
Mae’n anodd gen i gredu hynny weithiau, ond mae’n dri deg un o flynyddoedd ers i mi fynd i Gaerdydd am y tro cyntaf – roeddwn yn ddeunaw oed a newydd ddechrau canlyn y wraig, sy’n frodor o Gaerdydd. ‘Roedd yn gryn newid byd i mi – roeddwn wedi fy magu mewn cymdogaeth lle’r oedd fwy neu lai pawb yn siarad y Gymraeg yn rhugl, ac roeddwn yn ymweld ag ardal lle nad oedd fawr neb yn siarad Cymraeg – oni bai eich bod yn gwybod ymhle i chwilio. Byddai clywed rhywun yn siarad Cymraeg ar y stryd yng Nghaerdydd yn ddigwyddiad anarferol iawn bryd hynny.
Roeddwn yn rhedeg yn gystadleuol pan oeddwn yn ddeunaw – a ‘dwi wedi parhau i redeg yn rheolaidd hyd heddiw. Arferwn chwarae gem fach wrth redeg strydoedd y ddinas - cyfri aerials teledu. Roedd gennych ddewis yng Nghaerdydd i gyfeirio eich aerial at fast yn y Mendips, neu un yn y Wenfo gerllaw Caerdydd. Os oedd eich aerial yn cyfeirio at y Mendips byddech yn derbyn rhaglenni De Orllwin Lloegr, rhaglenni Cymru oedd i’w cael o’r Wenfo. Roedd tua naw o pob deg aerial wedi ei gyfeirio at y Mendips, Roedd y rhan fwyaf o’r gweddill efo dau aerial – un yn cyfeirio at y Mendips a’r llall at Wenfo. Prin iawn oedd y llefydd oedd ag un aerial yn cyfeirio at y Wenfo – y lle prydau parod Sieniaidd sydd drws nesaf i’r Clive Arms oedd un o’r enghreifftiau prin o hynny yn Nhreganna.

‘Rwan roedd derbyn rhaglenni teledu rhanbarthol o Loegr yn caniatau i bobl osgoi derbyn rhaglenni Cymraeg, ond roeddynt hefyd yn osgoi derbyn rhai Cymreig. Newyddion am gemau pel droed Bristol Rovers, nid y Bluebirds fyddai ar y newyddion rhanbarthol. Os oedd yna newyddion am rygbi o gwbl am Bath a Gloucester fyddai’r newyddion hwnnw, nid am Gaerdydd. Pan roedd yna gem rygbi lle’r oedd Cymru’n chwarae ac un lle’r oedd Lloegr yn chwarae ar yr un pryd, gem Lloegr fyddai ar gael yn y rhan fwyaf o gartrefi’r brif ddinas. Fyddai yna ddim rhaglenni materion cyfoes yn ymwneud a Chymru, a chredwch fi doedd newyddion rhanbarthol De Orllewin Lloegr yn y saith degau hwyr a’r wyth degau cynnar ddim yn ddiddorol. Mae gen i frith gof o edrych ar eitem dri munud yn ymwneud a chath yn Keynsham oedd wedi mynd yn sownd ar ben coeden ac wedi cael ei hachub gan griw injan dan.
Roeddwn yn meddwl am hyn ddydd Mawrth diwethaf. – roeddem yn aros efo teulu’r wraig yn Nhreganna. Roeddwn i’n rhyw edrych ar ganlyniadau pol YouGov (fel mae rhywun yn gwneud) pan ddaeth y wraig o’r dref a son ei bod wedi ymweld a’r llyfrgell ysblenydd sydd yng nghanol y ddinas. Roedd gwraig a thair o genod bach efo hi yn ciwio i gofrestru eu llyfrau. Roedd y bedair wedi eu gorchuddio mewn lifrai du Mwslemaidd, a llyfrau Cymraeg oedd gan pob un i’w gofrestru. Dwi’n eithaf sicr bod y stori fach am y llyfrgell yn ddadlennol i’r graddau ei bod yn arwydd o newid sydd wedi digwydd yn y brif ddinas yn ystod y cyfnod ‘dwi wedi bod yn ymweld a’r lle. Arwydd arall ydi pam mor – wel - normal ydi hi i glywed pobl yn siarad Cymraeg mewn tafarnau yn rhannau o’r ddinas bellach.

Roedd agweddau ar ffigyrau moel y pol YouGov yn cadarnhau’r argraff o newid mae dyn yn ei gael o ddwsinau o brofiadau bach uniongyrchol fel yr un a soniais amdano uchod. Mae YouGov yn ystyried Caerdydd yn rhanbarth unigol – ac maent yn cyhoeddi ffigyrau rhanbarthol. Cyn mynd ymlaen dyliwn egluro mai is setiau ydi’r ffigyrau rhanbarthol, ac is setiau sydd yn rhy fach i fod yn ddibenadwy o safbwynt ystadegol. Bydd yn ddiddorol gweld os fydd polau yn y dyfodol yn cadarnhau patrymau un yr wythnos ddiwethaf.
Y peth cyntaf sydd yn drawiadol ydi cymaint o bobl sy’n dweud eu bod yn siarad y Gymraeg yn rhugl. Mae 15% yn uwch nag unrhyw ranbarth ag eithrio’r Gorllewin a’r Canolbarth a’r Gogledd. Mae’r ddau ranbarth hynny gyda rhannau sylweddol ohonynt i’r gorllewin i hen isopleth ieithyddol sydd wedi dynodi lleoliad y Gymru Gymraeg am gyfnod. Mae Caerdydd ymhell i’r dwyrain ohoni.
Yn ail mae’r gefnogaeth i’r Cynulliad yn gryf – gyda llai yn wrthwynebus i’r sefydliad nag unrhyw ran arall o’r wlad, tra bod yr 20% oedd o blaid rhyw ffurf ar annibyniaeth yn rhoi Caerdydd ar frig rhanbarthau Cymru.
Bu arwyddion mewn etholiadau diweddar bod patrwm ‘Prydeinig’ Caerdydd o bleidleisio – patrwm sydd wedi bod yn amlwg am y rhan fwyaf o’r ganrif ddiethaf – yn dechrau gwanio. Mae’r pol yn cadarnhau hyn. Er nad ydi’r 10% mewn etholiadau San Steffan ac 16% mewn etholiadau Cynulliad sy’n dweud eu bod am bleidleisio i Blaid Cymru yn ymddangos yn uchel i gymharu a ffigyrau’r rhanbarthau Gorllewinol, mae’n arwyddocaol mai cymharol ychydig o wahaniaeth sydd rhwng Caerdydd a gweddill Canol De Cymru o ran bwriadau pleidleisio ar lefel Cynulliad. Mae gweddill y rhanbarth wedi cynnal patrymau mwy ‘Cymreig’ o bleidleisio. Mae hefyd yn arwyddocaol bod canrannau’r Blaid yn debyg i rai’r Lib Dems – plaid fwyaf y ddinas o ran nifer eu cynghorwyr, a phlaid sydd a sedd San Steffan a sedd Cynulliad yn y ddinas.
Mae’r blog hwn yn ei ddyddiau cynnar wedi ystyried yr newidiadau sylweddol diweddar ym mhatrymau ieithyddol oddi mewn i’r Gymru Gymraeg – mae’r wardiau mwy trefol yn ymddangos i fod yn fwy gwydn o ran cynnal eu Cymreigrwydd na rhai gwledig (fedra i ddim dod o hyd i'r blogiad - mae'n rhaid fy mod wedi ei chwalu'n ddamweiniol - sy'n bechod, mi ymrodd oriau i mi ei roi at ei gilydd). Mae’n bosibl bod rhywbeth tebyg yn digwydd yn ehangach na’r Gymru Gymraeg, gyda’r ymdeimlad o Gymreigrwydd yn cryfhau mewn ardaloedd trefol – yr ardaloedd lle’r oedd yr ymdeimlad hwnnw yn wanach yn y gorffennol. Mae yna dystiolaeth etholiadol sy’n cefnogi’r ddadl yma – ond mater ar gyfer blogiad arall ydi hwnnw.
‘Dwi’n meddwl ei bod yn deg dweud bod y rhan fwyaf o genedlaetholwyr fy oed i wedi treulio lwmp go lew o’u bywydau fel oedolion yn credu bod y llinynau hynny sy’n ein dal ni at ein gilydd fel pobl yn araf erydu a datgymalu, ac y byddem yn marw mewn gwlad llawer llai Cymreig na’r un y cawsom ein geni iddi. Rhywsut mae’r llinynau wedi ail ymddangos o’r pridd, yn fudur efallai, yn anodd i’w hadnabod ar adegau – ond yn ymddangosiadol gryf ac yn ein cadw at ein gilydd o hyd.
Mae’n anodd gwybod pa mor arwyddocaol a pharhaol ydi’r dadeni diweddar mewn ymdeimlad o Gymreigrwydd – yn aml ‘dydi prosesau hanesyddol mawr ddim yn glir tan ein bod mewn sefyllfa i edrych yn ol arnynt. Ond mae’r stori fach am rhywun sydd a’i gwreiddiau ymhell, bell o Gymru yn mynd a’i phlant i chwilio am lyfrau Cymraeg oherwydd ei bod am uniaethu ei theulu gydag hunaniaeth ei gwlad newydd yn ddelwedd hyfryd a gobeithiol.