Os ydych o'r farn nad oedd goblygiadau gwleidyddol i'r Gemau Olympaidd cymerwch gip ar dudalen flaen Mail on Sunday heddiw.
Mae'r erthygl ei hun yn bropoganda unoliaethol, ond mae'n adrodd ar rhywbeth 'caled' yn yr ystyr bod pol piniwn oedd wedi ei gomisiynu gan y papur ei hun yn dangos bod y gefnogaeth i annibyniaeth wedi cwympo'n sylweddol.
Mi fydd digwyddiadau chwaraeon mawr yn aml gydag is destun gwleidyddol iddynt - Beijing, Barcalona, Moscow, Los Angeles yn esiamplau diweddar.
Clymu'r Deyrnas Unedig at ei gilydd oedd is destun hon - rhywbeth fyddai wedi ymddangos yn gwbl ddi angen hanner canrif yn ol. Ers hynny mae amrywiaeth o rymoedd wedi gwneud y syniad o Brydeindod yn llawer mwy anelwig a chymhleth - ac felly'n fwy anodd i'w gynnal. Nid yr adfywiad cenedlaethol yn y gwledydd Celtaidd ydi'r unig beth sydd wedi bod yn gyrru hyn. Mae natur cymdeithas yn llawer o ardaloedd trefol Lloegr wedi newid yn sgil y tonnau o fewnfudo tros y degawdau diwethaf, ac o ganlyniad mae Prydeindod wedi colli llawer o'r hyn oedd yn ei ddiffinio yn y gorffennol - Protestaniaeth, ethnigrwydd neilltuol, perchnogaeth ymerodraeth enfawr, Saesneg fel iaith oedd bron yn gyffredinol ac ati.
Doedd hi erioed yn bosibl i'r wladwriaeth ddychwelyd ymdeimlad pobl o Brydeindod i factory setting, ond mae'r gemau wedi bod yn gyfle i arddangos model arall o Brydeindod - model aml ddiwyllianol a chynhwysol. Yn y Brydain sydd ohoni dyna'r unig fodel y gellir ei gynnig bellach mewn gwirionedd, ac mae'r model o Brydain mwy cynhwysol yn un sy'n hyrwyddo'r undeb hefyd - yn un sydd a'r potensial i atal neu arafu y grymoedd hynny sy'n anfon Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ol ddatganoli i lawr llwybrau eu hunain. Dydw i ddim yn amau am funud bod gwahanol elfennau'r DU wedi eu tynnu at ei gilydd gan ddigwyddiadau'r haf.
Ond cyn i'r unoliaethwyr ddathlu gormod mae yna un mater bach i'w ystyried. Dydi hi ddim yn glir os ydi'r gemau wedi newid pethau yn sylfaenol. Mae'n sicr wedi creu feel good factor, ac wedi cysylltu hwnnw efo'r wladwriaeth Brydeinig. Ond dydi hi ddim yn glir os ydi wedi gwneud Prydeindod fel cysyniad yn fwy atyniadol yn yr hir dymor. Mae gwladwriaethau (democrataidd) yn cael eu cadw at ei gilydd gan gyfuniad o ystyriaethau ymarferol, materol a rhai mwy haniaethol sy'n ymwneud a hunaniaeth.
Dydi'r gemau ddim wedi symud y ddadl ynglyn ag os ydi'r Alban yn well o safbwynt materol yn y DU neu ar ei liwt ei hun fodfedd. Roedd cryn dipyn o son y byddai buddugoliaeth Ffrainc gyda'i dim aml ddiwyllianol yng Nghwpan (pel droed) y Byd yn 1998 yn newid pethau yn y wlad honno yn sylfaenol - ond o fewn blwyddyn roedd terfysgoedd ar y strydoedd. Wnaeth y teimlad cadarnhaol a greuwyd bryd hynny ddim oll i newid yr anghyfartaledd materol yn y wlad. Rhywbeth byrhoedlog ydi ymdeimlad cadarnhaol ynddo'i hun.
Mae hefyd yn ddigon posibl nad ydi'r Gemauu Olympaidd wedi newid agwedd pobl at eu hunaniaeth sylfaenol mewn unrhyw ffordd sylfaenol a pharhaol chwaith. Os felly mi fydd y gemau wedi eu hen pan fydd yr Albanwyr yn pleidleisio ar annibyniaeth mewn dwy flynedd.
Showing posts with label gemau olympaidd. Show all posts

Sunday, August 19, 2012
Wednesday, August 15, 2012
Hunan gasineb ein papur 'cenedlaethol'
Mae Ifan a Royston wedi dweud fwy neu lai yr oll sydd angen ei ddweud am yr erthygl bisar a ymddangosodd yn y Western Mail druan ddoe.
Ymgais ydi'r stori i gysylltu dau beth nad ydynt yn gysylltiedig - perfformiad tim Prydain yn y Gemau Olympaidd ac ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi gan yr Office for National Statistics ynglyn a pherfformiad economaidd a demograffeg ym mhedair gwlad y DU.
O bosibl er mwyn gwneud stori ddiflas am ffigyrau yn fwy diddorol mae'n ymddangos i'r papur gysylltu efo dau wleidydd sydd efo tipyn o hanes o ddweud pethau braidd yn lliwgar a gofyn iddyn nhw beth allai Cymru ei ddysgu o'r Gemau Olympaidd er mwyn gwella'r ffigyrau Efallai eu bod yn disgwyl i'r naill neu'r llall ddweud rhywbeth am bwysigrwydd undod y DU, neu awgrymu y byddai gwneud i bawb tros 65 redeg ychydig o weithiau rownd trac athletau yn lladd digon o'r henoed i wneud i'r demograffeg edrych yn well neu rhywbeth.
Beth bynnag nid dyna ddywedodd y naill na'r llall - dweud rhywbeth rhannol ddealladwy am wleidyddion Llafur eraill wnaeth Wayne David a rwdlan tipyn am foi mor dda ydi Boris Johnson wnaeth Simon Hart. Mae'n debyg bod cwestiwn gwirion yn siwr o esgor ar ateb gwirion.
Ond yr hyn sy'n fwy diddorol o bosibl ydi beth mae'r stori yn ei ddweud am ddiwylliant newyddiadurol y Western Mail. Maen nhw eisiau riportio ar fethiannau Cymreig - sy'n ddigon teg. Maen nhw hefyd eisiau dod i gasgliadau mwy cyffredinol o'r methiannau hynny - sydd eto yn ddigon teg. Ond dydi ceisio priodi'r methiannau Cymreig efo llwyddiant Prydeinig - er bod y ddau beth yn gwbl ddi gyswllt - ddim yn rhywbeth deallus iawn i'w wneud. Yn wir mae'n adrodd cyfrolau am agweddau gwaelodol y papur - agweddau sydd wedi eu gwreiddio mewn hunan gasineb.
Efallai y caf wneud pethau'n syml i'r Western Mail. Buddsoddiad anferth gan y wladwriaeth Brydeinig mewn chwaraeon ydi sail llwyddiant TeamGB. Mae diffyg buddsoddiad yn un rheswm am fethiannau economaidd yng Nghymru, ond nid dyna'r prif reswm. Obsesiwn y wladwriaeth Brydeinig efo'r sector ariannol yn Llundain, a diffyg mynediad yng Nghymru at y lefrau economaidd a allai ganiatau i ni fod yn gystadleuol ydi'r rheiny.
Dydi rwdlan am lwyddiannau Prydeinig yn yr un gwynt a disgrifio methiannau yng Nghymru ddim am newid hynny.

Saturday, August 11, 2012
Pol y Guardian ar y Gemau Olympaidd
Mae yna rhywbeth bron yn ddigri yng nghanfyddiad pol y Guardian bod y Gemau Olympaidd yn fwy poblogaidd yng Nghymru nag yn Llundain. Yn wir yn ol y pol roedd y jambori yn fwy poblogaidd yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Byddwch yn cofio i'r blog yma groniclo ( hyd at syrffed efallai) nad oes gan Gymru dim yn y gemau, i ni gael nesaf peth i ddim o'r contractau a ddaeth yn sgil y gemau, na chawsom y nesaf peth i ddim o'r cystadleuthau, ac mai ychydig o lwyddiant a gafwyd.
Rwan, dwi'n gwybod am y rhybuddion arferol am is setiau bach o ddata ac ati, ond mae'n rhaid cyfaddef bod hyn yn gryn dro ar fyd - ychydig wythnosau yn ol roedd tri chwarter poblogaeth Cymru o'r farn na fyddai'r Gemau o unrhyw fudd o gwbl i'r wlad.
Mae'n debyg y dylid llongyfarch ein cyfryngau lleol, ac yn arbennig felly BBC Cymru/ Wales am y 'llwyddiant' rhyfeddol yma i newid agweddau pobl. Maent wedi gwerthu'r gemau yn llawer mwy effeithiol na neb arall. Gobeithio y byddant yn cael mwy na'u siar o OBEs, MBEs ac ati am wasanaethau i'r Cwin a'r Neshyn. Duw a wyr maen nhw'n ei haeddu am lyfu a llempian ymhell, bell y tu hwnt i alwadau dyletswydd.

Friday, August 10, 2012
Llongyfarchiadau Rob_ _ _
_ _ _ ar fod yn gyntaf (hyd y gwn i) i ddefnyddio TeamGB i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Cynghorydd Llafur o'r Bari ydi Rob Curtis, ac mae'n ymddangos nad yw'n rhy hapus bod ei blaid wedi cael cweir gan Plaid Cymru mewn is etholiad yn y dref yrwythnosdiwethaf.
Mewn llythyr bach chwerw i'r Echo mae Rob yn mynd i'n rhybuddio o beryglon annibyniaeth:
Every Plaid councillor elected will become a cheer leader for petty short sighted nationalism and an advocate of destroying our unique & mostly successful partnership with the rest of the United Kingdom _ _ _ that means an end to team GB.
A gadael o'r neilltu'r ffaith bod Rob yn ystyried trefniant sydd wedi dod a thlodi, tlodi a mwy o dlodii Gymru yn successful partnership, mae'r llythyr yn adrodd cyfrolau wrthym am sut mae'r sefydliad Cymreig yn gweithio.
Rydym yn cael un colofn sefydliadol Gymreig (BBC Cymru / Wales) yn treulio misoedd lawer yn clodfori ac yn heipio'r jambori mawr Llundeinig yn gyffredinol a TeamGB yn benodol, tra bod colofn arall (y Blaid Lafur Gymreig) yn portreadu llwyddiant i blaid arall mewn is etholiad cyngor fel bygythiad i'r hyn sydd wedi ei heipio cymaint gan ei chyd golofn sefydliadol.
Mae pwt o lythyr Rob yn adrodd cyfrolau am wleidyddiaeth Cymru.

Wednesday, August 08, 2012
Llongyfarchiadau i'r BBC!
'Dydi teitl y blogiad yma ddim yn un yr ydych yn debygol iawn o'i weld yn aml ar Flogmenai. Serch hynny mae yna ambell i raglen ar y Bib (y fersiwn Brydeinig wrth reswm, nid yr un Gymreig) sy'n fodlon nofio yn erbyn y lli.
Dyna'n union wnaeth Newsnight neithiwr gydag eitem drylwyr oedd yn ystyried yn union pa mor gynhwysol ydi Gemau Olympaidd Llundain.
Gallwch weld y rhaglen yma. edrychwch arni os cewch chi'r amser.

Monday, August 06, 2012
'Llwyddiant' Cymreig y Gemau Olympaidd
Mae'n ddiddorol mai Cymru ydi'r wlad sydd wedi cyfranu leiaf i lwyddiant TeamGB yn y Gemau Olympaidd yn ol dadansoddiad y Guardian - 2% o'r medalau o gymharu a 5% o'r boblogaeth. Mae cyfraniad yr Alban a hyd yn oed Gogledd Iwerddon yn sylweddol well. Nid bod neb yn debygol o ddod i ddeall hyn o wrando ar y brwdfrydedd mwyfwy hysteraidd sy'n dod o gyfeiriad BBC Cymru a'r cyfryngau Cymreig eraill.
Ar un olwg mae'n anodd arenwi'r rhesymau am y diffyg llwyddiant - wedi'r cwbl mae Cymru'n perfformio'n dda - o gymharu a'i phoblogaeth - mewn nifer o chwaraeon rygbi yn arbennig wrth gwrs, ond hefyd peldroed. Un rheswm tebygol ydi mai cymharol ychydig o blant Cymru sy'n mynychu ysgolion bonedd. Mae cefndir mewn ysgol felly yn rhoi cryn fantais i athletwr. Yn wir yng Ngemau Olympaidd Bejing aeth hanner medalau Prydain i gyn ddigsyblion ysgolion bonedd, er mai dim ond 7% o blant y DU sy'n mynd i ysgolion felly. Mae'r ffigyrau yn is y tro hwn, ond mae plentyn o ysgol bonedd bedair neu bump gwaith mwy tebygol o gael medal na rhywun aeth i ysgol gyffredin. Yn wir eithriad prin ydyw i rhywun o ysgol gyffredin gael medal mewn saethu, rhwyfo neu unrhyw beth i'w wneud efo ceffyl.
Rheswm arall posibl ydi diffyg buddsoddiad - wedi'r cwbl mae Cymru'n wlad dlawd. Dydi all gyfeirio gwariant ar chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru i gyfeiriad Gemau Olympaidd Llundain ddim yn debygol o wella'r sefyllfa yn y tymor canolig na'r hir dymor wrth gwrs.
Wneith realiti'r sefyllfa ddim amharu fymryn ar bropoganda lloerig BBC Cymru a'u tebyg wrth gwrs - mi fyddwn yn clywed ymhell, bell ar ol i'r holl sioe ddod i ben profiad mor gadarnhaol oedd y peth i gyd, cymaint mae Cymru wedi elwa, mor lwcus oeddem i gael ein cysylltu efo'r jambori estynedig, ac ati, ac ati.
Ond y gwir ydi mai'r unig wahaniaeth i Gymru fydd hybu hunaniaeth Brydeinig yn y wlad ar draul hunaniaeth Gymreig. Ac yn y pen draw, cryfder hunaniaeth Brydeinig sydd y tu ol i'n diffyg rheolaeth tros ein bywyd cenedlaethol ein hunain. Y diffyg ymreolaeth hwnnw sydd y tu ol i'n diffyg llwyddiant economaidd, a hynny yn ei dro ydi'r ffactor pwysicaf sydd wrth wraidd ein diffyg llwyddiant yn Llundain 2012.

Tuesday, July 31, 2012
Y Gemau Olympaidd
Doeddwn i heb fwriadu son am y gemau a dweud y gwir, ond gan bod Team GB yn gwneud cystal (21fed - rhwng Colombia a Slofenia) mae'n debyg y dyliwn eu llongyfarch am wneud mor dda.
Felly da iawn chi bois - llongyfarchiadau.

Saturday, July 14, 2012
Pam nad ydi'r Bib eisiau i ni wybod am ymchwil Beaufort i agweddau tuag at y Gemau Olympaidd?
Mae'n ddiddorol nodi nad ydi BBC Cymru yn trafferthu dweud wrthym ar eu gwefan nad ydi mwyafrif pobl Cymru yn meddwl y bydd Gemau Llundain o unrhyw fudd o gwbl i Gymru. yn ol ymchwil gan Beaufort Research.
Mae hyn er gwaethaf i Golwg360 a Wales Online redeg y stori. Mae gan y wefan Saesneg fodd bynnag straeon bach diddorol am weilch ar Eryri a wiwerod, ac mae gan yr un Gymraeg rhywbeth am gwmni'n anfon eu gweithwyr ar wyliau.
Rhy boenus ar ol eu hymdrechion fwyfwy gorffwyll i heipio'r nonsens i'r entrychion o bosibl.

Y Gemau Olympaidd - pwy fydd yn elwa mewn gwirionedd?
Bydd darllenwyr rheolaidd y blog yma'n gwybod mai nid y Gemau Olympaidd ydi fy hoff ddigwyddiad. Mae dau reswm canolog am hyn - i ddechrau y gost i Gymru ac yn ail y defnydd a wneir o'r gemau i greu naratif Prydeinig a Phrydeinllyd.
Bydd cost y gemau o leiaf £10bn ar lefel Prydeinig, a bydd Cymru yn gorfod dod o hyd i o leiaf £500m ar gyfer hyn. Mae £500m yn llawer iawn o bres i wlad sydd mor dlawd a Chymru - a dydan ni yn cael y nesaf peth i ddim yn ol - ar ffurf contractau na digwyddiadau.
Ond yn ol rhifyn cyfredol Money Week gall economi'r DU yn gyffredinol ac un Llundain yn benodol ddisgwyl cryn dipyn o newyddion drwg gyda daw'r gemau i ben.
Arafodd GDP China yn sylweddol yn haf 2008. Digwyddodd rhywbeth tebyg yng Ngwlad Groeg yn 2005 ac yn Awstralia yn 2000.
Y rheswm mae'n debyg ydi hyn - mae'r blynyddoedd sy'n arwain at y gemau yn rhai lle buddsoddir yn sylweddol mewn is strwythur, adeiladau ac ati, ond gyda mae'r gemau trosodd does yna ddim byd llawer wedi newid. Mae'r buddsoddiad yn dod i ben, mae'r holl adeiladau drudfawr sydd wedi eu codi yn wag, mae'r is strwythur trafnidiaeth yn rhywle lle nad oes bellach ei angen.
Mae'r gemau wedi cynnal economi'r DU yn Llundain ar draul pob man arall am gyfnod, ond daw hynny i ben yn y man - a bydd hynny yn ei dro yn tynnu economi Llundain i lawr.
Felly bydd £500m Cymru wedi ei wario yn bennaf ar adeiladu is strwythur yn Llundain nad oes ei angen yn yr hir dymor, ac o ganlyniad nid yw wedi ei wario yng Nghymru lle mae angen gwirioneddol ar fuddsoddiad felly.

Tuesday, July 10, 2012
Chwaraeon ac egwyddorion - rhan 2
Bydd rhai ohonoch yn cofio i mi gyfeirio yn ddiweddar at yr holl chwaraewyr rygbi o Gymru oedd yn fodlon cefnogi'r gyfundrefn aparteid yn Ne Affrica trwy ymweld a'r wlad i chwarae rygbi. Y cyd destun wrth gwrs oedd parodrwydd cymaint o bel droedwyr Cymru i chwarae i Team GB yn y Gemau Olympaidd, er bod Cymdeithas Bel Droed Cymru yn chwyrn yn erbyn hynny.
Efallai mai'r esiampl fwyaf trawiadol o barodrwydd pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon i roi pob dim ag eithrio eu gyrfa i un ochr ydi'r digwyddiad isod - tim peldroed Lloegr yn rhoi saliwt Natsiaidd cyn gem beldroed gyfeillgar efo'r Almaen ym 1938 - gwta 16 mis cyn i'r Ail Ryfel Byd gychwyn.
'Dwi'n gwybod mai rwan ydi rwan ac mai pryd hynny oedd pryd hynny - ond _ _ _.

Monday, June 11, 2012
Perygl y consensws cyfryngol
Mae'n ddiddorol nodi bod Paul Flynn yn tynnu sylw at y math nonsens di dystiolaeth sy'n cael ei gynhyrchu mewn ymdrech i hybu'r teulu brenhinol - gyda'r Charities Aid Foundation yn yr achos hwn yn honni i Mrs Windsor helpu codi £1.4bn y flwyddyn i achosion da. Mae'r honiad ar y gorau yn hynod amheus, ac ar y gwaethaf mae'n gelwydd di sail.
Mae'r stori yn atgoffa dyn o honiad y Daily Post bod y ffagl rhywsut, rhywfodd am gynhyrchu £10m i Ogledd Cymru. Fel mae Plaid Wrecsam yn nodi, 'does yna ddim ffadan goch o dystiolaeth tros yr honiad hwnnw.
A dyna'r drwg efo digwyddiadau / sefydliadau lle mae yna gonsensws cyfryngol eu bod nhw'n bethau da - y frenhiniath a'r Gemau Olympaidd er enghraifft. Lle nad oes consensws, mae honiadau di sail yn llai tebygol o gael eu gwyntyllu oherwydd bod y sawl sydd eisiau eu gwneud yn gwybod y bydd yr honiadau hynny'n debygol o gael eu tynnu'n ddarnau gan rhywun neu'i gilydd yn y cyfryngau. Ond lle ceir consensws cyfryngol dydi'r ddisgyblaeth yna ddim yn bodoli. Ac o ganlyniad yr hyn a geir ydi honiadau amheus / celwyddog / crafllyd yn cael eu creu gan un ffynhonnell gwybodaeth, a ffynonellau cyfryngol eraill yn eu hailadrodd yn ddi feirniadaeth.
Y broses yma sy'n gwneud newyddiaduriaeth mor rhyfedd mewn cyfundrefnau unbeniaethol. 'Dydi'r unben ddim yn gorfod ymyryd yn ormodol ym musnes diwrnod i ddiwrnod y cyfryngau newyddion - mae'r consensws newyddiadurol ynddo'i hun yn creu caseg eira o gelwydd a nonsens. A dyna pam bod cyfryngau gwirfoddol fel blogiau Plaid Wrecsam a Paul Flynn yn bwysig - maen nhw'n gwneud rhywbeth o leiaf i dorri ar gonsensws diog sy'n hynod niweidiol i newyddiadura gwrthrychol.

Wednesday, May 30, 2012
Friday, May 25, 2012
Jonathan Jones a'r penderfyniad i guddio'r Ddraig
Mae'n ddiddorol nodi o Golwg bod Cyfarwyddwr Marchnata a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, Jonathan Jones o'r farn y bydd Gemau Olympaidd Llundain yn rhoi coblyn o hwb i Gymru.
Ymddengys ei fod yn credu hyn er gwaetha'r ffaith bod Pwyllgor y Gemau Olympaidd yn gwneud eu gorau i guddio bodolaeth Cymru oddi wrth weddill y Byd. Ychydig iawn o'r gweithgareddau sydd wedi eu lleoli yma, ond mae'r Ddraig wedi eu gwahardd o leoliadau'r rheiny - ac yn wir mae wedi ei gwahardd o Stadiwm y Mileniwm.
Ac os ceisiwch gario'r ffagl a'r Ddraig ar yr un pryd bydd 'swyddogion diogelwch' yn rhwygo'r faner genedlaethol o'ch dwylo.
Mae'r awdurdodau Olympaidd yn benderfynol o guddio bodolaeth Cymru - ac maent yn fodlon defnyddio bon braich i guddio ei bodolaeth.
Os caiff Cymru unrhyw fudd o'r gemau Olympaidd, bydd hynny er gwaethaf y sawl sy'n gyfrifol amdanynt.

Monday, March 05, 2012
S4C yn dangos ei flaenoriaethau
Felly mae awdurdodau S4C wedi dod i'r casgliad nad ydi Ras yr Wyddfa i gael ei ddarlledu eleni. Mae' n debyg mai'r rheswm am hyn ydi bod ein sianel genedlaethol o dan yr argraff bod darparu rhaglen nofio o'r Gemau Olympaidd yn Llundain yn bwysicach na darlledu ras o Lanberis. Ymhellach daeth y sianel i'r casgliad hwn er gwaetha'r ffaith i bwyllgor y ras newid dyddiad y digwyddiad er mwyn gwneud pethau yn haws i S4C.
Rydym eisoes wedi nodi bod tua £400m o'r £9.3bn mae'r gemau yn gostio yn dod o Gymru. Rydym hefyd wedi nodi mai £417,415 (0.1%) o'r contractau a gafodd busnesau Prydeinig ddaeth i Gymru. Ymhellach rydym wedi son nad oes fwy neu lai ddim o'r chwaraeon a'r gemau am gael eu cynnal yn y wlad hon, a bod yna wariant gorffwyll ar gemau (megis pel law) nad oes fwy neu lai neb yn y DU yn eu chwarae - £3m i adeiladu sgwadiau,a £44m i godi stadiwm 7,000 sedd yn achos pel law. Rydym hefyd wedi son am yr £80m fydd yn cael ei wario ar y seremoni agoriadol, a'r swm rhyfeddol o arian bydd yn rhaid dod o hyd iddo ar gyfer y trefniadau diogelwch. 'Dydi'r ffaith nad ydym hyd yn oed yn cael cyflwyno tim yn y gystadleuaeth heb fynd yn ddi sylw chwaith.
Yr hyn nad oedd yn eglur hyd yn ddiweddar ydi bod S4C yn ystyried bod darparu rhaglenni ar y jambori tramor, gwastraffus yma yn bwysicach nag ydi darparu rhaglenni ar chwaraeon Cymreig sy'n cael eu trefnu yng Nghymru, eu cynnal yng Nghymru, sy'n dennu llawer o gystadleuwyr o Gymru a sydd yn hynod boblogaidd yng Nghymru. A hynny er gwaetha'r ffaith y bydd fflyd o sianeli Saesneg yn darlledu'r digwyddiadau Olympaidd ar union yr un pryd ag y bydd S4C gwneud hynny.
Felly gallwn gymryd y bydd hyd yn oed sefydliadau Cymreig fel S4C yn dilyn esiampl llywodraeth Prydain ac yn rhoi blaenoriaethau'r Gemau Olympaidd o flaen rhai Cymry a Chymru. Da iawn bois.

Tuesday, December 06, 2011
Mwy o bres yn cael ei sugno gan y Gemau Olympaidd
Felly mi’r ydan ni i gyd yn yr argyfwng ariannol sydd ohoni efo’n gilydd – wel pawb bron o leiaf.
Un o’r sefydliadau sy’n sicr ddim ynddi ydi’r Gemau Olympaidd. Mi’r ydan ni eisoes wedi edrych ar sawl achlysur ar y llo sanctaidd hwnnw – yma er enghraifft.
Y peth diweddaraf i adrodd arno ydi bod David we’re all in this together Cameron wedi penderfynu cyfrannu £41 miliwn tuag at yr ychydig oriau fydd yncwmpasu’r seremoniau agor a chau. Bydd hyn yn dod a chyfanswm y gwariant ar yr achos hynod deilwng yma i tua £80 miliwn.
Piso dryw yn y mor ydi hynny wrth gwrs a chymharu a chyfanswm cost yr holl sbloets – £9.3 biliwn ar hyn o bryd – ac yn debygol o ddringo hyd yn oed ymhellach. Ddoe diwethaf yr oeddym yn cael ar ddeall y bydd £271m mwy na’r disgwyl yn cael ei wario ar swyddogion diogelwch.
Pan mae ffigyrau mor uchel a hyn mae’n anodd gwerthfawrogi’n iawn am faint o bres yr ydym yn son amdano. Pan geir mwy na phum sero mewn rhif, mae'r pen yn dechrau troi. Fodd bynnag mae'n haws eu deall wrth gymharu a'r gwariant ar bethau eraill.
Er enghraifft £14.5 biliwn ydi cyllideb y Cynulliad yn ei gyfanrwydd am y flwyddyn, gyfan gron hon. Tros y tair blynedd nesaf bydd yn cael ei thorri £1.8 biliwn mewn termau real.
Mae gwariant ar addysg yng Ngwynedd eleni yn tua £89m – rhif digon tebyg i gyfanswm y sioeau agor a chau yn Llundain. Mae gwariant cyfalaf ar ysgolion yn y sir yn tua £8 miliwn, neu ddegfed o gost y sioeau agor a chau.
Llai nag wythfed o gost y gemau ydi cyllideb gyfredol Ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr - oddeutu £1.1 biliwn. Efo’r swm yna maent yn cyflogi tua 18,000 o bobl. Maent hefyd yn cynnal tri ysbyty cyffredinol sylweddol, yn ogystal â 22 o ysbytai llym a chymunedol eraill, a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl.
Tua £6 biliwn ydi cost gwariant ar iechyd trwy Gymru. Mi fydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wynebu toriad o 6.3% mewn termau real y flwyddyn nesaf – mae hyn yn gyfwerth a 4% o gost y gemau Olympaidd.
'Dwi'n gwybod y bydd y puryddion yn eich plith yn gwahaniaethu rhwng gwariant cyfalaf a gwariant refeniw, rhwng gwariant loteri a gwariant trethiant cyffredinol ac ati- ond yn y pendraw, gwariant ydi gwariant, pres ydi pres a blaenoriaethau ydi blaenoriaethau. Ymddengys bod cynnal sioe fawr ddrud yn un o ddinasoedd cyfoethocaf y Byd yn flaenoriaeth hynod bwysig.
Monday, November 07, 2011
Mi gewch chi gadw eich blydi ffagl _ _ _
Roedd yna rhywbeth hynod ragweladwy am ymdriniaeth y Post Prynhawn o'r newyddion y bydd y ffagl Olympaidd yn ymweld ag amrywiol lefydd yng Nghymru. Roedd y Post wedi cynhyrfu'n llwyr, a chafwyd rhesiad o bobl oedd hefyd wedi cynhyrfu'n llwyr yn mynegi eu llawenydd a'u gorfoledd oherwydd bod y ffagl am ymweld a rhywbeth neu'i gilydd sy'n ymwneud a nhw.
Mi fyddai'n gwbl estron i ddiwylliant mewnol y Bib yng Nghymru i ddifetha newyddion mor fendigedig trwy dynnu sylw at y ffaith mai 0.01% o'r busnes a ddaeth yn sgil y gemau a wnaeth ei ffordd i Gymru, ac mai ychydig iawn o gystadlu ddaw ar gyfyl y wlad - er ein bod yn cael y fraint a'r anrhydedd o gyfrannu'n hael at y sbloets. Mae Blogmenai wedi edrych ar hyn oll yma.
Ond efallai y byddai rhywun wedi disgwyl rhyw air bach o gyfeiriad at anhegwch yr holl beth - er mwyn cydbwysedd a 'ballu. Ond na - dim sill o feirniadaeth i dramgwyddo ar y llifeiriant ecstatig.
Wedi'r cwbl byddai'n hynod aniolchgar cwyno am £400m o arian sydd wedi ei golli i Gymru pan rydym yn cael y ffagl am ychydig ddyddiau.

Thursday, August 11, 2011
Bendithion y Gemau Olympaidd - rhan 1.
Mae'n fy mhoeni bod rhai o ddarllenwyr blogmenai o dan yr argraff bod yr awdur yn dioddef o rawnwin surion yn sgil y ffaith i Gymru gael y fraint o gyfrannu £400,000,000+ tuag at Gemau Olympaidd Llundain a chael didli sgwot yn ol ar ffurf contractau.
Er mwyn rhoi'r cyhuddiad hwnnw o'r neilltu unwaith ac am byth 'dwi am gynhyrchu blogiadau achlysurol fydd yn dangos y defnydd clodwiw sy'n cael ei wneud o'r £400m.
Cyflwynaf i'ch sylw Pel Law neu Handball.

'Does yna neb bron yn y DU erioed wedi chwarae'r gem, er bod tim dynion Prydeinig wedi bodoli ers 1969. Mae'r cyfryw dim wedi llwyddo i guro Oman, Ynysoedd y Ffaro (collwyd y saith gem arall yn erbyn yr Ynysoedd), Jordan, Iwerddon, Bwlgaria a Gwlad Belg a sicrhau gem gyfartal gyda Lwcsembwrg. Gemau cyfeillgar oedd y cwbl ag eithrio'r un yn erbyn Bwlgaria. Mae'r tim merched yn waeth o lawer. Ond mae'r ddau dim yn cael cystadlu oherwydd bod y Gemau yn y DU - oni bai am hynny ni fyddai ganddyn nhw obaith mul o fynd ar gyfyl y jambori elitaidd.
Beth bynnag, mae'n ymddangos ei bod yn hynod bwysig bod y DU yn gallu cystadlu efo.gwledydd sydd wedi bod yn chwarae'r gem yn gyson ac yn llwyddiannus ers dechrau'r ganrif ddiwethaf - felly dyna fynd ati i wario £3m er mwyn adeiladu sgwadiau, ynghyd a £44m ar stadiwm 7,000 sedd er mwyn i bobl gael gwylio'r gamp - y rhan fwyaf o ddigon ohonynt am y tro cyntaf a'r tro olaf.
Wednesday, July 27, 2011
Guto Harri a'r Gemau Olympaidd
Mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr blogmenai yn ymwybodol o'r ffrae fach sydd wedi bod yn mynd rhagddi heddiw (ar y radio yn bennaf) ynglyn a'r ffaith nad yw'n edrych y bydd Cymru'n elwa fawr ddim o'r Gemau Olympaidd. Mi gychwynodd pethau efo Guto Harri, sydd bellach yn gweithio i faer Llundain, Boris Johnson, yn ymateb ar y Post Cyntaf i sylwadau Carwyn Jones ddoe, trwy ddweud mai bai Cymru ydi'r sefyllfa am beidio a gwneud digon i elwa o'r holl sioe.
Ail godwyd y peth ar Taro'r Post ac aeth pethau'n fler braidd rhwng aelod seneddol Arfon Hywel Williams a Guto gyda'r naill yn ail adrodd ei gred nad oedd gwleidyddion Cymru wedi gwneud digon o ymdrech i fynd i Lundain efo'u capiau trosiadol yn eu dwylo a'r llall yn cyhuddo Guto o wneud sylwadau camarweiniol ac o fod yn drahaus.
Cyn edrych ar y ffrae, beth am ystyried un neu ddau o ffeithiau syml? Cafodd cwmniau oedd wedi cyflwyno bidiau cynradd werth £6.2bn o waith gan yr ODA. £417,415 aeth i gwmniau o Gymru - 0.01% o'r cyfanswm. Aeth gwerth £3.3bn i gwmniau yn Llundain (53%) ac aeth £1bn i ardaloedd eraill yn Ne Ddwyrain Lloegr (16%). £24.5m (0.4%) aeth i'r Alban a £18m i Ogledd Iwerddon (0.3%).
Mae cyfanswm o £9.3bn wedi ei roi o'r neilltu i ariannu'r gemau - £2.2bn o'r Loteri Cenedlaethol, £0.6bn o drethi lleol i Lundain, £0.3bn o ffynonellau lleol eraill a £6.2bn gan y llywodraeth ganolog. Felly mae 90% o'r gwariant yn dod o ffynonellau Prydain gyfan tra bod 10% yn dod o ffynonellau lleol. Gellir amcangyfrif bod mwy na £400m wedi ei godi yng Nghymru, a bod tua 0.1% o hynny wedi dod yn ei ol ar ffurf contractau.
Agwedd eilradd i'r ddadl ydi mai ychydig iawn o'r cystadleuthau fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru - hyd yn oed mewn chwaraeon megis hwylio a chanwio - mae adnoddau penigamp yng Nghymru ar gyfer gemau felly.
Rwan, mae hyn yn edrych yn sobor o anheg, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod agwedd Guto trwy'r ddadl yn peri dryswch i mi. Roedd yn cyfeirio'r bai yn ol at Gymru, ac yn gwneud hynny oddi mewn i fframwaith hen ragfarn gwrth Gymreig - bod y Cymry yn ddi gic a diog.
Mae'n bosibl wrth gwrs bod llai o ymdrech wedi ei gwneud yng Nghymru nag a wnaethwyd yn Llundain ac mewn ardaloedd eraill, ond 'doedd gan Guto ddim byd mwy i brofi hynny na honiad anelwig nad oedd o a Seb Coe (roedd yn awyddus iawn i adael i ni wybod ei fod yn eistedd yn agos at hwnnw) ddim yn cofio i achos cryf am fawr ddim ddod o Gymru. Chawsom ni ddim gwybodaeth am sut yn union roedd ymdrechion llefydd eraill yn well na rhai Cymru, na beth oedd gwleidyddion Weymouth wedi ei wneud i ddenu'r cystadleuthau hwylio, dim data o gwbl chwaith - dim oll ond argraffiadau anelwig Guto ei hun.
Roedd ymateb Guto i awgrym gan Hywel bod lle i feddwl bod tuedd sefydliadol i ffafrio cwmniau o Lundain hefyd yn ddiddorol - roedd y fath awgrym yn dreuenus a 'bron iawn yn enllib'. Mae pawb yn gwybod wrth gwrs bod sefydliadau sydd wedi eu lleoli yn Llundain megis San Steffan, News International, y Met a'r banciau yn arddel y safonau proffesiynol uchaf, a byddai'n beth ofnadwy petai rhywun di egwyddor wedi awgrymu bod ganddyn nhw broblemau strwythurol o unrhyw fath yn y Byd.
Wnawn ni ddim hyd yn oed mynd ar ol goblygiadau yr awgrym sydd ymhlyg yn nadl Guto y dylid penderfynu ar leoliad daearyddol campau mewn ymateb i - ahem - ymdrechion gwleidyddion yn hytrach nag ar sail proses annibynnol gan yr awdurdodau Olympaidd o leoli, asesu, costio ac achredu safleoedd posibl.
Mae Guto'n ei chael yn amhosibl credu y gallai rhagfarnau fod yn rhan o wead sefydliadau Llundeinig, ond mae'n ei chael yn hawdd iawn credu y gallai sefydliadau Cymreig fod yn strwythurol ddiog a di gic. Mae'r holl hanes yn swnio yn hynod debyg i stori oedd ar un adeg yn ddigon cyfarwydd mae gen i ofn - hogyn bach o Gymru yn mynd i'r ddinas a chael tipyn o lwyddiant yno, yn dotio at y lle ac dod i ymgoleddu pob dim sy'n ymwneud a hi - hyd yn oed rhagfarnau gwrth Gymreig rhai o'i thrigolion..

Subscribe to:
Posts (Atom)