Wednesday, March 25, 2015

Y Bib wrthi eto

Cyfeirio ydw i at y pennawd ar waelod ochr dde'r sgrin.  Mae'r ymchwydd ym mhleidlais yr SNP yn cael ei ddidgrifio fel SNP threat.  Mae'n anodd meddwl am gynnydd ym mhleidlais unrhyw blaid arall yn y DU (gydag eithriad posibl Sinn Fein) yn cael ei ddiffinio trwy ddefnyddio'r dermenoleg yna gan y gorfforaeth.   Fedar y Bib ddim atal ei hun rhag dangos ei diffyg gwrthrychedd mewn rhai sefyllfaoedd - ac mae'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban yn sefyllfa felly.

3 comments:

Dafydd Williams said...

A beth am BBC 2 Newsnight Nos Lun? Eitem ar yr SNP a Llafur, gyda Evan Davis yn cyfweld â chyn-ymgynghorydd i Alasdair Darling a Frazer Nelson o'r Spectator. Y ddau'n elyniaethus i'r SNP. Does dim cytbwysedd gan y BBC wrth drafod cenedlaetholdeb.

Cai Larsen said...

Mae sefyllfaoedd felly yn weddol gyffredin - ac yn amlach na pheidio dydi'r holwr ddim yn herio rhagfarnau'r cyfranwyr chwaith.

Sion Trewyn said...

Welish i'r rhaglen 'na hefyd. Gwarthus. Mi oedd 'na secsiwn ar UKIP hefyd, ond nath y BBC ddim eu galw nhw'n "threat".