Thursday, December 01, 2011

Alex Jones, Clarkson a'r Bib

Felly mae Jeremy Clarkson wedi agor ei geg fawr drachefn - ar y One Show y tro hwn.

Nid y ffaith bod Jeremy eisiau mynd a fi allan a fy saethu o flaen fy nheulu sydd yn fy mhoeni yn benodol - mae ganddo'n anffodus wendidau seicolegol sy'n gwneud iddo gasau pobl a grwpiau o bobl am resymau cwbl afresymegol - felly 'dydw i ddim yn cymryd pethau yn bersonol.



Yn hytrach y BBC sydd yn fy mhoeni (unwaith yn rhagor).  Mae Jeremy Clarkson wedi mynegi ei gasineb at Gymru yn gyffredinol (ceisio rhoi delwedd o'r wlad mewn popty ping ac ati) a thuag at y Gymraeg yn benodol.  Mae Alex Jones yn Gymraes sy'n siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg, ac mae gan unrhyw gyflogwr ddyletswydd gofalaeth tuag at y sawl sy'n gweithio iddo.  Ymddengys i mi ei bod yn afresymol gofyn iddi holi dyn sydd yn ei chasau oherwydd ei hiaith a'i chenedligrwydd.  Go brin bod y profiad yn un pleserus iddi hi.

Petai Alex yn ddu, a fyddai disgwyl iddi holi aelod o'r klu klux klan?  Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf mai negyddol ydi'r ateb i'r cwestiwn hwnnw.

14 comments:

Anonymous said...

Gwranda.....mae Alex Jones yn ddigon parod i'w holi. Mae derbyn arian mawr yn gwneud i ddyn ( neu fenyw) wneud llawer o bethau y byddent yn y gorffenol yn anfodlon i'w gwneud. Edrych ar Huw Edwards fel engraifft heb enwi llawer un arall.

Anonymous said...

Yda chi am flogio am y ras i arwain y Blaid? Dwi'n hynod siomedig efo'r dewis hyd yn hyn:

Dafydd El - sei no mor / Duw a'n helpo ni
Elin - fel IWJ person dymunol a chydwybodol ond dim carisma a hoples ar Question Time
Seimon Thomas - y dyn wnaeth golli Ceredigion. Boring a hunan-bwysig

Siawns fod na rhywun allan yna sydd efo'r gallu i ysbrydoli'r ffyddloniaid ac apelio i ambell i gefnogwr newydd??

Cai Larsen said...

Anhysb - Gwranda.....mae Alex Jones yn ddigon parod i'w holi. Mae derbyn arian mawr yn gwneud i ddyn ( neu fenyw) wneud llawer o bethau y byddent yn y gorffenol yn anfodlon i'w gwneud.

Pres mawr neu beidio ddylai contract rhywun ddim ei gorfodi i ymwneud efo rhywun sydd a chasineb afresymegol tuag ati ar sail ei lliw, crefydd, iaith ac ati.

Rhys Williams said...

Hello Anon 7:12 pm

Beth ? - rwy'n credu mae Elin Jones yw'r un i arwain Plaid Cymru.

Mae ganddi ddigonedd o garisma, a synnwyr cyffredin.

Paid dweud dy fod yn gwylio Question Time gan feddwl eu bod yn rhaglen cytbwys.

Anonymous said...

Ice Cold in Alex - dwi'n cytuno bod gan Elin ddigon o synwyr cyffredin a'i bod yn wleidydd gwbl ddiffuant OND charismatic??

Wrth gwrs tydi Question Time ddim ym raglen gytbwys, ond byddai gwleidyddion fel Wigley, Salmond, Price a hyd yn oed dyffar fel Elfyn Llwyd wastad yn gallu landio ambell i ergyd a chael clap neu ddau.

Mae gwahanol gyfnodau yn galw am wahanol fatha o arweinydd ac, ar hyn o bryd, mae gwir angen arweinydd cryf a charismataidd ar y mudiad cenedlaethol.

Aled GJ said...

Cai- mae dweud bod Jeremy Clarkson yn casau iaith a chenedligrwydd Cymru yn hurt. Mae'r boi jest wedi gweld niche iddo'i hun yn dweud pethau pryfoclyd am amryw o grwpiau gwahanol mewn cymdeithas. Pa dystiolaeth sydd yna i gredu fod ganddo farn benodol amdanom ni rhagor nag unrhyw un o'r grwpiau eraill y mae o'n eu cystwyo? Mae dweud ei fod o'n ein "casau" ni jest yn porthi'r victim mentality hyn sy'n gwneud dim i greu Cymreictod eofn a hyderus mae gen i ofn.

Anonymous said...

Adam price pan geith o sedd a dafydd wigley yn ol am 3 blynedd tan neith hynnu ddigwydd.

Dafydd El - wath i ni gael prince charles na hwnnw.
Simon Thomas - erm na
Elin Jones - diolch byth dim ffermwyr yndi rhan fwyaf o gymru a sa neb arall di clywed amdani.

Na, dafydd wig am 3 blynedd wedym AP i mi.

Cai Larsen said...

'Dwi 'mond yn cymryd y dyn ar ei air Aled.

Mae'n bosibl fod y boi ond yn smalio casau'r holl bobl mae'n myllio amdanynt- ond mae'n well gen i gymryd bod pobl yn dweud y gwir ynglyn a materion fel hyn.

Anonymous said...

Blog hysteraidd braidd. O wylio'r clip yn ei gyfanrwydd, mae'n amlwg fod Twitter a'r cyfryngau wedi chwyddo jôc reit ddoniol y tuu hwnt i bob rheswm. Dyma ddigwyddodd:

- Clarkson yn canmol y streic am ei bod hi'n ddistaw yn Llundain
- Dweud y byddai'n well iddo ddweud rhywbeth anffafriol er mwyn cadw balans y BBC.
- Dweud y byddai'n saethu'r streicwyr.

Mae'r bobl sydd wedi bod yn condemnio Clarkson wedi gwneud ffyliaid llwyr ohonynt eu hunain.

Cai Larsen said...

Wel dydw i ddim yn mynd ar ol y 'joc' yn benodol - pwynt arall sydd i'r blogiad.

Ond cyn dy fod yn codi'r mater efallai y byddet yn egluro pam bod dweud y dylid saethu pobl nad wyt yn eu hoffi yn ddigri. Dydi hi ddim yn ffraeth, gwreiddiol na diddorol.

Anonymous said...

Yn bersonol or ACau i gyd: Lindsay Whittle fyswn i eisiau. Bwcedi o garisma, hynod o radical, ac yn dod o (sort of!) cymoedd y de.

Anonymous said...

I love it whеn рeople come together and shaгe
ideas. Grеat websіtе, continue
thе goοԁ work!

Also visit my web-ѕіte blu e cig

Anonymous said...

Thіs іs my first time visit at here and i am actually pleasѕant to
reaԁ eνerthing at single plаce.

My ωebpage: related website

Anonymous said...

buy valium legal buy valium thailand - valium use in dogs