Monday, November 09, 2009

Un gair bach arall am bol YouGov

Mi gawsom ni gip ar bol YouGov yr wythnos ddiwethaf gan ystyried yn arbennig yr hyn mae'n ei awgrymu am Gaerdydd.

Daeth y pol yn ol i fy meddwl heddiw wrth edrych ar ganlyniadau pol arall - un TNS-BMRB i'r Herald yn yr Alban. Mae'r pol hwnnw'n awgrymu y bydd Llafur ymhell o flaen yr SNP yn etholiadau San Steffan, ond y bydd yr SNP yn gwneud yn well o lawer yn etholiadau'r Alban. Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu'n gryf iawn y bydd Llafur yn cadw eu sedd ddydd Iau yn Glasgow North East gyda llaw.

Rwan, er bod gwleidyddiaeth Cymru a'r Alban yn wahanol ar sawl cyfri, mae'r ogwydd yn debyg yn aml. Er enghraifft, pan mae'r lli yn erbyn yr SNP mae'n tueddu i fod yn erbyn Plaid Cymru, pan mae o blaid datganoli yn yr Alban, tuedda i fod yn symud i'r un cyfeiriad yng Nghymru. Pan mae gogwydd yn erbyn Llafur yng Nghymru, mae'n tueddu i fod felly yn yr Alban hefyd. 'Dydi'r graddau o gefnogaeth ddim yr un peth wrth gwrs - ond mae'r gogwydd yn aml.

Ond nid dyma mae'r ddau bol diweddaraf yn ei awgrymu. Yng Nghymru mae YouGov yn awgrymu bod Llafur yn perfformio'n anisgwyl o dda ar lefel Cynulliad, ond yn sal ar lefel San Steffan. Mae TNS-'BMRB yn yr Alban yn awgrymu'r gwrthwyneb, gyda Llafur yn perfformio'n well o lawer ar lefel San Steffan.

Tybed os ydi ymddeoliad Rhodri Morgan a'r cyhoeddusrwydd ffafriol mae wedi ei gael yn sgil hynny wedi cynyddu'r gefnogaeth Lafur ar lefel Cynulliad dros dro?

Os felly mae'n ddigon posibl y bydd y tair brif blaid yng Nghymru yn agos at ei gilydd yn etholiad Cynulliad 2011 - yn union fel yr oeddynt yn etholiadau Ewrop eleni.

1 comment:

Penderyn said...

Cofier hefyd nad oes ystyriaeth llawn i'r canran sy'n pleidleisio yn polau yougov. Os oes patrwm gwahanol ymysg cefnogwyr y gwahanol pleidiau gall hyn gael effaith sylweddol - mae hynny'n arbennig o wir a thebygol mewn etholiad cynulliad ble yn hanesyddol mae'r canran sy'n pleidleisio yn is, ac yn enwedig hynny o Lafurwyr.