Tuesday, November 23, 2010

Newyddion etholiadol diddorol o Aberconwy


Yn ol Oscar mae'n fwriad gan Jason Weyman sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn Aberconwy yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Mae'r newyddion yn ddiddorol oherwydd bod Jason yn gynghorydd sir poblogaidd yn Neganwy - ardal lle byddai'r Toriaid yn disgwyl pleidlais sylweddol. Fydd yna ddim cymaint o bleidleisiau iddynt ag y byddent wedi disgwyl yno.

Gallai ymyraeth o'r math yma wneud y gwahaniaeth hanfodol mewn etholaeth lle mae disgwyl i bethau fod yn agos.

1 comment:

Anonymous said...

Mae'r newyddion yn gywir. Fe wnaeth Jason y cyhoeddiad ar ei flog.

http://jasonweyman.blogspot.com/