig wahaniaeth petai Alun Pugh wedi ei ethol fyddai bod Arfon yn cael ei chynrychioli gan gi bach i'r chwipiaid Llafur yn Llundain yn hytrach nag aelod sy'n rhoi buddiannau Cymru ac Arfon yn gyntaf.

No comments: