Monday, November 22, 2010

Y broblem efo gwobrau blogio _ _

_ _ ydi bod yna ambell un sy'n cael ychydig o lwyddiant yn cymryd y peth o ddifri i'r fath raddau bod ei ego yn chwyddo fel balwn enfawr.

Cymerer y Tori o Fon, Paul Williams er enghraifft. Yn sgil ennill gwobr blog gwleidyddol y flwyddyn Welsh Blog Awards a dod yn 19fed yng Nghymru am flog gwleidyddol yn 'etholiad' Total Politics, ymddengys ei fod o'r farn bod ei flog yn rhan hanfodol a chreiddiol o'r broses etholiadol ym Mon. Yn anhygoel, mae'n dadlau y dylid mesur addasrwydd pobl i fod yn gynghorwyr ar yr ynys yn ol eu parodrwydd i gyfrannu i'w flog o ei hun.

Dydw i ddim yn tynnu coes - mae'n mynegi'r gred ryfeddol o hunan bwysig yma yn ddigon clir yma, ac mae'n ail adrodd y farn yma yn ystod un o'r dadleuon maith a chwerw sy'n nodweddu tudalennau sylwadau ei flog.

6 comments:

Anonymous said...

Tri blog am dan Mr Williams mewn tri diwrnod... Dim byd arall i drafod...? Efallai fod BlogMenai dipyn yn genfigenys o'i lwyddiant...?!

Cai Larsen said...

'Dwi'n gobeithio bod Mr Williams yn ddiolchgar am yr holl gyhoeddusrwydd 'dwi'n ddigon caredig i roi iddo.

Plaid Gwersyllt said...

Cofia Cai, Mae o wedi bod yn gweithio yn Siapan ar Almaen am hir, cofia mae o'n gwybod lot mwy na ni am bopeth; pam nei di ddim bod yn Gymro bach da a gorwedd wrth i draed i chdi gael di dysgu gwersi sut i fod yn Dori go iawn. Cofia hefyd i lyfu ei law o bob yn hyn a hyn rhag ofn i'w ego fo golli chydig o'i sglein!!

Anonymous said...

Ers pryd mae'r Derwydd yn byw nol ar Ynys Mon? Oes ganddo fo waith go iawn, neu cuddio tu ol i "Consultant" ydio? Gobeithio wneith Iain Duncan Smith ddim penderfynu fod o'n Job Seeker!

Cai Larsen said...

A ia, Marc - y broliant - couple of degrees, Masters in Japanese, very senior marketing, World’s largest consumer electronics firms, the very successful Tafarn Y Rhos pub, considerable international business experience, weathered the storm of the recession as a small businessman.

Fyddai neb yn ei gyhuddo o ganu ei gloch ei hun.

Anonymous said...

Yr hyn dwi ddim yn ddeall yw paham nad yw yn enwi'r cwmniau yma. World largest consumer electonics firm - Samsung? Very senior marketing? A'i ef oedd y person hynnaf oedd yn gweithio yno ?