tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post3313681791106952288..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Pol YouGovCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger4125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-288118809585577682009-10-28T18:31:36.706+00:002009-10-28T18:31:36.706+00:00Dwi ddimyn anghytuno efo dim yma a dweud y gwir.
...Dwi ddimyn anghytuno efo dim yma a dweud y gwir.

O ran methodoleg YouGov, mae amheuon wedieu gwintyllu o'r dullo ddefnyddio'r rhyngrwyd -ond ar lefel Prydeinig oleiaf mae'r cwmni yn ddigon dibenadwy. Mae eu methodoleg yn delio efo oedran ac ati ar y lefel honno.

Ond fel mae Guto'n nodi dydi'r dull heb ei brofi yn erbyn etholiadau Cymreig eto - bydd rhaid ei gymryd efopinsiad ohalen hyd hynny.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-47347727956693632722009-10-28T13:32:57.020+00:002009-10-28T13:32:57.020+00:00Mi ddudodd Stalin unwaith" Nid y pleidleisiau...Mi ddudodd Stalin unwaith" Nid y pleidleisiau sy'n cyfrif ond pwy sy'n cyfrif y pleidleisiau". O'i aralleirio ar gyfer Cymru heddiw, nid cael yr amgylchiadau iawn ar gyfer cwestiwn y refferendwm sy'n bwysig ond cael y cwestiwn ei hun yn iawn.

O sicrhau cwestiwn clir, cymharol, fe ellid ennill refferendwm ar fwy o bwerau. Gweler rhan arall o arolwg YouGov na chafodd fawr o sylw hyd yma , sef y cwestiwn ai Caerdydd yntau Llundain DDYLAI gael fwy o ddweud dros ein bywydau. Yn fan hyn, roedd 55% o blaid Caerdydd a 27% o blaid Llundain.Aled G Jnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-41110186256166022472009-10-28T13:17:36.212+00:002009-10-28T13:17:36.212+00:00Mae'r atebion i'r cwestiynau am y refferen...Mae'r atebion i'r cwestiynau am y refferendwm yn rhyfedd iawn dydyn. Fel ti'n dweud, mae pobl i weld yn lot mwy parod i gefnogi pwerau pellach os defnyddir "yr hyn sydd gan yr Alban" fel enghraifft glir o beth a olygir. Tra bod yr ateb cefnogol tu hwnt i'r cwestiwn hwnnw yn galonogol, mae hefyd yn cadarnhau mai cropian yn araf ddegawd ar ol yr Alban fyddwn ni fyth.

Dw i'n edrych ymlaen yn arw at adroddiad comisiwn Syr Emyr rwan. Dylid mynd amdani.Dylanhttps://www.blogger.com/profile/17513581174055687750noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-75174653470254639472009-10-28T12:48:05.106+00:002009-10-28T12:48:05.106+00:00Prynhawn da Cai,
Sylwadau digon teg ond dwi, fel ...Prynhawn da Cai,

Sylwadau digon teg ond dwi, fel chdi, yn amheus am y tro o dderbyn y fethodoleg fel un sydd wedi ei phrofi.

Dwi'n gweld y nifer sy'n honni bod yn rhugl yn y Gymraeg neu'n medru rhyw gymaint o Gymraeg yn rhyfeddol o uchel gyda 42% yn medru rhyw fath o Gymraeg yn ôl canfyddiadau You Gov.

Fel un sy'n gweithio'n gyson ar hyd ac ar led Cymru fe fyddai'n dda gennyf pe byddwn yn gallu nodi fod hyn yn adlewyrchu fy mhrofiad ond nid felly y mae yn anffodus.

Dwi'n awgrymu ar fy mlog fod y ffigwr uchel hwn yn adlewyrchu defnydd You Gov o'r we i hel gwybodaeth - onid y posibilrwydd fan yma yw fod hyn yn creu gogwydd tuag at yr ifanc ac hefyd yr ABC1? Y mae'r ddau gategori hwn yn fwy tebygol o fedru'r Gymraeg (i ryw raddau).

Ta waeth. Digon i gnoi cil arno a thystiolaeth i bob Plaid fod angen parhau i weithio'n galed rhwng rwan a'r etholiad!Guto Bebbnoreply@blogger.com