Wednesday, December 21, 2011

'Dwi ddim eisiau difetha 'Dolig neb ond _ _ _

_ _ _ cymrwch olwg ar y graff isod:

Ia dyna chi - os ydan ni'n ychwanegu pob dyled yn y DU at ei gilydd (yn hytrach na dyledion y llywodraeth ac unigolion yn unig) mae'r ddyled bron yn 1000% o GDP'r wlad - llawer, llawer uwch na'r Undeb Ewropiaidd sydd ar hyn o bryd yng nghanol y storm.

Gweler yma am fanylion.

4 comments:

Ifan Morgan Jones said...

O be ydw i'n ei ddeall problem parth yr Ewro ydi nad ydi'r gwledydd unigol yn gallu datbrisio eu harian eu hunain er mwyn gwneud y ddyled yn haws i'w dalu. Hefyd mae eu banc canolog nhw, yr ECB, yn gwrthod argraffu arian er mwyn gwneud hynny drostyn nhw. Mae Prydain mewn safle cryfach oherwydd hynny, er gwaethaf ein dyled.

Mae'n amlwg fod y rhan fwyaf o ddyled Prydain yn y sector ariannol. Beth sydd ei angen yn y tymor hir ydi llacio dibyniaeth Prydain ar y sector yma. Ond fe allai hynny gymryd degawdau ac felly ein hunig obaith nawr ydi eu bod nhw'n llwyddo i ddatrys eu problemau ariannol! Gulp.

Cai Larsen said...

Ia - ond os ydi'r marchnadoedd byth yn ffocysu ar Brydain does yna ddim ffordd o drosglwyddo dyled y sector ariannol i'r wladwriaeth - mae o jyst rhy fawr.

Anonymous said...

so be di dy bwynt di? Ti or diwadd am gytuno hefo toriadau ta dal am freddwydio gall pawb gael pensiynau hael, tal am symud papur o un sywddfa cyngor i'r llall etc etc

Ymddengys dy fod yn cytuno hefo Guto?

Cai Larsen said...

He, he - mae yna rhywbeth digri o gyfarwydd am neges yn dechrau efo - be ydi dy bwynt di - o ddyddiau maes e ers talwm.