Thursday, December 15, 2011

Sylwadau Dafydd Ellis Thomas a Rhodri Glyn Thomas a rhai Neil McKevoy.

Mae'n ddiddorol i'r Blaid gynnal y gwyn yn erbyn sylwadau anoeth a wnaed gan Neil McKevoy ynglyn a mudiad Cymorth i Fenywod, tra'n gwrthod cynnal cwyn a ddaeth o gyfeiriad awdur y blog Syniadau ynglyn a sylwadau a wnaed gan ddau o Aelodau Cynulliad y Blaid - sylwadau oedd yn datgan eu bod yn erbyn un o bolisiau creiddiol y Blaid, sef annibyniaeth.  Yn wir mae'n ymddangos i Dafydd Ellis Thomas fynd mor bell a dweud ei fod yn erbyn unrhyw newidiadau cyfansoddiadol o gwbl.

Rwan 'dydw i ddim yn amddiffyn sylwadau Neil am funud - ond mi fyddwn wedi tybio y byddai'n fwy o broblem i blaid genedlaetholgar fod  rhai o'i harweinwyr yn dadlau'n gyhoeddus ar y cyfryngau prif lif  yn erbyn y brif ddadl tros ei bodolaeth ac o blaid safbwyntiau ei gwrthwynebwyr, nag y byddai sylwadau brysiog a di feddwl gan gynghorwydd o Gaerdydd ar wefan gymdeithasol.  Ond na - mae dweud rhywbeth cas am gorff allanol yn fwy o broblem nag ydi hi i aelodau Cynulliad y Blaid danseilio ei raison d'etre.

Mae yna reswm am y sefyllfa ymddangosiadol afresymegol yma, ac mae wedi ei wreiddio yn y ffaith ein bod fel Pleidwyr wedi bod yn barod iawn i dderbyn amwyster mewn perthynas ag annibyniaeth yn y gorffennol.  Ceir rheswm syml am hyn yn ei dro.

Un o brif ddadleuon y sawl oedd yn erbyn datganoli grym i Gaerdydd yn y gorffennol oedd bod gwneud hynny yn ein rhoi ar y llwybr llithrig tuag at annibyniaeth.  Roedd llawer ohonom oedd o blaid annibyniaeth hefyd yn ddistaw bach yn rhannu'r dadansoddiad hwnnw - ac oherwydd hynny rydym wedi tueddu i gymryd yr agwedd mai cychwyn ar y broses ddatganoli oedd y peth pwysig, ac os oedd gwadu'r angen am annibyniaeth yn gwneud hynny'n haws yna roedd yn bris bach i'w dalu.  'Dwi'n digwydd credu bod cymryd yr agwedd honno wedi bod yn gamgymeriad, a'i bod yn gyfrifol am lawer o'n problemau cyfoes - ond 'dwi hefyd yn deall pam oedd pobl yn rhesymu yn y ffordd arbennig yma ar un adeg.

Ond rwan ydi rwan a'r gorffennol ydi'r gorffennol.  Mae datganoli wedi newid pethau - 'does yna ddim esgys tros amwyster bellach.  Yn wir mae'r amwyster hwnnw bellach yn llesteirio ar ddatblygiad Blaid ac yn ei gwneud yn destun sbort.  Mae datganoli wedi ei wireddu, a'r ddau gwestiwn cyfansoddiadol i Gymru bellach ydi i ble'r ydym yn mynd? a pa mor gyflym ydym yn mynd yno?  Mae'r tirwedd gwleidyddol oedd yn bodoli pan roedd Dafydd Ellis Thomas a Rhodri Glyn Thomas yn wleidyddion ifanc wedi marw - ni ddaw byth yn ei ol.


Bellach mae pob un o'r pleidiau unoliaethol Cymreig o blaid datganoli i rhyw raddau neu'i gilydd.  'Dydi o ddim yn gwneud synnwyr i'r Blaid leoli ei hun yn yr un lle (fwy neu lai) yn gyfansoddiadol a'r pleidiau Prydeinig.  Mae hynny yn arbennig o wir mewn byd lle mae gwledydd llai eraill y DU yn symud i gyfeiriad annibyniaeth beth bynnag.

Mae llwyddiant datganoli yn eironig wedi difa'r angen am blaid sy'n diffinio ei hun yn nhermau hyrwyddo datganoli.  Mae'r Pleidwyr hynny sydd yn dal i weld datganoli fel y prif flaenoriaeth cyfansoddiadol yn y blaid anghywir - neu maent yn dal i fyw mewn cyfnod gwleidyddol sydd wedi hen gilio.


1 comment:

Anonymous said...

Neil mcAvoy wedi ei drin yn sarhaus gan y Blaid. Dwedodd bethau mewn ffordd ymffldmychol, ond ystyriwch beth fyddai ymateb y Blaid yn ganolog wedi bod petai dynes a mam wedi dweud sylwadau tebyg mewn cyd-destun bersonol tebyg? A beth fyddai agwedd pobl wedyn petai y ddynes wedi ei thrin mor sarhaus ag y deliwyd a NMcA?

Mae ganddo erthygl swmpus, sylweddol ar bwnc tadau yn rhifyn cyfredol Planet. Byddai rhywun yn disgwyl elfen o synnwyr cyffredin a jyst politics elfennol i beidio gwneud mor a mynydd o hyn.

Mae Neil wedi gwneud tomen o waith da dros y Gymraeg yn y brifddinas ond, hei, mae ffrynt Llafur y mudiad menywod am gael ei wared. Bydd Llafur wrth eu bodd.

Ac i be? Fydd etholiad mewn chwe mis.