Tuesday, December 15, 2009

Parrotgate - y diweddaraf



Fe gofiwch i ni edrych ar hanes rhyfedd ymadawiad Mohammad Asghar ac ar honiadau gan Golwg 360 a gan y Bib bod arweinydd y Ceidwadwyr, Nick Bourne a Mohammad Asghar ei hun yn cadarnhau i Bourne gynnig yr ail safle ar restr y De Ddwyrain am ddod trosodd at y Ceidwadwyr. Mae hyn ynddo'i hun yn ddiddorol oherwydd y byddai addewid o'r fath yn groes i drefn arferol dewis ymgeiswyr y Ceidwadwyr, a byddwn yn tybio ei fod hefyd yn groes i gyfansoddiad y Ceidwadwyr. A dweud y gwir byddwn yn mynd ymhellach ac yn dweud petai'r honiadau yn wir byddai'r Blaid Geidwadol Gymreig yn agored i gamau cyfreithiol (a chostau sylweddol) gan unrhyw ddarpar ymgeisydd a fyddai'n meddwl bod trefniant bach Nick ac Oscar wedi effeithio'n negyddol arnyn nhw.



Ta waeth am hynny, mae'r stori wedi cymryd tro ychwanegol heddiw. Yn ol y Western Mail mae Mohammad Asghar wedi cadarnhau ar raglen radio mai'r hyn a'i wthiodd yn y diwedd at y Toriaid oedd oherwydd i Ieuan Wyn Jones wrthod rhoi caniatad iddo gyflogi aelod o'i deulu - Natasha. Hwyrach y byddwch yn gwybod bod y Blaid wedi penderfynu cadw at argymhellion Syr Roger Jones yn llawn - er nad ydi'r Cynulliad yn debygol o orfodi'r argymhelliad sy'n gwahardd ACs rhag cyflogi aelodau o'u teuluoedd eu hunain.

Pan ofynwyd i Oscar os oedd wedi trafod hyn oll efo Bourne, ei ateb anfarwol oedd -

Yes, they know all about it ... I know the Conservative Party, their priority is to make every family in the United Kingdom prosperous and happy.

O leiaf mae hyn yn rhoi rhyw fath o fframwaith i'r holl fflipio tai a hawlio costau am ffosydd o gwmpas y stadau a'r ynysoedd hwyaid ac ati - rhan o bolisi'r Toriaid i wneud pawb yn gyfoethocach oedd y peth i gyd. Roedden nhw wedi penderfynu dechrau ar yr ymgyfoethogi efo nhw eu hunain mae'n debyg.

Hyd y gwelaf i mae'n rhesymol casglu bod Bourne wedi cael sgwrs efo
Mohammad Asghar a gofyn iddo beth allai ei wneud iddo a bod Mohammad Asghar wedi dweud - rhoi fy enw yn uchel ar restr rhanbarthol a gadael i mi roi joban i Tasha - a bod Bourne wedi dweud - dim problem.

Rwan, fedra i ddim profi mai dyna ddigwyddodd - ond mae tystiolaeth tri ffynhonell newyddion prif lif yn awgrymu hynny'n gryf. Os ydi hyn oll yn wir mae'n adlewyrchu'n ddrwg iawn ar safonau'r Blaid Doriaidd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hefyd yn ffitio'n eithaf del i mewn i ddwy naratif newyddiadurol bwysig yn ystod y flwyddyn diwethaf - cam ddefnydd o arian y cyhoedd ac addasrwydd Nick Bourne i arwain y Blaid Doriaidd yng Nghymru. Am y rheswm hwnnw mae tu hwnt i mi pam nad yw'r cyfryngau prif lif wedi ymddiddori mwy yn y stori.

Mae'n bosibl fy mod yn gwneud cam a'r Toriaid - mae Guto'n rhyw awgrymu mai cam riportio gan y cyfryngau sydd tu ol i'r peth. Mae hyn yn bosibl, ond yn anhebygol. Yr hyn sydd yn sicr ydi hyn - petai Bourne yn dweud yn gyhoeddus nad oes unrhyw wirionedd yn yr honiad iddo addo lle ar y rhestr i Mohammad Asghar na rhoi caniatad iddo roi joban i'w ferch, byddai'n lladd y stori.

Neu mi fyddai hyd y byddai'r joban neu'r lle ar y rhestr yn ymddangos.

1 comment:

Guto Bebb said...

Dwi wedi ymateb i hwn ar dy gyfraniad gwreiddiol (wel un o'r nifer ti wedi wneud ar y mater!).

Guto