Thursday, November 26, 2009

Wel, mae hynny'n glir o leiaf!

Un o'r cymhlethdodau o ddadlau efo Llais Gwynedd ydi diffyg eglurder llawer o'u dadleuon - efallai y byddwn yn cymryd cip ar yr esiamplau diweddaraf maes o law.

Fodd bynnag, mae'n rhaid eu canmol am eglurder eu hymateb i bennod diweddaraf saga faith Academi Hwylio Pwllheli. Mae hyn yn fater gwirioneddol gynhenus ym Mhwllheli - gyda phobl na fyddech yn disgwyl yn cymryd y naill ochr a'r llall. Peidiwch a gofyn i mi egluro'r sefyllfa - mae angen arbenigwr ar wleidyddiaeth mewnol y dref i wneud hynny.

Ta waeth, llwyddodd Llais Gwynedd i ymateb i'r mater mewn ffordd rhyfeddol o gynhwysfawr - trwy ddadlau o blaid y datblygiad, yn ogystal a dadlau yn ei erbyn.

Rwan, beth a allai fod yn gliriach, ac yn wir yn fwy teg na hynny?

2 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cai - Mae'r ffaith dy fod yn codi'r mater yma yn dangos pa mor "desperate" wyt ti a dy Blaid i geisio sgorio pwyntiau yn fy erbyn i a Llais Gwynedd.
Darllen be dwi wedi sgwennu'n iawn. Ti hefyd wedi methu mod i wedi pleidleisio o blaid y datblygiad yn y Bwrdd a fod Alwyn Gruffydd wedi pleidleisio yn ei erbyn...doedd dim chwip na ffrae jyst gwahaniaeth barn.
Tud i ni edrych ar dy Blaid fach berffaith di am funud.
Be di'ch polisi ar ynni niwcliar? Yn erbyn ond mae IWJ o blaid Wylfa B..Oce?
Be ddaru Dafydd El efo'r cofnod ar y iaith Gymraeg yn groes i grwp y Blaid yn y Cynulliad?
Be ddaru Penri Jones yn ystod y rownd gyntaf o ad-drefnu addysg?...Mae yna wahaniaethau barn ymhob Plaid...tydi Llais Gwynedd ddim gwahanol i neb arall yr unon ry'n fath a dy Blaid fach berffaith di ;-))

Cai Larsen said...

Ti'n gwbl gywir bod gwahaniaethau barn oddi mewn i pob plaid ar gwahanol faterion - ond micro blaid ydi dy un di wrth gwrs sydd ag ychydig iawn o aelodau - felly rydym yn cael anghytundebau ymysg criw bach iawn.

Beth bynnag, dyna fo - ti'n iawn - mae pawb yn rhydd i'w farn, hyd yn oed oddi mewn i gyfyngiadau plaid. Ond 'dydw i ddim yn galw peth felly yn rhagrith - yn wahanol i un neu ddau arall.