Tuesday, December 27, 2011

Slovenia, Cymru a llwyddiant economaidd

Mae'n werth ymweld a'r blog Syniadau (unwaith eto) i weld blogiad sy'n cymharu perfformiad economaidd Cymru a gwlad digon tebyg iddi o ran maint a phoblogaeth - Slovenia.

Y gwahaniaeth rhwng y ddwy wlad wrth gwrs ydi bod Slovenia yn annibynnol tra bod Cymru yn rhan o endid llawer mwy, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu  perfformiadau economaidd cymharol.  Mae Slovenia yn tyfu'n gyflym yn economaidd, tra bod twf Cymru yn llawer arafach.

Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol bod mai dadleuon economaidd ydi'r unig rai gwerth eu cyflwyno yng nghyd destun ennill annibyniaeth i Gymru, ac mae'n galondid bod y dadleuon hynny yn cael eu cyflwyno ar y blogosffer.

Wedi dweud hynny, mae'n anffodus nad ydynt eto yn agos at galon y ddadl rhwng y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.  

6 comments:

Hogyn o Rachub said...

Mae o'n hanfodol fod y ddadl economaidd yn cael ei hennill, a dwi'n meddwl i raddau ein bod ni'n gwneud hynny, ond mae angen ei chyflwyno mewn ffordd syml y gall pawb ei deall. Y mae dadaleuon economaidd yr unoliaethwyr wedi'u hen hymsefydlu ym meddyliau nifer iawn o bobl a bydd eu disodli'n gamp.

Serch hynny, dwi fymryn yn bryderus am DIM OND cyflwyno'r ddadl economaidd, a hynny am un rheswm syml. Hyd y gwn i (a chywira fi os dwi'n anghywir) does 'run wlad wedi ennill ei hannibyniaeth oherwydd bod y boblogaeth gyffredinol yn teimlo y byddai o les economaidd iddi wneud hynny. Y mae pob un wedi oherwydd teimladau emosiynol / cenedlaetholgar.

O ran hynny, os ydyn ni am gymharu Cymru â gwledydd eraill, waeth i ni hefyd ystyried mai yn yr un modd y bydd Cymru hithau'n ennill ei hannibyniaeth.

Mae gwledydd eraill Ewrop nad ydynt eisoes yn wladwriaethau yn enghreifftiau o hyn. Y mae gan yr Alban a Chatalunya economïau cryf ar y cyfan, ond yr hyn rydym ni wedi'i weld yn y ddwy wlad ydi dad-Brydeineiddio (a beth bynnag ydi'r peth tebyg o ran Sbaen!) yn hytrach na'r economi'n gyrru'r ddadl.

I ddod i gasgliad, mae'n ddadl hanfodol ei hennill, ond nid dyma'r ffactor a fydd yn sicrhau ein hannibyniaeth - os ydyn ni am ddysgu o brofiadau gwledydd eraill, waeth i ni hefyd ddysgu mai ymdeimlad cenedlaetholgar sydd am wneud hynny.

Cai Larsen said...

'Dwi'n derbyn beth ti'n ddweud i raddau - ond mae problem yng Nghymru o ran canoli ymgyrch ar hunaniaeth - mae ein hunaniaeth yn gymhleth - neu efallai bod gennym wahanol hunaniaethau.

Yn y gorffennol mae'r sawl sy'n erbyn mwy o ymreolaeth i Gymru wedi chwarae ar yr hunaniaethau gwahanol i'n rhannu - yn wir yn 79 dyna oedd sail eu hymgyrch. Mae ymgyrch wedi ei chanoli ar fuddiant economaidd pawb yn dod tros y broblem yma.

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n cytuno efo'r Hogyn. Rwy'n genedlaetholwr am resymau emosiynol, diwylliannol, teuluol, moesol ac ati. Pe bae rhywun yn gofyn imi i restru'r 101 reswm pennaf pam fy mod yn falch o fod yn Gymro prin y byddai ein heconomi yn canfod lle hyd yn oed ar waelodion y rhestr.

Ond mae Cai yn hollol gywir hefyd, llwyddo i gyflwyno'r ddadl economaidd yn gywir byddai'r arf gryfaf yn y frwydr genedlaethol.

Os edrychwn ar y sawl sydd yn ymwrthod a chenedlaetholdeb fe ganfyddwn eu bod yn dioddef o'r hyn y mae Alex Salmond yn ei alw The too wee, too poor, too stupid complex. Ystyr complex yn y cyd-destun yma yw broblem emosiynol a achosir gan ofnau neu bryderon afresymol, hynny yw mai brwydro ar sail yr economi yn frwydr at y galon cymaint, os nad fwy, nag ydyw yn frwydr at y pen neu'r boced.

Anonymous said...

oes na fymryn o ddwyn dadl adam price yma?

Cai Larsen said...

Pa ddadl?

Anonymous said...

Adam di ysgrifennu papur hir am hyn