Tuesday, March 24, 2015

Ydi Llafur yn gwybod rhywbeth am Arfon?

Rydan ni wedi son yn y gorffennol am unigrwydd ymgyrch Alun Pugh yn Arfon.  Yn ol y trydariad isod bu Mr Pugh yn dweud wrth ei ddarllenwyr ei fod wedi bod wrthi'n taflennu Llanberis heddiw.  Roedd wrthi yn taflennu pentref cyfagos Penisarwaun ddydd Sul hefyd.


Yn ol ei dystiolaeth ei hun mae ganddo lawer o daflenni i'w postio.



Rwan dydi gwthio pamffledi trwy ddrysau ddim yn ddefnydd da o amser ymgeisydd.  Dwi'n siwr bod ymgeiswyr ar hyd a lled Cymru yn taflennu - fel Mr Pugh - oherwydd nad oes ganddynt lawer o bobl eraill i wneud hynny, ond mi fyddai'n well o lawer petaent yn treulio eu hamser yn siarad efo darpar etholwyr. 

Mae Llanberis wedi ei daflennu gan y Blaid hefyd - a Phenisarwaun - sawl gwaith.  Ond pobl sy'n byw yn y pentrefi hynny oedd yn gwneud y taflennu, nid yr ymgeisydd seneddol.  Pobl leol fydd yn taflennu Dyffryn Ogwen hefyd, a Chaernarfon a'r rhan fwyaf o lefydd eraill yn Arfon ar ran y Blaid.

Dwi ddim yn codi hyn eto i rwbio trwyn unrhyw un yn y baw - ond mae'n codi cwestiwn diddorol.  Cafodd Arfon ei pholio ychydig wythnosau yn ol, ac nid Plaid Cymru oedd yn gyfrifol am y polio hwnnw (does gan y Blaid ddim y pres mawr mae ei angen i dalu am bethau felly).  Yr unig blaid wleidyddol arall fyddai efo diddordeb yn Arfon fyddai Llafur - mae'n sedd darged i'r blaid honno.  

Rydym wedi son eisoes nad ydi Mr Pugh yn cael llawer iawn o gymorth yn lleol - ond byddai dyn yn disgwyl y byddai Llafur yn ganolog yn gwneud iawn am hynny petaent yn meddwl bod ganddynt obaith realistig o ennill y sedd.  Tybed os ydi polio Llafur wedi eu hargyhoeddi bod yna seddi maent yn llawer mwy tebygol i 'w hennill nag Arfon, ac mai dyna pam bod Mr Pugh wedi ei adael efo'r broblem o sut i gael gwared o 20,000 o daflenni?

2 comments:

Anonymous said...

Os ydw i'n deall yn iawn mae Arfon ar y rhestr o 106 o seddi targed Llafur yn ol "Labour List" Bydd felly yn derbyn £1,000 o bres Tony Blair. Mae rhai ymgeiswyr wedi cesio gwrthod y pres gwaedlyd yma. Ydi Alun Pugh wedi ei derbyn?

Anonymous said...

Nawr bod stiwdants Bangor wedi mynd adra am eu gwyliau Pasg, mae gan Alun amser i daflenni cymunedau 'eilradd' fel pentrefi chwarel Arfon. Ni welant unrhyw arwydd ohono fo erbyn Ebril 13 a dechrau'r tymor newydd cofiwch. Yn mynedfa y Brifysgol dwy neu dair gwaith yr wythnos y gwelir fo, yn pysgota pleidleisau pobl ifanc Lloegr ar sail pwnc sy ddim yn berthnasol i fwyafrif etholwyr Arfon (ffioedd myfyrwyr o Loegr)

Phil Davies