Monday, March 30, 2015

Pol diweddaraf Cymru

Cyhoeddwyd pol Cymreig gan YouGov / ITV / Prifysgol Caerdydd heddiw.  Mae'n awgrymu ychydig iawn o newid o gymharu a'r pol diwethaf a gyhoeddwyd ganddynt.  O'i wireddu ni fyddai Llafur yn colli eu hegonomi yng Nghymru - byddent yn ennill dwy sedd newydd yng Nghaerdydd - un ar gost y Lib Dems a'r llall ar draul y Toriaid.  Byddai'r Toriaid yn ennill sedd yn ol ym Mrycheiniog a Maesyfed oddi wrth y Lib Dems, ac efallai y byddai Plaid Cymru yn cymryd sedd olaf y Lib Dems yng Ngheredigion - mae hynny'n dibynnu ar sut rydym yn gwneud y syms.

Yn yr amgylchiadau sydd ohonynt byddai cyn lleied o newid a hyn yn drychineb i Gymru.  Mae'n edrych yn anhepgor bellach y bydd newid sylweddol yn yr Alban - a bydd y newid hwnnw wedi ei glymu i neges - bod yr Alban eisiau cael ei chymryd o ddifri, bod yr Alban eisiau atal toriadau mewn gwariant cyhoeddus, bod yr Alban eisiau'r pwerau i fynd i'r afael a'i phroblemau economaidd.

Os bydd Llafur yn mynd yn ol i San Steffan efo mwy o aelodau seneddol y perygl yw mai Owen Smith fydd llais Cymru.  Dydi Owen ddim yn derbyn bod Barnett yn anheg, heb son am dderbyn y dylai Cymru gael ei chyllido yn gyfartal a'r Alban.  Dydi Owen ddim yn meddwl y dylai'r Cynulliad gael llawer o bwerau ychwanegol i fynd i'r afael a phroblemau strwythurol Cymru chwaith.  Y neges fyddai nad ydym eisiau cael ein cymryd o ddifri.

Mewn geiriau eraill mi fyddwn ni'n dweud 'Rydan ni 'n fodlon efo deilliannau y can mlynedd diwethaf o hegemoni Llafur yng Nghymru, 'dydan ni ddim eisiau unrhyw newid arwyddocaol, rydan ni 'n fodlon ar ein stad'.  

Ac wedyn mi fyddwn yn crafu ein pennau wrth weld yr Alban yn symud ymlaen yn economaidd a gwleidyddol ac yn rhyfeddu ein bod yn cael ein gadael ar ol eto fyth.

2 comments:

Anonymous said...

Beth am gael neges gliriach o genedlaetholdeb a Chymreictod, a llai o swnian a chwyno am amddifadedd. Y mwyaf byd y bydd Leanne Wood yn son am doriadau, amddifadedd, ayb, y mwyaf byd wnaeth pobl y Cymoedd droi yn ol at y Blaid Lafur.

Cai Larsen said...

Fel yn yr Alban ti'n feddwl?