Saturday, November 21, 2009

Pum mlynedd arall o Gordon Brown?

Mae yna bol piniwn (Prydeinig) allan heno sy'n rhoi Llafur ar 31%, y Toriaid ar 37% a'r Lib Dems ar 17%. Pe gwireddid hyn byddai gan y Toriaid tua 296 o seddi, Llafur tua 278, y Lib Dems 44, yr SNP a Plaid Cymru 11 ac eraill 3. Mi fyddai yna hefyd 18 o aelodau o Ogledd Iwerddon. Mae'n debyg mai llywodraeth leiafrifol fyddai'n cael ei harwain gan Lafur fyddai canlyniad hyn.

Y newidiadau yng Nghymru fyddai Plaid Cymru yn ennill Arfon, Ynys Mon a Cheredigion a'r Toriaid yn ennill Brycheiniog a Maesyfed, Bro Morgannog, Aberconwy, Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro. Newid efallai - ond ddim yn agos cymaint o newid nag ydym wedi bod yn ei ddisgwyl.

'Dwi'n cymryd mai tipyn o eithriad ydi'r pol yma - adwaith i is etholiad Gogledd Orllewin Glasgow - ond mae'n darparu ychydig o ddeunydd meddwl. Hwyrach nad ydi'r fuddugoliaeth hawdd mae pawb wedi bod yn cymryd y bydd y Toriaid yn ei chael mor sicr a hynny wedi'r cwbl.

1 comment:

Vaughan said...

Yn union. Y peth i gofio yw os ydy'r bleidlais a'r gogwydd yn unffurf fe fyddai'n rhaid i'r Ceidwadwyr bod 9% ar y blaen i Lafur i sicrhau mwyafrif.