Thursday, December 10, 2009

Sut yn union mae'r Toriaid yn dewis eu hymgeiswyr?


Trydydd blogiad am Oscar mae gen i ofn - mi wnawn o'n un byr. Wna i ddim trafferthu efo llwyth o lincs - mae'r hyn dwi'n son amdano yn eithaf clir yn nhudalennau sylwadau y ddau flogiad isod ar helynt Oscar.

Mae'n ymddangos o dystiolaeth Golwg360 bod Oscar yn credu ei fod wedi cael cynnig yr ail le ar restr y Toriaid yn 2011 yn y De Ddwyrain. Mae Alwyn ap Huw yn tynnu ein sylw at y ffaith bod y Bib hefyd yn honni i Nick Bourne gadarnhau iddo gynnig yr ail le i Oscar. Felly mae bron yn sicr bod rhyw lun ar gytundeb rhwng y ddau ddyn. Mae Guto Bebb wedi ein sicrhau bod gan y Toriaid drefn ddemocrataidd iawn o ddewis ymgeisyddion, ac y byddai'n fater 'difrifol 'petai drefn wedi ei gwyrdroi trwy roi addewid i Oscar.

Mae gen i ofn ei bod yn ymddangos i mi bod gan y Toriaid yng Nghymru ddull 'democrataidd' swyddogol o ddewis ymgeisyddion, a dull amgen dan bwrdd sy'n ddibynnol ar ddisgresiwn yr arweinydd Cymreig - dull nad ydi hyd yn oed ymgeiswyr seneddol Toriaidd Cymreig yn gwybod amdano.

Mae trefn o'r fath yn sarhad ar ddemocratiaeth bleidiol, ac yn sarhad ar y creaduriaid druan sy'n ceisio gwneud eu ffordd yn y Blaid Geidwadol trwy'r sianelau swyddogol.

Ach a fi!

7 comments:

Guto Bebb said...

Cytuno yn llwyr - os di dy ddamcaniaeth yn gywir.

Fe fyddwn yn rhyfeddu serch hynny pe byyddai Mr Ashgar yn cael ei drin yn wahanol i bob ymgeisydd arall.

Heb fod yn hyll ond pa syndod oedd dewis Plaid Cymru i ddilyn Adam? Yn lleol mae 'na honiadau o gam ddefnyddio pleidlais bost ayb? Dim son am hyn gan Flog Menai ond mae aelodau Plaid yn y rhanbarth yn codi'r mater efo fi!

Cai Larsen said...

Wel y peth ydi Guto nid fy namcaniaeth i ydi hi - mae'r Bib yn dweud bod Bourne yn dweud ei fod yn rhoi'r ail le i Oscar ac mae Golwg yn dweud bod Oscar yn dweud yr un peth.

Rwan dwi ddim yn or hoff o Golwg na'r Bib - ond dydi'r Bib ddim yn gelwyddog. Mae yna gytundeb rhwng y ddau ddyn.

Does yna neb yn y Blaid yn Sir Gar yn synnu mai Jonathan gafodd ei ddewis (a dwi'n digwydd bod yn gyfarwydd efo gwleidyddiaeth mewnol y Blaid yn y rhan yna o'r wlad).

Mae twyllo mewn etholiad yn drosedd yng ngolwg y gyfraith.

Os oes gen ti dystiolaeth bod hynny wedi digwydd dylet ddod a'r mater i sylw'r heddlu yn ddiymdroi.

Os nad oes gen ti dystiolaeth efallai mai cau dy geg fyddai orau ti'n gadael chdi dy hun a dy blaid yn agored i gyhuddiad o wleidyddiaeth y gwter.

Guto Bebb said...

Na, dim ond adlewyrchu honiadau unigolion oedd yn agos at y broses yn lleol. Fel ti mae gennyf gydnabod sy'n rhan o'r Blaid yn yr ardal :-). Y farn gyffredin fe ymddengys oedd fod J Edwards wedi perfformio'n wan iawn ar y ddwy noson o hystings ond ei fod wedi ennill cyn hynny trwy gyfrwng y bleidlais bost.

O ran Mr Ashgar a Nick Bourne - parhau yn od fod y Blaid Geidwadol yn gwadu'n llwyr y bydd y trefniadau yn wahanol i Mr Ashgar i'r hyn a wynebir gan unrhyw aelod arall yn ei sefyllfa. Pe byddai fel arall fi fyddai'r cyntaf i gwyno.

Cai Larsen said...

Mi fydd gen i fwy i'w ddweud am Joni maes o law.

Yn lle mae'r Toriaid wedi gwadu bod y drefn yn wahanol i Oscar - oes gen ti linc?

Guto Bebb said...

Dim ond sgwrs gyda phrif weithredwr y Blaid yng Nghymru, Prif Swyddog y Wasg yng Nghymru a threfnydd y Gogledd. Tydi'r rheolau dewis heb newid felly fe fydd yn rhaid i Mr Ashgar fynd trwy'r un broses ac unrhyw aelod cyfatebol.

Fel y gwyddost dwi ddim yn un am balu celwydd a dwi hefyd yn gyson (iawn) wedi datgan fod rheolaeth pleidiau gwleidyddol dros broses ddewis yr aelodau PR o fewn y Cynulliad eisioes yn ormodol.

Ni fyddwn yn cefnogi unrhyw ffafriaeth arbennig i Mr Ashgar ond tydi hynny ddim yn codi o'r trafodaethau dwi wedi ei gael gyda uwch swyddogion y Blaid yma yng Nghymru.

Cofier hanes Peter Rogers os am dystiolaeth o drefniadau y Ciedwadwyr. Yn ól swyddogion y Blaid yng Nghymru (a nhw sy'n ofal y rheolau) toes yna ddim newid wedi bod.

O ran J Edwards. Deallaf ei fod yn hogyn o sylwedd a chryn allu. Ond mae achos o dan berfformio mewn hystings ond ennill serch hynny wedi gwneud drwg i Blaid Cymru yn Ynys Món yn 2001 ac fe all greu problem eto o'r hyn dwi'n glywed. Wedi dweud hynny mae 6,000 o fwyafrif yn un da!

Cai Larsen said...

Iawn Guto - ydi'r Blaid geidwadol Gymreig yn debygol o wneud datganiad bod y Bib, Golwg a'r Western Wail yn anghywir?

Guto Bebb said...

Yn ôl yr hyn a ddeallaf y mae'r sefyllfa wedi ei ddatgan yn glir i'r cyfryngau. Toes dim newid i'r rheolau.