Saturday, December 03, 2011

Cymorthdaliadau'r Cyngor Llyfrau a Gwilym Owen

Mae’n ddiddorol darllen erthygl Gwilym Owen mewn cylchgrawn sy’n derbyn cymhorthdal sylweddol gan y Cyngor Llyfrau (Golwg Rhagfyr1af) ynglyn a chymorthdaliadau i gylchgronau Cymraeg.  Cwyno'n groch mae Gwilym bod nifer o gylchgronau eraill  hefyd yn derbyn cymorthdaliadau - er bod y rheiny'n cael llai o bres o lawer na mae Golwg yn ei gael.

Yr hyn sydd gan Gwilym ydi bod y cylchgronau nad yw eisiau i’r Cyngor Llyfrau eu cynnal yn rhai ‘dosbarth canol’ ac ‘elitaidd’, ac o’r herwydd dylid rhoi’r arian sy’n cael ei wario arnynt i’r Cymro – sydd o bosibl yn nhyb Gwilym  yn denu darllenwyr nad ydynt yn ddosbarth canol nag yn elitaidd. Mewn geiriau eraill mae am i holl arian cymhorthdal y Cyngor Llyfrau gael ei ddosbarthu rhwng tri chylchgrawn yn unig – yr un mae’n ysgrifennu iddo, Barn a’r Cymro. Hynny yw, dau bapur cymharol debyg i’w gilydd i’r graddau eu bod yn bapurau wythnosol sy’n delio yn bennaf a newyddion a materion cyfoes, ac un arall sy’n fwy eclectic a dadansoddol o ran cynnwys.

Rwan mae yna sawl problem gweddol amlwg efo hyn oll. Fel rheol defnyddir cymorthdaliadau o'r math yma i sicrhau amrywiaeth darpariaeth yn hytrach nag i roi cymorth i’r cylchgronau sydd a’r cylchrediad uchaf – er mai isel ydi cylchrediad Golwg a’r Cymro hefyd mewn gwirionedd. Byddai dilyn cyngor Gwilym yn arwain at sefyllfa lle byddai’r rhan fwyaf o’r cymorthdaliadau yn mynd at ddau gylchgrawn tebyg i’w gilydd sy’n dyblygu gwaith ei gilydd i raddau helaeth. Hynny yw, byddai’r amrywiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn diflannu i bob pwrpas.

Yn ychwanegol ,mae yna gwestiwn yn codi unwaith eto ynglyn a rhagfarnau Gwilym. ‘Dydi hi ddim yn glir (hyd y gwn i) faint o bobl wahanol sydd yn darllen yr amrywiol gylchgronau Cymraeg. Er bod gwahaniaethau rhwng cynnwys Y Cymro a Golwg, tybed faint o ddarllenwyr sy’n darllen y ddau? Ac ymhellach, tybed faint o ddarllenwyr Taliesin sydd hefyd yn darllen Y Cymro? ‘Dydw i ddim yn gwybod, ond ‘dydi Gwilym ddim yn cyflwyno unrhyw dystiolaeth nad cyfran go lew o ddarllenwyr Y Cymro a Golwg sydd hefyd yn darllen y stwff 'elitaidd'.

Fel sy’n arferol efo Gwilym, mae’r erthygl yn ddiog i’r graddau nad oes yna ddim tystiolaeth o waith ymchwil annibynnol ynddi. Mae ei holl dystiolaeth yn dibynnu ar ffigyrau darlleniad a chymhorthdal a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Golwg. Mi fyddai gan Gwilym ddadl petai’n gallu dangos bod yna wahanol bobl yn darllen Y Cymro o gymharu a’r papurau eraill. Byddai ganddo ddadl gryfach petai’n gallu dangos bod yna swmp o ddarllenwyr potensial i’r Cymro yn rhywle neu’i gilydd. Ond ‘dydi o ddim yn gwneud hynny, nag yn wir yn ceisio gwneud hynny. Felly mae Gwilym eisiau anfon Barddas, Y Traethodydd a Thaliesin i’r un bun sbwriel a Thu Chwith heb hyd yn oed geisio dangos sut y byddai hynny’n cynhyrchu mwy o ddarllenwyr Cymraeg, heb son am gynyddu’r amrywiaeth sydd ar gael.

Cyn gorffen efallai y dyliwn gyfeirio at ymysodiad Gwilym ar Bethan Jenkins. Ymysg y sylwadau sarhaus mae'n disgrifio ei sylw y dylid rhyw led wladoli’r Western Mail fel un o’r ‘sylwadau mwyaf twp a glywyd yn ddiweddar’. Mi fyddwn yn rhyw gytuno nad hwn ydi’r syniad gorau i Bethan ei gael erioed – ond ydi’r syniad mor dwp a syniad Gwilym ynglyn a sut y dylid penderfynu sut i ddosbarthu cymorthdaliadau i’r wasg Gymraeg ? Dyma sydd ganddo i’w ddweud ar y pwnc – _ _ _ o gofio bod y papur (Y Cymro) bellach yn cyflogi Karen Owen un o’r hacs gorau yn yr iaith Gymraeg onid yw’n amser ailystyried _ _ (faint o gymhorthdal mae’r Cyngor Llyfrau yn ei roi i’r Cymro).

Rwan ‘dwi’n gwybod bod Karen yn effeithiol a rhyfeddol o gynhyrchiol – ond wir Dduw ‘dydi hi ddim yn bosibl llywio polisi dosbarthu cymorthdaliadau ar sail pwy sydd yn gweithio yn lle. Beth goblyn fyddai Gwilym yn ei ddweud petai Tu Chwith yn recriwtio Karen – a’r arian mae eisiau ei anfon i’w dilyn o gwmpas y wlad.

3 comments:

Anonymous said...

Cofier hefyd fod Y Cymro yn eiddo i Tindle Newspapers, sydd wedi ei leoli yn Farnham, Surrey. Dyma'r grwp o bapurau gafodd orchymyn i beidio a rhedeg straeon gwrth-ryfel Irac yn 2003; trosiant o dros £50m; ac elw o dros £4m y flwyddyn. Ac mae Gwilym Owen am iddyn nhw gael fwy o bres cyhoeddus Cymru. Call iawn Gwilym. Call iawn.

Anonymous said...

Yn anhygoel fod y Cymro yn dal i barhau gyda chyn lleied o grant. Bydde yn drychuneb petai yr unig bapur newydd Cymraeg yn dod i ben. Mae Gwilym Owen yn llygad ei le y tro yma.

Anonymous said...

Diolch i BlogMenai am tynu sylw i rhagfarnau Gwilym Owen. Mae bobl Cymraeg wedi ei cyflyru i feddwl bod e'n hard hitting jouro.Diolch i BlogMenai am dangos nad oes gan Emperor Gwilym dim dillad journo iawn dim ond rhagfarfnau bigot. Nid gwneud ymchwilio y mae ef dim ond holding forth fel y "pub bore". Yn Lloegr dim ond Grumpy Old Men byddai'n rhoi platform i Gwilym Owen.Ond yn gymraeg mae hang ups G Owen yn cael ei camcymryd am newyddiadura. HOW SAD IS THAT.