Saturday, March 28, 2015

Argraffiadau o gynhadledd yr SNP

Gan i'r Mrs a finnau ymuno efo'r SNP yn sgil refferendwm annibyniaeth yr Alban y llynedd (mae gan aelodau o'r Blaid hawl i ymuno efo'r SNP) a chyn bod gen i ychydig o wyliau, dyma ni'n meddwl bod waeth i ni gymryd mantais o'n haelodaeth a mynychu'r Gynhadledd Wanwyn.

Dau argraff wnaeth diwrnod cyntaf cynhadledd yr SNP arnaf mewn gwirionedd - y mor o bobl a'r swn.  Roedd y neuadd yn yr Hydro gyda lle i eistedd ar gyfer 3,000 o bobl, ac eto roedd yna bobl yn sefyll ar hyd yr ochrau ac yn y cefn.   Roedd y swn hefyd yn drawiadol - swn pobl yn siarad oedd yn llifo i mewn i'r neuadd o'r cyntedd a'r swn ar lawr y gynhadledd yn ystod araith Nicola Sturgeon.  Roedd y deg munud pan oedd yr holl gynadleddwyr ar eu traed yn gweiddi pan aeth Nicola Sturgeon i lawr y gynhadledd ar derfyn ei haraith hefyd yn fyth gofiadwy.

Ychydig o ffigyrau - mae yna dros i  3,000 o gynadleddwyr - cynnydd o 150% ar y 1,200 aeth i gynhadledd Perth y llynedd.  Mae yna 42 o arddangosfeydd a  200 o gynrychiolwyr y wasg.  Bydd y gynhadledd yn ychwanegu  £1.8 miliwn i economi Glasgow, a dim ond yn Glasgow roedd posibl ei chynnal - mae'n debyg mai 'r Hydro ydi'r unig le yn yr Alban sydd ddigon mawr.  

Roedd rhai o'r bobl oedd wedi mynychu'r gynhadledd ers degawdau yn son yn un o dafarnau Argyle Street wedyn am y diwrnodiau pan roeddynt yn adnabod bron i bawb oedd yn mynychu'r gynhadledd a'r sioc y bore yma o gael eu hunain yn edrych o gwmpas y bore 'ma a chael nad oeddynt yn adnabod y nesaf peth i neb.



No comments: