Friday, March 20, 2015

Saith rheswm i beidio a phleidleisio tros Lafur

1).  Mae llawer o'i lladmeryddion cyhoeddus yn ddigon hapus i ddweud celwydd - neu o leiaf i wyrdroi'r gwir.   Mae pob plaid yn troelli - ond mae Llafur yn ddigon hapus i ddweud celwydd noeth.   Dydi dod o hyd i gelwydd Llafur ddim yn anodd.  Pan mae Alun Pugh yn honni y byddai ei ethol o yn arwain at ddiddymu cytundebau sero awr, ac y arwain at isafswm cyflog o £8 dydi hynny jyst ddim yn wir.  Does yna ddim perthynas achosol rhwng y naill beth a'r llall. Mae'n bosibl, ond posibilrwydd yn unig yw. Roedd Miliband yn honni ddoe mai dim ond llywodraeth Llafur neu Doriaidd sy'n bosibl er bod y polau yn awgrymu bod llywodraeth un plaid yn hynod anhebygol.  Mae Llafur yr Alban yn honni mai'r blaid fwyaf sy'n ffurfio llywodraeth er bod llawlyfr y cabinet yn ei gwneud yn hollol glir mai nid felly mae pethau'n gweithio.  Mae Phil Bale yn disgrifio'r toriadau fel rhai Toriaidd er i Lafur bleidleisio trostynt.  Toriadau Toriaidd / Llafur ydynt.  Mae dweud celwydd wrth etholwyr yn rhan o ddiwylliant mewnol y Blaid Lafur - dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gorfod meddwl am y peth.  

2). Does ganddi hi ddim parch at yr etholwyr.  Os ydi rhywun yn dweud celwydd wrthych dydi o ddim yn eich parchu.  Dydi Llafur Cymru ddim yn parchu etholwyr Cymru.

3). Mae'n teimlo bod ganddi hawl i 'ch pleidlais - heb orfod gwneud dim i 'w hennill.  Maen ei gwleidyddion yn rhoi'r argraff bod methiant i bleidleisio trostynt yn wendid moesol.

4). Mae Llafur yn methu, ac yn methu, ac yn methu.  Mae Cymru wedi pleidleisio i Lafur ers 1918, a rydan ni'n dal yn dlawd ac ar waelod pob cynghrair economaidd.  Dydi hyn ddim yn fater bach - mae methiant Llafur i fynd i'r afael efo tlodi wedi gwenwyno bywydau cenedlaethau o bobl. 

5). Mae'n ddigywilydd.  Dydi'r record ryfeddol  o fethiant ddim yn ei hatal rhag taeru'n groch mai dim ond trwy bleidleisio iddi hi y gall Cymru lwyddo'n economaidd.  Mae'r digywileidd-dra mor gwbl agored a di lestair fel ei bod bron yn anodd peidio a'i edmygu.

6). Does ganddi hi ddim uchelgais o gwbl tros Gymru - mae eisiau llai o rymoedd na mae'r Toriaid a'r Lib Dems ei eisiau - ac mae hyd yn oed yn rhanedig ar y cwestiwn os ydi Cymru yn cael ei than gyllido.  Er yr holl fethiant, does yna ddim ymdeimlad bod angen arfau mwy effeithiol i fynd i'r afael efo pethau.

7). Waeth i chi fotio i 'r Toriaid ddim.  Mae'r ffordd mae'r ddwy blaid yn edrych ar y Byd yn weddol debyg ac mae eu hagwedd at doriadau mewn gwariant cyhoeddus yn debyg.  

No comments: