Dwi'n sylweddoli fy mod mymryn yn hwyr yma ond mi hoffwn wneud pwynt neu ddau - efallai y byddaf yn dod yn ol i gymryd cip fwy manwl yn ddiweddarach.
(1) Mae YouGov yn gwmni uchel ei barch - ond 'dwi'n cytuno efo Alwyn - dydi'r fethodoleg heb ei phrofi yn erbyn etholiadau go iawn eto - felly mae'n ddigon posibl bod y ffigyrau'n llai na chywir.
(2) Os 'dwi'n gweithio pethau allan yn iawn, naw sedd ychwanegol fyddai'n cael eu hychwanegu at gyfanswm y Toriaid - Brycheiniog a Maesyfed, Gogledd Caerdydd, Aberconwy, Bro Morgannwg, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gorllewin Casnewydd, Dyffryn Clwyd, Bro Gwyr a Phen y Bont. Byddai Plaid Cymru yn ennill Arfon, Ceredigion ac Ynys Mon.
Ond y ffaith amdani ydi nad ydi gogwyddau yn gyson y dyddiau hyn - gallai'r gogwydd fod yn uwch na'r 9% gogwydd o Lafur i'r Ceidwadwyr a'r 5.5% gogwydd oddiwrth Llafur i Blaid Cymru mewn rhai seddi (ac yn is mewn rhai eraill wrth gwrs). Felly gallwn ddadlau bod amrediad o seddi eraill mewn perygl - os ydi canfyddiadau YouGov yn gywir byddai Delyn, Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd Penarth, De Clwyd a Dwyrain Casnewydd o fewn 2.5% i'r gogwydd cyffredinol (felly dim ond angen 1.25% neu lai o ogwydd ychwanegol) - mae hyn yn agos iawn.
Ymhellach byddai Llanelli, Wrecsam, Alyn a Glannau Dyfrdwy, a Gorllewin Abertawe angen llai na 5% o ogwydd yn ychwanegol i'r gogwydd cyffredinol. Mae amrywiaeth felly yn eithaf cyffredin. 'Dydi hyn ddim yn golygu eu bod i gyd am syrthio wrth gwrs, ond mae'n golygu eu bod oll yn rhan o'r gem. Mi fyddwn i'n dadlau mai'r unig seddau Llafur sydd yn weddol saff ydi'r 11 sydd yn y cymoedd (ag eithrio Blaenau Gwent). Fyddwn i ddim yn hoffi gorfod amddiffyn 18 sedd mewn amgylchiadau anffarfiol - ond dyna fydd rhaid i Lafur ei wneud.
(3) Mae'r ffaith bod cymaint mwy o blaid pwerau 'fel rhai'r Alban' na sydd o blaid 'pwerau deddfu llawn' yn bisar. Mae trefn yr Alban yn cynnig mwy na phwerau deddfu llawn (yr hawl i amrywio treth incwm er enghraifft). Yr unig eglurhad y gallaf feddwl amdano ydi os ydi'r cwestion yn cael ei fframio mewn ffordd sy'n tynnu sylw at rhywbeth sydd gan wlad gyfagos bod yr etholwyr am efelychu'r wlad honno.
Felly mi hoffwn wneud awgrym i Syr Emyr - beth am ofyn Ydych chi eisiau annibyniaeth fel Iwerddon, Ffrainc neu Sbaen?
Neu yn well, Ydych chi eisiau annibyniaeth fel Iwerddon, Ffrainc neu Sbaen, ta bod yn rhan o wlad fwy o lawer fel Chechnya, De Ossetia, neu Darfur?
Hwyrach y byddai llun o draeth yn Ffrainc a chregyn o adeiladau Chechneyaidd wedi eu bomio gan danciau'r Rwsiaid yn syniad hefyd.
4 comments:
Prynhawn da Cai,
Sylwadau digon teg ond dwi, fel chdi, yn amheus am y tro o dderbyn y fethodoleg fel un sydd wedi ei phrofi.
Dwi'n gweld y nifer sy'n honni bod yn rhugl yn y Gymraeg neu'n medru rhyw gymaint o Gymraeg yn rhyfeddol o uchel gyda 42% yn medru rhyw fath o Gymraeg yn ôl canfyddiadau You Gov.
Fel un sy'n gweithio'n gyson ar hyd ac ar led Cymru fe fyddai'n dda gennyf pe byddwn yn gallu nodi fod hyn yn adlewyrchu fy mhrofiad ond nid felly y mae yn anffodus.
Dwi'n awgrymu ar fy mlog fod y ffigwr uchel hwn yn adlewyrchu defnydd You Gov o'r we i hel gwybodaeth - onid y posibilrwydd fan yma yw fod hyn yn creu gogwydd tuag at yr ifanc ac hefyd yr ABC1? Y mae'r ddau gategori hwn yn fwy tebygol o fedru'r Gymraeg (i ryw raddau).
Ta waeth. Digon i gnoi cil arno a thystiolaeth i bob Plaid fod angen parhau i weithio'n galed rhwng rwan a'r etholiad!
Mae'r atebion i'r cwestiynau am y refferendwm yn rhyfedd iawn dydyn. Fel ti'n dweud, mae pobl i weld yn lot mwy parod i gefnogi pwerau pellach os defnyddir "yr hyn sydd gan yr Alban" fel enghraifft glir o beth a olygir. Tra bod yr ateb cefnogol tu hwnt i'r cwestiwn hwnnw yn galonogol, mae hefyd yn cadarnhau mai cropian yn araf ddegawd ar ol yr Alban fyddwn ni fyth.
Dw i'n edrych ymlaen yn arw at adroddiad comisiwn Syr Emyr rwan. Dylid mynd amdani.
Mi ddudodd Stalin unwaith" Nid y pleidleisiau sy'n cyfrif ond pwy sy'n cyfrif y pleidleisiau". O'i aralleirio ar gyfer Cymru heddiw, nid cael yr amgylchiadau iawn ar gyfer cwestiwn y refferendwm sy'n bwysig ond cael y cwestiwn ei hun yn iawn.
O sicrhau cwestiwn clir, cymharol, fe ellid ennill refferendwm ar fwy o bwerau. Gweler rhan arall o arolwg YouGov na chafodd fawr o sylw hyd yma , sef y cwestiwn ai Caerdydd yntau Llundain DDYLAI gael fwy o ddweud dros ein bywydau. Yn fan hyn, roedd 55% o blaid Caerdydd a 27% o blaid Llundain.
Dwi ddimyn anghytuno efo dim yma a dweud y gwir.
O ran methodoleg YouGov, mae amheuon wedieu gwintyllu o'r dullo ddefnyddio'r rhyngrwyd -ond ar lefel Prydeinig oleiaf mae'r cwmni yn ddigon dibenadwy. Mae eu methodoleg yn delio efo oedran ac ati ar y lefel honno.
Ond fel mae Guto'n nodi dydi'r dull heb ei brofi yn erbyn etholiadau Cymreig eto - bydd rhaid ei gymryd efopinsiad ohalen hyd hynny.
Post a Comment