Showing posts with label Gwilym Owen. Show all posts
Showing posts with label Gwilym Owen. Show all posts

Saturday, September 01, 2012

Gwilym Owen a'r Gymraeg

Lladd ar y grwp lobio newydd Dyfodol i'r Gymraeg mae Gwilym Owen yn ei golofn yn Golwg yr wythnos hon - er nad ydi hwnnw ddim wedi dechrau ar ei waith eto. Doedd o ddim yn hoffi golwg eu stondin yn y Steddfod - nid bod Gwilym wedi bod i'r Steddfod, ond roedd wedi gweld lluniau o'r stondin, a doedd o ddim yn hoffi yr hyn a welodd.

Ta waeth, yn ol ymchwil Gwilym (yr un math o 'ymchwil' ag arfer - dod i gasgliadau rhyfeddol o bendant o anecdot neu ddwy mae eu clywed ar y radio neu yn eu darllen yn y papur), colegau yn Lloegr fydd yn denu'r Cymry Cymraeg ifanc eleni. Dyna'r joban i'r muniad newydd yn ol Gwilym - lobio awdurdodau lleol, ysgolion uwchradd, a grwpiau lobio eraill ynglyn a phwysigrwydd addysg bellach cyfrwng Cymraeg. Mae o hefyd am i ni wybod y dylai'r grwp fynd ati i berswadio rhieni i anfon eu plant i sefydliadau addysg bellach cyfrwng Cymraeg.

Rwan dwi ddim eisiau swnio'n ageist yma, ond mae'r oes pan roedd rhieni yn 'anfon' eu plant i rhyw goleg neu'i gilydd wedi marw ers hanner canrif a mwy - mae pobl ifanc yn dewis eu sefydliadau addysg eu hunain yn yr oes sydd ohoni. Mae'n anodd meddwl am unrhyw beth sydd am gael llai o effaith ar bobl ifanc dwy ar bymtheg oed na phwysau o gyfeiriad grwp o bobl barchus a chanol oed. Wrth gwrs bod gan ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ddyletswydd i hyrwyddo addysg bellach Gymraeg, ond mae'n haws gwneud hynny mewn cyd destun ehangach lle ceir canfyddiadau cadarnhaol tuag at y Gymraeg a'i dyfodol.

A daw hyn a ni at Gwilym ei hun. Bydd ei golofn yn coleddu unrhyw beth y gellir dod o hyd iddo sy'n dilorni neu'n bychanu'r Gymraeg.

Er enghraifft yn ei golofn bethefnos yn ol roedd wedi cynhyrfu yn lan oherwydd bod Aled Jones Williams wedi 'sgwennu erthygl gwbl ddi dystiolaeth mai iaith i'r dosbarth canol ydi'r Gymraeg, ac oherwydd bod cyfarwyddwr Radio Cymru wedi gwneud sylw - cwbl ddi dystiolaeth - bod mwyafrif siaradwyr Cymraeg ifanc yn byw eu bywydau trwy gyfrwng y Saesneg.

Yn y gorffennol mae wedi gwneud honiadau - unwaith eto heb sail ystyrlon iddynt - mai lleiafrif bach o blant Gwynedd sy'n defnyddio'r Gymraeg efo'i gilydd, tra'n dilorni ymdrechion y sir i hyrwyddo'r defnydd o Gymraeg ymysg plant. Bydd hefyd o bryd i'w gilydd wedi cyfleu'r argraff nad ydi'r Gymraeg yn ddim amgenach na'r sefydliadau ieithyddol sy'n derbyn nawdd cyhoeddus.

Rwan yn y Gymru sydd ohoni mae sefyllfa'r Gymraeg yn gymhleth. Mae'r nifer sy'n siarad Cymraeg yn cynyddu, ac mae'r galw am addysg Gymraeg yn cynyddu'n gyflym. Mae demograffeg y Gymraeg yn iach yn yr ystyr bod yr ifanc yn fwy tebygol o siarad yr iaith na'r hen, ac mae yna fwy o ewyllys da tuag at yr iaith ymysg y di Gymraeg nag a fu erioed.

Ar y llaw arall mae yna elfennau negyddol - mewnfudiad i'r ardaloedd gwledig Cymraeg eu hiaith, lleihad sylweddol yn y defnydd o'r Gymraeg yn rhannu gorllewinol y maes glo a phroblemau trosglwyddo'r Gymraeg o sefyllfa ysgol i'r gymuned yn ehangach mewn ardaloedd Seisnig o ran iaith.

Yr hyn mae'r Gymraeg ei angen mwy na dim arall ydi ymdeimlad o bositifrwydd ynglyn a hi - ymdeimlad bod iddi ddyfodol a dyfodol ym mhob agwedd o fywyd. Ymdeimlad ei bod yn iaith gyfoes a pherthnasol sy'n perthyn i bawb yng Nghymru. Mae negyddiaeth obsesiynol Gwilym a'i angen i gribino trwy'r wasg am pob sylw sy'n negyddol a'i droi'n golofn yn Golwg yn niweidiol iddi.

Thursday, August 16, 2012

Blogiadau o'r gorffennol - rhan 5

Dydan ni ddim yn mynd ymhell iawn yn ol efo'n blogiad o'r gorffennol yr wythnos yma - ychydig tros flwyddyn.

Roedd yr hen gyfaill Gwilym Owen (sydd wedi dewis byw ym Mangor) wedi dotio - yn ei golofn Golwg - bod Aled Jones Williams (sy'n byw yng Nghriccieth) wedi ailadrodd un o'i ddamcaniaethau bach ystrydebol - sef bod y Gymraeg yn iaith ddosbarth canol. Ymddengys hefyd bod Gwilym yn credu bod cytuno efo Gwilym yn beth eofn iawn i'w wneud.

Ta waeth, mi gawsom olwg ar ddosbarthiad cymdeithasegol y wardiau mwyaf Cymreig yn dilyn honiad Gwilym y llynedd. Dydi'r data ddim yn cefnogi damcaniaethau colofnwyr Golwg - oni bai bod newid mawr - ac anhebygol iawn - wedi digwydd tros y ddegawd diwethaf.


Mynd i rhyw feddwl wnes i ar ol darllen am ymddeoliad Gwilym Owen yn Golwg y diwrnod o'r blaen os oedd yna rhywbeth yn ei osodiad bod y Gymraeg yn mynd yn iaith i'r dosbarth canol yn unig.  Mae'r canfyddiad hwnnw yn groes i fy argraff i, ond wedyn dwi'n byw mewn tre Gymreig iawn sydd hefyd yn ddosbarth gweithiol at ei gilydd.

Felly mi es i ati i geisio gweld os oes yna sail ystadegol i'r sylwadau.  Ymgais ydi'r isod i brofi os ydi gosodiad Gwilym yn gywir neu beidio. Rwyf wedi gosod y wardiau oedd yn ol y cyfrifiad diwethaf gyda 75%+ yn siarad Cymraeg ynddynt yn eu trefn ac wedi nodi eu safle a'u sgor ar Indecs Amddifadedd Cymru. Fel mae'r enw yn rhyw awgrymu ffordd o fesur amddifadedd ydi'r indecs ac mae'n gwneud hynny ar lefel ward etholiadol.  Mesurir amddifadedd 1,792 o gymunedau i gyd.

Felly mae safle isel a sgor uchel yn awgrymu lefel uchel o amddifadedd, tra bod sgor isel a safle uchel yn awgrymu'r gwrthwyneb.  Dwi ymhellach wedi gosod y cymunedau Cymraeg yn eu chwarteli cenedlaethol - mae lefel uchel o amddifadedd mewn cymunedau yn chwartel 4, a lefel isel o amddifadedd mewn rhai yn chwartel 1.  Ceir tair ward yn y chwartel isaf, tair yn y chwartel uchaf, 18 yn y trydydd chwartel a 17 yn yr ail chwartel.

Rwan does yna ddim diffiniad mae pawb yn ei dderbyn o'r hyn sy'n gwneud pobl yn ddosbarth canol - y diffiniad sy'n cael ei ddefnyddio amlaf ydi pobl sy'n syrthio i gategoriau ABC1.  Mae tua hanner poblogaeth Cymru yn syrthio i'r categoriau hynny, tra bod yr hanner arall yng nghategoriau C2DE.  A chymryd hynny mae'r tabl yn awgrymu bod cymunedau Cymraeg eu hiaith wedi eu rhannu yn weddol gyfartal rhwng rhai sydd yn ddosbarth gweithiol a dosbarth canol, ond bod llai ohonynt yn perthyn i'r pegynnau na sy'n wir am Gymru gyfan. 


Un neu ddau o bwyntiau bach technegol cyn gorffen - 'dwi'n derbyn nad ydi cyfrifo amddifadedd yr un peth a chyfrifo dosbarthiad cymdeithasol - ond mae'r naill yn rhoi syniad o'r llall.  Dwi hefyd yn derbyn nad ydi'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn byw mewn cymunedau 75% + - ond mae proffeil cymunedau Cymreig yn rhoi syniad i ni am broffeil siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol.  Mae hefyd yn wir bod y ffigyrau cyfrifiad yn ddeg oed bellach. Mae unedau cyfrifo'r indecs hefyd mymryn yn wahanol i unedau'r cyfrifiad, ac mae yna ychydig fanylion ar goll o'r indecs.

Friday, July 06, 2012

Gwilym Owen - rhif 196

I'r sawl yn eich plith sydd ddim yn prynu Golwg, canmol yr Arglwydd Elis-Thomas, yr Arglwydd Morris, gwadu unrhyw gysylltiad efo Gwalchmai a beirniadu'r blogiwr yma mae colofn Gwilym Owen yn Golwg yr wythnos yma. Wele rhan o'r feirniadaeth honno isod:

Enw'r celpiwr yw Cai Larsen, sydd wrth ei waith bob dydd yn brifathro ysgol rywle ar lannau'r Fenai. Mae rant y blogiwr o'r stafell ddosbarth yn dystiolaeth o fethiant o leiaf un prifathro i ddeall cynnwys colofn newyddiadurol ddigon syml a ymddangosodd yn y cylchgrawn hwn bythefnos yn ol.

Yr hyn sydd wedi ypsetio'r colofnydd ydi bod Blogmenai wedi dehongli'r frawddeg ganlynol (mewn colofn oedd yn cwyno nad oedd y cyfryngau wedi mynd ar ol stori am Bethan Jenkins yn sgil sylwadau trydar ganddi) fel awgrym bod gan Gwilym ddiddordeb arbennig mewn rhoi sylw negyddol i wleidyddion sy'n Gymry Gymraeg. Mi gewch chi benderfynu:

Ydi mae hi'n stori fach dda. Stori am wleidydd Cymraeg ei hiaith, ond dim ond ar dudalennau Saesneg y Western Mail a gwefan Golwg360 y cyhoeddwyd hi.

Mae cwpl o bwyntiau yn codi o hyn oll. Mae Gwilym yn rhyw frolio nad yw'n gwybod nemor ddim am ddulliau cyfathrebu diweddar. Efallai y bydd yn syndod iddo ddeall bod pob blogiad ar Flogmenai - a'r rhan fwyaf o flogiau eraill - wedi ei logio mewn modd sy'n dynodi'r amser y cychwynwyd ar y blogiad. Cychwynwyd ar y blogiad mae Gwilym yn cyfeirio ato am 19.07 ar ddydd Iau, Mehefin 21.

Beth bynnag mae Gwilym yn ei feddwl o fy 'rant', dydi hi heb ei throsglwyddo o ystafell ddosbarth. Mi fydda i adref, fel y rhan fwyaf o bobl eraill am saith o'r gloch nos. Mae yna 1,470 o flogiadau ar Flogmenai - ac mae amser a dyddiad pob un wedi ei logio yn gyhoeddus. Does yna ddim un o'r rheiny yn cofnodi i ddarn gael ei gynhyrchu yn ystod amser pan mae rhywun yn talu cyflog i mi am wneud rhywbeth arall. Byddai gwneud hynny yn amhriodol ac yn amhroffesiynol. Mae ensyniad Gwilym felly yn enllibus.

Mae'r math yma o ensyniadau wedi eu gwneud yn y gorffennol pan mae'r blog yma wedi anghytuno efo barn neu feirniadu sylwadau rhywun neu'i gilydd. Mewn sefyllfaoedd felly bydd yna'n aml gyfeiriadau at yr hyn 'dwi yn ei wneud i ennill bywoliaeth, er nad oes yna ddim cysylltiad o unrhyw fath rhwng cynnwys y sylwadau a natur fy ngwaith - ynghyd ag ensyniadau fy mod yn blogio yn hytrach nag ennill bywoliaeth gonest.

Efallai y dyliwn gymryd munud neu ddwy i egluro pethau i Gwilym a'i debyg.

Mae yna swyddi lle mae'r sawl sydd yn eu dal wedi ei wahardd rhag cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. 'Dydw i ddim mewn swydd felly, ac o ganlyniad mae gen i hawl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd - yn fy amser fy hun. Un ffordd o gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ydi blogio gwleidyddol.

Mae gen i ddigon o wendidau, ond 'dydi dineweitrwydd ddim yn un ohonynt. 'Dwi'n deall yn iawn bod rhai o'r sylwadau sy'n cael eu gwneud yma yn tramgwyddo, a 'dwi'n derbyn bod pobl am fy meirniadu a dweud pethau cas. 'Dwi'n deall hefyd y bydd fy sylwadau o bryd i'w gilydd yn cael eu darnio, eu beirniadu a'u cam ddehongli. Does gen i ddim problem efo hynny - dim oll.

Ond mae gen i broblem efo honiadau ac ensyniadau sydd wedi eu seilio ar wybodaeth sy'n ffeithiol anghywir, a sydd gyda'r potensial i beri niwed proffesiynol. Cryn broblem.

Serch hynny dwi ddim yn bwriadu gadael i neb fy mwlio i gau fy mhig trosiadol - hyd yn oed Gwilym Owen.

Thursday, July 05, 2012

Gwilym Owen - rhif 195

_ _ _ _ ah, na 'dwi wedi bod mewn cynhadledd yng Nghaerdydd trwy'r dydd a 'dwi wedi blino. Mi fydd rhaid i chi aros tan fory.

Thursday, June 21, 2012

Gwilym Owen - rhif 194

Bethan Jenkins ydi targed Gwilym Owen yn ei golofn ryfedd yn Golwg yr wythnos yma - nid am y tro cyntaf.

Mae'n cymryd tua 450 o eiriau i honni i'r Bib beidio a mynd ar ol sylwadau gan Bethan ar Twitter oherwydd i'r Western Mail eu curo i stori oedd yn ymwneud a'r ffaith iddi fethu a mynychu dau gyfarfod tra ar ymweliad a'r Iwerddon yn ddiweddar. Gobeithio nad ydi Golwg yn talu fesul gair.

Wel, mae'n bosibl am wn i bod rhyw fath o bwynt gan Gwilym - ond mae yna eglurhad ychydig yn symlach mi dybiwn. Efallai nad ydi stori am ddiffyg ymddangosiad gwleidydd mewn cyfarfodydd yn stori arbennig o ddiddorol i'r rhan fwyaf o bobl, ac efallai nad yw'n newyddion i neb ond Gwilym bod yna fwlis a phobl slei yn ymwneud a gwleidyddiaeth. Ac efallai, jyst efallai nad ydi pawb yn cytuno ag awgrym Gwilym bod gwleidyddion Cymraeg eu hiaith yn arbennig o addas ar gyfer sylw negyddol gan y cyfryngau.

Thursday, March 29, 2012

Hunanfodlonrwydd swrth Gwilym Owen

Yn ol efo'r gyfres fach o erthyglau chwerw a sbeitlyd gan Gwilym Owen sy'n ymddangos pob pethefnos yn Golwg yr ydym ni heddiw mae gen i ofn.

Buddugoliaeth Leanne Wood yn yr etholiad am arweinyddiaeth y Blaid sydd wedi esgor ar chwerder Gwilym y tro hwn. Byddwch yn cofio i Gwilym fynegi ei farn yn ddi amwys mai Dafydd Elis-Thomas ddylai gael y joban am ei fod yn meddwl bod Dafydd fel yntau yn credu mai cefnogi'r Blaid Lafur ydi priod bwrpas Plaid Cymru.

Yn ystod erthygl go faith sydd yn ymdrin a'r Blaid a dim arall mae Gwilym yn datgan, awgrymu neu ensynu bod y canlyniad yn rhywbeth i'w wneud efo cyfryngis a thrydarwyr, bod Leanne yn ddi sylwedd ac yn siarad mewn ystradebau, bod Adam Price yn anghymwys i arwain Comisiwn Economaidd y Blaid, bod Adam yn aros ei gyfle i gael cymryd lle Leanne, bod y trydarwyr yn aros eu cyfle i roi cyllell yng nghefn Leanne a bod pamffled gan y Blaid ym Mangor yn dangos bod y cyfryw blaid yn dioddef o hunanfodlonrwydd swrth.

Rwan o ddarllen y golofn mae'n weddol amlwg nad oes gan Gwilym fawr o glem beth digwyddodd ar Fawrth 15. Mi fanteisiaf ar y cyfle i egluro iddo.

Ganwyd Gwilym rhwng y ddau Ryfel Byd. Yn ystod ei fywyd mae Cymru wedi pleidleisio i'r Blaid Lafur - plaid Gwilym - ym mhob etholiad - yn ddi eithriad. Roedd Cymru yn dlawd y diwrnod y ganwyd Gwilym, ac mae'n dal yn dlawd. Yn wir, mewn termau cymharol mae'n dlotach heddiw nag oedd bryd hynny. 'Dydi bron i ganrif o bleidleisio i Blaid Gwilym wedi gwneud dim - dim oll i godi statws economi Cymru mewn cymhariaeth a gweddill y DU. Mae yna reswm digon syml am hyn - mae'r Blaid Lafur, fel y pleidiau unoliaethol eraill, wedi gwrthwynebu i Gymru gael ei dwylo ar yr arfau economaidd pwysig a allai ganiatau iddi godi uwchben ei hanfanteision strwythurol a daearyddol. Mae hyn fwy neu lai mor wir yn yr oes ddatganoledig yma ag oedd erioed.

Adlewyrchiad ydi buddugoliaeth Leanne (a'r bleidlais uchel i Elin) bod trwch aelodaeth Plaid Cymru o'r farn y dylem fel Cymry gymryd meddiant ar yr arfau hynny a'u defnyddio i wella ein statws economaidd ein hunain. Mae'r Blaid Lafur, er gwaethaf pob tystiolaeth i'r gwrthwyneb, yn credu mai disgwyl i Lundain sortio pethau i ni ydi'r ffordd orau o fynd ati.

Mi fydd y canfyddiad bod rhaid i ni gymryd yr awenau ac edrych ar ol ein ffawd economaidd ein hunain yn cynyddu tros y blynyddoedd nesaf, tra bydd y canfyddiad mai gadael pethau i eraill sydd orau yn crebachu.

Mae Gwilym a Leanne yn cynrychioli dwy ffordd cwbl wahanol o edrych ar wleidyddiaeth Cymru, gyda'r naill yn cefnogi plaid sy'n credu mewn dibyniaeth, osgoi cymryd cyfrifoldeb a beio eraill am ein problemau, a'r llall yn credu mewn cymryd cyfrifoldeb tros ein tynged a herio ein hunain i wneud y gorau o'r hyn ydym. Mae Gwilym yn cynrychioli gorffennol methiannus Cymru, tra bod Leanne yn sefyll tros ddyfodol mwy gobeithiol. Arwydd bod diwylliant gwleidyddol Cymru yn newid oedd canlyniad Mawrth 15, ac arwydd bod ysgrifen ar y mur i wleidyddiaeth llwfr a dibynnol Gwilym.

Thursday, January 05, 2012

Gwilym Owen - rhif 94

Mae'r blog yma wedi nodi ar sawl achlysur dueddiad anymunol Gwilym Owen i gyflwyno ei ragfarnau fel petaent yn ffeithiau, ac mi fydd yn gwneud hynny yn ei golofnau yn Golwg bron yn ddi ffael. 

Er enghraifft yn ei erthygl olaf cyn y Nadolig (Rhag 15) aeth ati i nodi mor dila ac arwynebol  ydi ein Cymreictod yn wyneb nifer o broblemau cyllidol sydd gan rai o'n sefydliadau cenedlaethol.  Rwan mae'n wir bod hunaniaeth a diwylliant yn aml ar drugaredd grymoedd economaidd pwerus, ond mae'r awgrym bod hunaniaeth Gymreig yn rhywbeth sy'n gwbl ddibynol ar sefydliadau sy'n cael eu noddi o'r pwrs cyhoeddus yn un anarferol os nad unigryw.  Ond 'dydi Gwilym ddim yn gweld unrhyw reswm yn y Byd i ddatblygu nag egluro ei ddamcaniaeth ryfedd - mae'n ei gosod ger ein bron fel petai'r weithred honno  ynddi'i hun yn ei gwneud yn ffaith.

Mae truth heddiw yn ymestyn at binacl newydd fodd bynnag - hyd yn oed ag ystyried y safonau uchel mae Gwilym wedi eu cyrraedd yn y gorffennol.  Ceir un syniad cynhenus ar ol y llall - dim ond Dafydd Elis Thomas sy'n ddigon deallus ac angerddol i arwain y Blaid, 'twpdra' ydi'r syniad o annibyniaeth i Gymru, sbarduno a chefnogi'r blaid Lafur ydi priod waith Plaid Cymru, rhagrith cywilyddus ydi o i blant 'cenedlaetholwyr' fynychu prifysgolion yn Lloegr - o ac mae yna feirniadaeth hynod brin o'r Blaid Lafur Gymreig - 'does yna neb ond Leighton Andrews efo tan yn ei fol.

'Rwan ar un olwg mae rhai o'r gosodiadau yma yn ddiddorol os yn rhyfedd- neu o leiaf gallant fod yn ddiddorol o gael eu datblygu.  Byddai'n bosibl dadlau er enghraifft bod amodau economaidd anodd yn newid rol  gwrthbleidiau a bod cefnogi yn bwysicach na gwrthwynebu ar hyn o bryd, neu gellid adeiladu achos i gefnogi'r gred bod yr Arglwydd Elis Thomas yn fwy deallus ac angerddol nag Elin Jones, Simon Thomas a Leanne Wood.  Gellid mynd ati i egluro pam bod Cymru'n wlad mor anarferol nad yw'n addas iddi fod yn annibynnol, ac yn sicr gellid esbonio'r syniad rhyfeddol y gall  un person fod yn gywilyddus o ragrithiol oherwydd penderfyniad neu wleidyddiaeth person arall.

Ond na, 'does yna ddim oll yn cael ei ddatblygu, dim yn cael ei egluro, dim yn cael ei gyfiawnhau.  Dim, nada, zilch.  Beth sydd gennym yn y bon ydi hen ddyn chwerw yn defnyddio'i golofn fel rhyw fath o machinegun i saethu i gyfeiriad cyffredinol y sawl nad ydyw'n hoff ohonynt.

Mae yna nifer o golofnwyr eraill llawer gwell yn 'sgwennu i Golwg - Angharad Mair er enghraifft.  Rwan 'dwi'n derbyn bod  Angharad yn dod o gyfeiriad gwleidyddol digon tebyg i fy un i - er nad ydw i'n cytuno efo hi pob tro o bell ffordd.  Mae pawb yn dod o rhywle, ac o ganlyniad mae gan bawb ei ragdybiaethau, felly hefyd Angharad.  Ond mae hi'n cymryd y drafferth i ddatblygu ei dadleuon, i gyfiawnhau ei safbwyntiau ac i roi cyd destun iddynt.  Mae hi hefyd yn osgoi'r negyddiaeth sarhaus sy'n nodweddu pob dim mae Gwilym yn ei gynhyrchu.

'Dwi wedi dweud o'r blaen nad ydi cyflogi Gwilym Owen i daflu ei ragfarnau i bob cyfeiriad prin yn wahanol i gyflogi Billy Hughes neu Eric Howells i wneud yn union hynny.  'Does yna fawr ddim 'dwi wedi ei ddarllen gan Gwilym ers hynny wedi rhoi lle i mi newid fy meddwl.  Mae'n ymdebygu fwyfwy i rhyw Alf Garnett Llafuraidd.

Saturday, December 03, 2011

Cymorthdaliadau'r Cyngor Llyfrau a Gwilym Owen

Mae’n ddiddorol darllen erthygl Gwilym Owen mewn cylchgrawn sy’n derbyn cymhorthdal sylweddol gan y Cyngor Llyfrau (Golwg Rhagfyr1af) ynglyn a chymorthdaliadau i gylchgronau Cymraeg.  Cwyno'n groch mae Gwilym bod nifer o gylchgronau eraill  hefyd yn derbyn cymorthdaliadau - er bod y rheiny'n cael llai o bres o lawer na mae Golwg yn ei gael.

Yr hyn sydd gan Gwilym ydi bod y cylchgronau nad yw eisiau i’r Cyngor Llyfrau eu cynnal yn rhai ‘dosbarth canol’ ac ‘elitaidd’, ac o’r herwydd dylid rhoi’r arian sy’n cael ei wario arnynt i’r Cymro – sydd o bosibl yn nhyb Gwilym  yn denu darllenwyr nad ydynt yn ddosbarth canol nag yn elitaidd. Mewn geiriau eraill mae am i holl arian cymhorthdal y Cyngor Llyfrau gael ei ddosbarthu rhwng tri chylchgrawn yn unig – yr un mae’n ysgrifennu iddo, Barn a’r Cymro. Hynny yw, dau bapur cymharol debyg i’w gilydd i’r graddau eu bod yn bapurau wythnosol sy’n delio yn bennaf a newyddion a materion cyfoes, ac un arall sy’n fwy eclectic a dadansoddol o ran cynnwys.

Rwan mae yna sawl problem gweddol amlwg efo hyn oll. Fel rheol defnyddir cymorthdaliadau o'r math yma i sicrhau amrywiaeth darpariaeth yn hytrach nag i roi cymorth i’r cylchgronau sydd a’r cylchrediad uchaf – er mai isel ydi cylchrediad Golwg a’r Cymro hefyd mewn gwirionedd. Byddai dilyn cyngor Gwilym yn arwain at sefyllfa lle byddai’r rhan fwyaf o’r cymorthdaliadau yn mynd at ddau gylchgrawn tebyg i’w gilydd sy’n dyblygu gwaith ei gilydd i raddau helaeth. Hynny yw, byddai’r amrywiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn diflannu i bob pwrpas.

Yn ychwanegol ,mae yna gwestiwn yn codi unwaith eto ynglyn a rhagfarnau Gwilym. ‘Dydi hi ddim yn glir (hyd y gwn i) faint o bobl wahanol sydd yn darllen yr amrywiol gylchgronau Cymraeg. Er bod gwahaniaethau rhwng cynnwys Y Cymro a Golwg, tybed faint o ddarllenwyr sy’n darllen y ddau? Ac ymhellach, tybed faint o ddarllenwyr Taliesin sydd hefyd yn darllen Y Cymro? ‘Dydw i ddim yn gwybod, ond ‘dydi Gwilym ddim yn cyflwyno unrhyw dystiolaeth nad cyfran go lew o ddarllenwyr Y Cymro a Golwg sydd hefyd yn darllen y stwff 'elitaidd'.

Fel sy’n arferol efo Gwilym, mae’r erthygl yn ddiog i’r graddau nad oes yna ddim tystiolaeth o waith ymchwil annibynnol ynddi. Mae ei holl dystiolaeth yn dibynnu ar ffigyrau darlleniad a chymhorthdal a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Golwg. Mi fyddai gan Gwilym ddadl petai’n gallu dangos bod yna wahanol bobl yn darllen Y Cymro o gymharu a’r papurau eraill. Byddai ganddo ddadl gryfach petai’n gallu dangos bod yna swmp o ddarllenwyr potensial i’r Cymro yn rhywle neu’i gilydd. Ond ‘dydi o ddim yn gwneud hynny, nag yn wir yn ceisio gwneud hynny. Felly mae Gwilym eisiau anfon Barddas, Y Traethodydd a Thaliesin i’r un bun sbwriel a Thu Chwith heb hyd yn oed geisio dangos sut y byddai hynny’n cynhyrchu mwy o ddarllenwyr Cymraeg, heb son am gynyddu’r amrywiaeth sydd ar gael.

Cyn gorffen efallai y dyliwn gyfeirio at ymysodiad Gwilym ar Bethan Jenkins. Ymysg y sylwadau sarhaus mae'n disgrifio ei sylw y dylid rhyw led wladoli’r Western Mail fel un o’r ‘sylwadau mwyaf twp a glywyd yn ddiweddar’. Mi fyddwn yn rhyw gytuno nad hwn ydi’r syniad gorau i Bethan ei gael erioed – ond ydi’r syniad mor dwp a syniad Gwilym ynglyn a sut y dylid penderfynu sut i ddosbarthu cymorthdaliadau i’r wasg Gymraeg ? Dyma sydd ganddo i’w ddweud ar y pwnc – _ _ _ o gofio bod y papur (Y Cymro) bellach yn cyflogi Karen Owen un o’r hacs gorau yn yr iaith Gymraeg onid yw’n amser ailystyried _ _ (faint o gymhorthdal mae’r Cyngor Llyfrau yn ei roi i’r Cymro).

Rwan ‘dwi’n gwybod bod Karen yn effeithiol a rhyfeddol o gynhyrchiol – ond wir Dduw ‘dydi hi ddim yn bosibl llywio polisi dosbarthu cymorthdaliadau ar sail pwy sydd yn gweithio yn lle. Beth goblyn fyddai Gwilym yn ei ddweud petai Tu Chwith yn recriwtio Karen – a’r arian mae eisiau ei anfon i’w dilyn o gwmpas y wlad.

Wednesday, November 09, 2011

Propoganda Gwilym Owen

'Dwi'n gobeithio nad oes yna neb o dan yr argraff fy mod yn datblygu obsesiwn am Gwilym Owen - 'does yna neb hyd 'dwi'n cofio wedi ymddangos mewn dau flogiad olynnol ar Flog Menai o'r blaen - ond 'dwi newydd weld ei erthygl ddiweddaraf yn Golwg, a fedra i ddim ymatal rhag ymateb i beth o'r nonsens boncyrs sydd ynddi.

Defnyddio papur rhad ac am ddim Cyngor Gwynedd i ymosod ar y cyngor mae Gwilym, ac mae'n cynhyrchu nifer o honiadau lled hysteraidd ar sail cynnwys y papur hwnnw.  Efallai y byddwn yn dod yn ol at rai o'r rhain eto, ond yr hyn 'dwi am ganolbwyntio arno yn y blogiad yma ydi honiad rhyfedd Gwilym bod adroddiad ar gael sy'n dangos mai 27% yn unig o blant ysgolion cynradd y sir sy'n siarad Cymraeg efo'u ffrindiau.

Gan nad ydi Gwilym yn trafferthu dweud wrthym unrhyw beth am yr adroddiad mae'n anodd gwybod yn union at beth mae'n gyfeirio.  Oni bai am y posibilrwydd bod yr adroddiad yn bodoli yn gyfangwbl yn ei ddychymyg ei hun, yr unig beth y gallaf feddwl  bod y dyn fod yn rwdlan amdano ydi  Arolwg Defnydd Cymdeithasol o'r Gymraeg gan Blant Sector Cynradd Gwynedd gan Dylan Bryn Roberts ac Enlli Thomas, a gyhoeddwyd y llynedd.

'Dydi'r adroddiad hwnnw ddim yn edrych ar holl ysgolion Gwynedd - mae'n edrych ar gynrychiolaeth fechan - gyda hanner yr ysgolion hynny wedi eu lleoli yn nalgylch mwyaf Seisnig a gwledig y sir - dalgylch Tywyn.  Does yna ddim un ysgol o'r canolfannau poblog yn ardal Caernarfon lle mae'r canrannau o blant sy'n dod o gefndiroedd Cymraeg yn hynod uchel, ond mae yna ddwy ysgol ym Mangor lle maent yn isel.  Mae'r ddwy ysgol sy'n cynrychioli Dwyfor yn agos at arfordir de Dwyfor - mae de Dwyfor yn wahanol iawn i arfordir gogleddol a pherfedd y penrhyn.  Un ysgol yn unig sydd o'r pentrefi a'r trefi llechi poblog a Chymreig.  Mae 77 o'r 145 plentyn a ddefnyddir fel sail i'r data yn dod o ardal Tywyn - ardal fwyaf Seisnig a lleiaf poblog y sir.

Mewn geiriau eraill mae'r sampl yn llawer, llawer mwy Seisnig nag ydi'r sir yn ei chyfanrwydd.  Nid oes bai ar awduron yr adroddiad wrth gwrs - 'doedden nhw ddim yn ceisio cynhyrchu ffigyrau cynrychioladol o'r sir i gyd - cynhyrchu ffigyrau sy'n cynrychioli'r ysgolion roeddynt yn ei samplo mae'n nhw.  Gwilym sy'n smalio eu bod yn cynhyrchu ffigyrau cynrychioladol.

Ac oddi yma mae'n debyg gen i y daw 27% Gwilym Owen.  Mae'r adroddiad yn nodi fel a ganlyn:

Iaith y buarth rhwng plant –
27% Cymraeg,
25% Cymraeg a Saesneg,
19% Saesneg bron bob amser ,
15% Saesneg rhan fwyaf ,
11%, Cymraeg rhan fwyaf
3% Dim ateb .
Felly pan mae Gwilym yn honni mai 27% o blant y sir sy'n siarad Cymraeg efo'u ffrindiau, yr hyn mae yn ei olygu mewn gwirionedd ydi mai 27% o sapl Seisnig iawn sy'n siarad Cymraeg yn unig efo'u ffrindiau.  Mae yna 11% arall yn siarad Cymraeg fel arfer a 25% arall yn defnyddio'r ddwy. 

Y gwir ydi bod yr adroddiad yn awgrymu bod bron i ddwy draean o blant ardaloedd Seisnig (yn bennaf) yn y sir yn gwneud defnydd o'r Gymraeg wrth gyfathrebu efo'u ffrindiau - ffigwr rhyfeddol ac anisgwyl o uchel.  Ond trwy beidio a thrafferthu i roi cefndir y data i ni, a thrwy smalio bod y ganran '27% Cymraeg yn unig' yn cynrychioli'r holl ddefnydd a wneir o'r Gymraeg mae Gwilym yn gwneud iddynt ymddangos yn drychinebus o isel.  Mae seilio dadl ar gobyldigwc ystadegol fel hyn yn sylfaenol anonest.

Mae'r blog yma wedi tynnu sylw ar sawl achlysur yn y gorffennol at y ffaith bod gan y dyn dueddiad i gyflwyno ei ragfarnau ei hun fel ffeithiau - yma er enghraifft.  Am rhyw reswm mae Golwg wedi dod i'r casgliad y byddai'n wych o beth rhoi llwyfan iddo ein diddanu ni efo'r rhagfarnau hynny pob pethefnos.  Duw yn unig a wyr pam.  Byddai'n rheitiach iddyn nhw adael i Eric Howells a Billy Hughes fynd trwy'i pethau pob pethefnos ddim.

Tuesday, November 08, 2011

Parti ymddeol Gwilym Owen

'Rwan peidiwch a fy ngham ddeall, 'dydi'r ffaith i Gwilym Owen gael tipyn o barti - neu rhyw ddigwyddiad arall a arweiniodd at werth £719.25 o fwyta ac yfed - cyn gadael y Bib yn poeni dim arna i.  Dim, dim oll.  Zilch.

'Dydi o ddim yn poeni rhyw lawer arnaf fy mod wedi cyfrannu'n anuniongyrchol at y digwyddiad gan i Keith Jones - pennaeth y Bib yng Nghymru ar y pryd - roi'r £719.25 ar ei ffurflen dreuliau.



Ond mi fyddwn, serch hynny yn  hoffi tynnu sylw at y ffaith bod partion ymddeoliad yn digwydd yn weddol gyson ar hyd a lled Cymru, a'r drefn arferol ydi i'r sawl sy'n mynychu dalu am ei fwyd a'i ddiod ei hun, yn hytrach na disgwyl i bobl eraill dalu am y dywydedig fwyd a diod.  Yr unig eithriad i hyn  ydi bod y sawl sy'n mynychu yn talu rhyngddynt am fwyd a diod y sawl sy'n ymddeol fel arfer.

Mewn amserau caled efallai y gallai uchel swyddogion y Bib ystyried talu am eu bwyd a'u diod eu hunain - wedi'r cwbl nid bychan ydi eu cyflog - fel y gellir weld yma.