Thursday, November 19, 2009

Chwaneg o newyddion da gan YouGov/ITV


Yn ol pol diweddaraf YouGov byddai mwyafrif sylweddol (51% i 30%) yn pleidleisio tros bwerau deddfu llawn i'r Cynulliad. Mae mwyafrif clir o gefnogwyr tair o'r bedair plaid o blaid mwy o bwerau gyda lleiafrif sylweddol o Geidwadwyr hefyd o blaid. Mae'r sawl sy'n iau na 34 yn llawer mwy tebygol o bleidleisio Ia na phobl sy'n hyn na 55 ac mae'r gefnogaeth ar ei gryfaf yng Nghaerdydd a De Ddwyrain Cymru. Yn y Gogledd mae wanaf, ond mae mwyafrif clir o blaid hyd yn oed yno.

Dadl arall tros symud ymlaen mor gyflym a phosibl tuag at refferendwm.

7 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Haleliwia, 'da ni o'n dau yn cytuno ar rhywbeth o'r diwedd...rhywbeth yn yr holl law 'ma mae'n rhaid. Dwi wedi blogio ar y mater ddoe hefyd ac fedrai ddim pwysleisio digon sut mae angen i'r Cynulliad ymestyn ei apel a'i effeithlonrwydd ar hyd y Gogledd yma..os na wneith nhw hynny gyda addewydion pendant i weithredu ac i ariannu Cynghorau'r Gogledd ma'n decach, mae genai ofn mai boddi wrth y lan fedr canlyniad y refferendwm fod ac mi fyddai hynny yn drychineb i ni gyd pa bynnag blaid yr ydym yn aelodau ohono neu yn ei gefnogi.
Pwy a wyr 'fallai gei di ddod i i ymgyrchu am bleidlais Ia efo fi os ti'n hogyn da ;-))

Cai Larsen said...

Mae'r rhan fwyaf o Wynedd yn y Canolbarth a'r Gorllewin wrth gwrs.

Mi fydd Rhanbarth y Gogledd pob amser yn llai brwd oherwydd bod cymaint o bobl yn y Gogledd Ddwyrain ac ar hyd yr arfordir a'u gwreiddiau yng Ngogledd Orllewin Lloegr.

Anonymous said...

Neis gweld chi'n ffrindiau. Mi fysa hefyd yn neis i Gwilym gael dod i'r Gogledd 'ma am dro (os 'dio'n hogyn da) ;-)

Anodd meddwl am bobol Blaenau fel hanner hwntws...

Ioan

Aled G J said...

Roedd consensws neithiwr ar Pawb a'i Farn o blaid Hydref 2010. Dwi ddim mor siwr y byddai'n syniad da ei gynnal mor fuan ar ol buddugoliaeth Geidwadol yn yr etholiad cyffredinol. Mae yna berig gwirioneddol y bydd pobl yn teimlo " Dan ni wedi cael y newid oedd ei angen" ac yn gwrthwynebu mwy o bwerau ar y sail hynny. Dwi'n meddwl bod hynny di bod yn un rheswm pam y bu hi mor agos yn 1997( yn syth ar ol buddugoliaeth Blair). Na, aros tan Gwanwyn 2011 fyddai orau. Byddai hynny'n rhoi blwyddyn gyfan i gyflwyno'r dadleuon o blaid mwy o bwerau . Ar ben hynny, byddai mis mel Cameron,a'r "triumphalism" Ceidwadol-Brudeinig arddangosir gan y bloc o 8-10 Aelod Seneddol Toriaidd newydd yng Nghymru wedi pylu rhywfaint. Bydd hyd a lled oblygiadau Llywodraeth Geidwadol yn llawer mwy amlwg erbyn Gwanwyn 2011 a dyna'r adeg mwyaf priodol i gyflwyno'r achos i bobl Cymru yn fy marn i.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Shw mae Ioan :-))

Carwyn Edwards said...

Wel dyma dewis mawr. Cofiwch mae diwrnod yn cyfnod hir mewn gwleidyddiaeth. Unai mynd amdani gyda poblogrwydd Rhodri Morgan tu ol iddi asap. Neu disgwyl tan fydd y Ceidwadwyr dod mor poblogaidd a'r tywydd ofnadwy ma pa bynnag cyfnod fydd hynny!!!os ydi y llywodraeth mynd am yr 2 opsiwn fyddwn ddim rhoi dyddiad pendant tan a'r ol Cameron dechrau suro!!!

Cai Larsen said...

Aled - mae gen ti bwyntiau digon dilys - ond yr unig beth fyddwn i yn ei ddweud ydi hyn - ymddengys bod mwyafrif o blaid rwan, sut ydym ni'n gwybod bod hynny'n barhaol?