Monday, December 26, 2011

Cip cychwynol ar etholiadau lleol 2012

Reit - cip bach cychwynol ar brif ddigwyddiad gwleidyddol y flwyddyn nesaf - yr etholiadau lleol.  Mi gymerwn ni bethau fesul plaid.

1)  Llafur.  Mae yna hen batrwm mewn gwleidyddiaeth Cymreig bod Llafur yn adeiladu cefnogaeth yn gyflym  pan maent allan o rym yn San Steffan - ac mi ddigwyddodd hynny eleni yn etholiadau'r Cynulliad, er i Lafur fethu cael mwyafrif llwyr o drwch blewyn.  Byddwn yn disgwyl i hynny barhau yn etholiadau lleol fis Mai y flwyddyn nesaf gyda Llafur efo cyfle eithaf da o gipio'r dinasoedd oddi wrth y gwahanol glymbleidiau Lib Demaidd a'u rheoli ar eu liwt eu hunain.  Byddant hefyd yn disgwyl ail adeiladu yn y Cymoedd gan gipio rhai o'r cynghorau a gollwyd yn 2008.  Roedd eu perfformiad yn 2008 yn drychinebus - collwyd 124 o gynghorwyr.  Maen nhw'n siwr o wella ar y 342 cynghorydd a etholwyd bryd hynny.

2)  Toriaid.  Mae'r Blaid Doriaidd wedi ail adeiladu yng Nghymru ers erchyllderau 1997 - 2001.  Maent bellach yn ail yng Nghymru ar lefelau San Steffan a'r Cynulliad ac roedd cael chwarter y bleidlais yn yr etholiad honno yn gryn gamp. Fodd bynnag mae'n ddigon posibl eu bod wedi cyrraedd eu penllanw ar hyn o bryd - mae'r toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn fwy niweidiol yng Nghymru nag ydyw yn Lloegr - ac mae yna lawer iawn o bobl yn ddibynol ar wariant cyhoeddus mewn rhyw ffordd neu'i gilydd mewn ardaloedd sy'n dda i'r Toriaid, megis Gogledd Caerdydd a Chonwy.  Maent yn debygol iawn o ddal Mynwy, a byddant yn gobeithio dal Bro Morgannwg - er eu bod yn fwy agored i gael eu niweidio gan yr adfywiad Llafur yma.  Mae ganddyn nhw bresenoldeb sylweddol yng Nghonwy a Dinbych (maent yn rhannu grym yn Ninbych) ond dydw i ddim yn rhagweld y byddan nhw symud ymlaen llawer yma.  Byddai'n llwyddiant i't Toriaid aros ym mhle y maent ar hyn o bryd, ac mae am fod yn anodd iawn iddynt wella ar y 174 cynghorydd a gawsant yn 2008.  .

3)  Y Lib Dems.  Gallant ddisgwyl cweir mae gen i ofn.  Er i'r blaid wneud yn well na'r disgwyl yn nhermau seddi yn etholiadau'r Cynulliad (colli un yn unig), roeddynt yn lwcus iawn, iawn i beidio a cholli dwy sedd arall a chael eu hunain ar dair yn unig.  Tros y ddegawd diwethaf maent wedi llwyddo i adeiladu cryn bresenoldeb mewn llywodraeth leol mewn aml i ran o Gymru, ac yn arbennig felly yn y dinasoedd ac yn rhai o'r Cymoedd. Mae'n ffaith anffodus iddyn nhw mai ar draul Llafur maent wedi ennill seddau, a bydd yr adfywiad ym mhleidlais y blaid honno yn ogystal a'r cwymp anhepgor ym mhleidlais y Lib Dems yn golygu y bydd y rhan fwyaf o'u dylanwad mewn llywodraeth leol yng Nghymru yn cael ei golli - am y tro o leiaf.  Byddant yn gwneud yngymharol dda i gael 100 sedd, o gymharu a 162 yn 2008.

4)  Plaid Cymru.  Yn rhyfedd iawn gallai'r etholiad fod yn un cymharol lwyddiannus i'r blaid er gwaethaf ei phroblemau ehangach.  Mae'n wir y bydd rhaid iddynt sefyll yn erbyn yr adfywiad Llafur mewn ardaloedd megis Caerffili, Rhondda Cynon Taf a  rhannau o Sir Gaerfyrddin, ond 'dydi'r adfywiad Llafur heb gyrraedd Gwynedd na Sir Geredigion - ac mae'n ddigon posibl y bydd yn cadw y mwyafrif llwyr sydd newydd ei ail ennill yng Ngwynedd, a manteisio ar wendid y Lib Dems yng Ngheredigion.  Yn wir hyd yn oed mewn nifer o leoedd lle mae Llafur yn gryf mae lle i obeithio y bydd y Blaid yn dal ei thir yn eithaf - mae llawer o'i chynghorwyr wedi hen sefydlu eu hunain, ac mae perfformiad Cyngor Caerffili wedi bod yn ddigon clodwiw.  Bydd yn anodd cadw'r 205 cynghorydd a etholwyd ym mherfformiad penigamp 2008, ond mae'n fwy na phosibl y bydd yn cadw ei lle fel yr ail blaid fwyaf mewn llywodraeth leol yng Nghymru.  Y prif berygl i'r Blaid ydi y gallai llwyddiant cymharol argyhoeddi ei harweinwyr nad oes yna broblemau arwyddocaol i fynd i'r afael efo nhw.  Byddai hynny'n gryn gamgymeriad.


No comments: