Mae
Plaid Wrecsam yn gwbl gywir i dynnu sylw at y ffaith nad ydi’r pensiynau ‘gold plated’ mae’r Toriaid mor hoff o siarad amdanynt mor euraidd a hynny yng Nghlwyd – gyda 72% o’r sawl sydd yn derbyn pensiwn o Gynllun Pensiwn Clwyd yn derbyn llai na £5,000 y flwyddyn.
A’r gwir plaen ydi mai isel ydi pensiynau cyfartalog sector cyhoeddus yn gyffredinol trwy’r DU o gymharu a – dyweder – cyflog Aelod Seneddol. Mae Aelod Seneddol cyffredin yn ennill £65,738 + yr enwog dreuliau wrth gwrs, tra bod pensiwn cyfartalog sector cyhoeddus tua £7,000. Pan rydych yn clywed aelod seneddol – Guto Bebb dyweder gan bod ganddo gymaint i’w ddweud ar y pwnc – yn son am ‘degwch’ pan mae’n dod i bensiynau, efallai ei bod werth cofio na fydd y cyfryw Aelod Seneddol byth yn gorfod ceisio cael dau ben llinyn ynghyd efo £7,000 y flwyddyn.
Yn wir petai Nick Clegg neu Danny Alexander yn gadael y senedd yn 2015 byddai’n derbyn pensiwn blynyddol o £26,403. Byddai Francis Maud yn derbyn £43,835 y flwyddyn, Vince Cable £32,977 ac mi fyddai Andrew Lansley yn cael £39,825. Dyna beth ydi pensiynau euraidd.
Rwan mae’n wir bod yna wahaniaeth rhwng pensiynau sector cyhoeddus a sector preifat. Er bod rhai gweithwyr yn y sector preifat yn derbyn pensiynau uchel iawn, tra bod eraill mewn cynlluniau tebyg i’r rhai sector cyhoeddus, ‘dydi’r rhan fwyaf o ddigon ddim. Yn wir ‘dydi tua 65% o weithwyr sector preifat ddim yn gwneud unrhyw baratoadau pensiwn o gwbl (16.1% ydi’r ffigwr yn y sector cyhoeddus). Tua £28,000 ydi pot pensiwn mwyafrif gweithwyr y sector preifat – cyfanswm sy’n creu pensiwn blynyddol o tua £1,650. ‘Dydi £1,650 na £7,000 ddim yn bensiynau sy’n mynd i roi bywyd arbennig o gyfoethog i neb, a byddai dyn yn meddwl petai’r Toriaid a’r Lib Dems o blaid tegwch yn yr ystyr mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei ddeall y byddant yn ceisio meddwl am ffyrdd o gynyddu pensiynau’r sector preifat. Ond na – tegwch i Dori neu Lib Dem ydi ceisio cael pensiynau sector cyhoeddus yn is – nid cael rhai’r sector preifat yn uwch*
Yr economi sy’n cael y bai am hyn wrth gwrs, a’r angen i argyhoeddi’r marchnadoedd pres bod cynllun gan lywodraeth y DU i leihau gwariant cyhoeddus. Prif strategaeth y llywodraeth o fynd ati i wneud hynny ydi trwy wasgu ar un rhan, ac un rhan yn unig o’r gweithlu – gweithwyr sector cyhoeddus. Gwneir hyn trwy docio’n sylweddol ar wariant cyhoeddus a weithwyr sector cyhoeddus ar y clwt, rhewi cyflogau’r rhan fwyaf ohonynt am dair blynedd mewn cyfnod pan mae chwyddiant i’r gogledd o 5% y flwyddyn, gwneud i’r cwbl gyfranu llawer mwy tuag at eu pensiwn a thalu llai o bensiwn iddynt ar ben hynny.
Cwestiwn gwleidyddol ydi pa mor fforddiadwy ydi pensiynau sector cyhoeddus mewn gwirionedd. Mae yna ffyrdd eraill o argyhoeddi’r marchnadoedd arian bod y gwahaniaeth rhwng gwariant cyhoeddus a’r arian mae’r wladwriaeth yn ei godi o dan reolaeth - codi trethi er enghraifft. Fel rydym wedi trafod mewn
blogiad blaenorol byddai gwneud i gwmniau mawr dalu’r dreth maent i fod i’w dalu yn unol a deddfwriaeth bresenol yn ddechrau go lew. Gan mai’r sector ariannol (a diffyg goruwchwyliaeth y llywodraeth tros y sector hwnnw) sy’n gyfrifol am y llanast y cawn ein hunain ynddo byddai yna elfen o degwch (a defnyddio hoff derm newydd y Toriaid) mewn trethu’r banciau, neu drosglwyddiadau ariannol neu beth bynnag yn hytrach na mynd ar ol gweithwyr yn y sectorau addysg ac iechyd (a dyna beth ydi’r rhan fwyaf o weithwyr sector cyhoeddus) nad oedd ddim oll i’w wneud ag achosi’r argyfwng.
Mae’r penderfyniad i fynd ar ol y sector cyhoeddus ynghyd a’r dealltwriaeth rhyfeddol sydd gan y Toriaid a'r Lib Dems o degwch wedi eu seilio ar yr un peth mewn gwirionedd – syniadaeth adain Dde. Mae’r syniadaeth honno yn diffinio’r berthynas rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus yn nhermau zero sum game – os ydi un ar ei ennill, yna mae’r llall ar ei golled. Felly trwy ddiffiniad os ydi rhywbeth yn niweidiol i’r sector cyhoeddus, yna mae’n dda i’r sector preifat. Pan mae ein cyfeillion Toriaidd / Lib Dem yn son am y sector preifat, son maent am gyflogwyr sector preifat yn hytrach na gweithwyr wrth gwrs. Nid oes rhaid dweud bod yr uchod yn nonsens o'r radd flaenaf.
Ond ag edrych ar bethau o’r safbwynt hwnnw mae’n hawdd gweld pam mai’r sector cyhoeddus sydd o dan y sawdl. Mae cyflogau ac amodau sector cyhoeddus uchel hefyd yn llesol i gyflogau ac amodau gweithwyr sector preifat. Y rheswm am hynny ydi bod cyflogau ac amodau da yn y sector cyhoeddus yn gorfodi cyflogwyr sector preifat i edrych ar ol eu gweithwyr er mwyn eu cadw rhag chwilio am waith yn y sector cyhoeddus. O lwyddo i leihau’r nifer o swyddi yn y sector cyhoeddus yn ogystal a lleihau’r cyflogau a difetha’r amodau, mae’n haws i gyflogwyr sector preifat dalu llai i’w gweithwyr a chynnig amodau salach iddynt.
A dyna mae gen i ofn y cefndir syniadaethol sydd y tu ol i benderfyniad y cabinet o filiwnyddion Toriaidd a Lib Dem i bloncio’r sector cyhoeddus yng nghanol storm a greuwyd gan eraill. Edrych ar ol eu cyfran fach o’r boblogaeth ar draul pawb ydi canlyniad gweithredu yn unol a'r syniadaeth yma yn y bon. Dim llai, dim mwy.
* Mae'r ffigyrau wedi eu cymryd o flog Polly Curtis ar safle'r Guardian. Gan nad ydi'r ffigyrau mae yn eu defnyddio yn hollol gyson o flogiad i flogiad (oherwydd nad yr un set o bobl sy'n cael eu cymharu pob tro) 'dwi'n defnyddio rhai sydd tua chanol yr amrediad cymharol fach.