Saturday, December 17, 2011

Hybu annibyniaeth a hybu'r economi - ydyn nhw'n anghydnaws?

Reit pos bach.  Edrychwch ar y ddau ddyfyniad diweddar isod - pwy sydd yn gyfrifol amdanynt?


Dyfyniad 1:


This is just totally irrelevant to the real politics of Wales. The economy is in crisis, unemployment is rising month by month and someone wants to talk about a concept no-one fully understands.Unfortunately, because the SNP are holding a referendum on Scottish independence, some people think we should be doing the same in Wales. I suggest they go to Scotland.

Dyfyniad 2:
 I do know that the most urgent issues facing the Welsh Government today are the economy, an under-performing education system and the health service. Why would any sane minister take his or her eye off those problems to worry about esoteric constitutional issues that have not even presented themselves yet?
Rhodri Glyn Thomas (Plaid Cymru) sydd biau'r cyntaf a Peter Black (Lib Dems) sy'n gyfrifol am yr ail.  Mae'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud gan y ddau yn union yr un peth i bob pwrpas - sef:

1)  Ni ddylid ymddiddori yn y newidiadau a allai ddigwydd yn sgil y refferendwm Albanaidd.
2)  Y rheswm am hyn ydi bod yr economi yn bwysig, bwysig, bwysig ac mae ymddiddori mewn materion cyfansoddiadol yn ei gwneud yn anodd i hybu'r economi.

A gadael o'r neilltu am ennyd naifrwydd treuenus yr awgrym sydd ymhlyg yn nyfyniadau'r ddau gyfaill na fyddai ymadawiad yr Alban a'r DU ag oblygiadau i Gymru, a gadael o'r neilltu'r ffaith  bod plaid Mr Black efo obsesiwn am faterion cyfansoddiadol cwbl esoteric, onid ydi'r syniad nad oes cysylltiad rhwng statws cyfansoddiadol Cymru a'i heconomi yn un rhyfedd?

Mae'r blog yma wedi dadlau ar sawl achlysur yn y gorffennol mai dadl economaidd ydi'r unig un sy'n bwysig mewn gwirionedd yng nghyd destun y ddadl annibyniaeth.  Y rheswm pam bod Cymru yn tan berfformio yn economaidd yn barhaol ac yn barhaus ydi oherwydd ei statws cyfansoddiadol.  Mae ein diffyg  gallu i addasu ein trethi busnes a chorfforaethol yn ein hatal rhag cynnig cymhelliad i fusnesau sefydlu mewn gwlad sydd ymhell oddi wrth marchnadoedd poblog Ewrop, ac mae ein anallu i reoli ein cyfraddau llog yn ein gadael yn aml efo cyfraddau anaddas o uchel i'r math o economi sydd gennym.

Ac wrth gwrs mae yna'r penderfyniadau llywodraethol diwrnod i ddiwrnod.  Yr wythnos diwethaf aeth David Cameron ati i dorri ei bontydd efo Ewrop er mwyn amddiffyn buddiannau'r diwydiant gwasanaethau ariannol sy'n anferth yn Lloegr ond yn fychan yma yng Nghymru.  Mae'r penderfyniad hwnnw yn debygol o wneud drwg sylweddol i'r sector cynhyrchu yng Nghymru - ond 'does yna ddim oll allwn ei wneud am y peth oherwydd nad oes gennym ein llais ein hunain yn Ewrop.  A'r rheswm am hynny wrth gwrs ydi natur ein sefyllfa gyfansoddiadol.

Yr hyn fyddai'n hybu economi Cymru yn annad dim arall fyddai ennill yr hawl i wneud penderfyniadau economaidd a fyddai er lles ein economi.  'Dydi  hynny ddim yn bosibl yn y cyd destun cyfansoddiadol presenol.  

5 comments:

Anonymous said...

Fel AC Plaid Cymru dydy RGT yn cyfrannu ffyc ol i syniadaeth Plaid Cymru rioed wedi weld o yn y Cyngor Cenedlaethol, yr Ysgol Haf a lwcus os neith o droi fyny i'r gynhadledd am hanner diwrnod. Ffycar diog ydy o ar y gorau.

Anonymous said...

8.38 - brilliant!

Anonymous said...

Anon 8.38 na, nid diog, diog a diawledig o hunangyfiawn. So, galle Adam Price fod yn AC Caerfyrddin, ond yn lle, mae ganddom ni RhGT! Fel Janet Ryder yn lle Wigley!

Cer. Wir Dduw, cer!

maen_tramgwydd said...

Oes syndod fod Plaid Cymru yn y fath lanast?

Mae'n hen amser i'r ddau, RhGT a DET ymddeol. Buasai heddiw ddim ddigon cynnar. Dydy nhw ddim yn cynrychioli teimladau'r aelodaeth ar y mater sylfaenol hwn.

D'oes dim dyfodol i'r Blaid efo pobol fel hyn.

Anonymous said...

Cywir i gyd bois a na does dim dyfodol i'r blaid tra bo ni malu cachu a crafu tin y cwin efo pobl fel DET and RGT.

Wan, neith rhwyun o'r to ifan greu tudalen facbook i bawb gael ymnuo i fotio i gael gwared ar y ddau?

Chwildro sydd ei angen....