Monday, March 02, 2015

Pam nad ydi'r Bib am siarad am Mr Bale a Mr Cook.

Fedrwch chi ddychmygu'r Bib yn peidio a thrafferthu son bod aelod blaenllaw o'r Blaid Doriaidd ar Gynulliad Llundain wedi 'sgwennu at Boris Johnson yn mynnu ei fod yn ymddiswyddo?

Allwch chi ddychmygu BBC Cymru yn gwthio stori gyffelyb ynglyn a Chyngor Gwynedd o'r neilltu?  

Ond mae'n ymddangos nad ydi fersiwn Gymraeg y Bib eisiau son am ddigwyddiadau heddiw yng Nghaerdydd.  Doedd yna ddim son am lythyr Ralph Cook i Phil Bale ar Newyddion 9, a fedra i ddim dod o hyd i gyfeiriad ar eu gwefan - er bod y stori yn cael ymddangos ar y wefan Saesneg.

Rwan dwi'n gwybod bod gan BBC Cymru obsesiwn efo gwleidyddiaeth cwbl unigryw Gwynedd ( er nad ydynt yn ei ddeall), a dwi'n gwybod bod yna lawer o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd.  Ond mae yna lawer o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd hefyd - os ydi fy nghof i'n iawn, dim ond Mon, Caerfyrddin a Gwynedd sydd a mwy o Gymry Cymraeg yn byw oddi mewn i'w ffiniau.  A hyd yn oed petai hynny ddim yn wir, mae gan wasanaeth cenedlaethol ddyletswydd i drin y wlad i gyd yn gyfartal - a thrin prif ddinas ychydig bach yn fwy cyfartal na neb arall o bosibl.

3 comments:

Dafydd Williams said...

Enghraifft arall o'r diwylliant Llafur sy'n dominyddu meddylfryd y BBC yng Nghymru.

Anonymous said...

Un da yw Neil McEvoy - wedi gwneud y Blaid yn berthnasol yn aradaloedd dosbarth gweithiol y Ddinas OND yn cael dim cefnogaeth gan HQ ! Llafur yn casau ei gyts e .

Anonymous said...

Llafur yn casau gyts pawb syn cymryd safiad. Cael ar ddeall bod casineb pur tuag at Plaid Cymru gan Leybyr yn llanelli