Mi fydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gyfarwydd efo'r syniad bod yna ddau ryfel cyfochrog yn digwydd yn ystod ymgyrch etholiadol. Y termau Seisnig (neu Wyddelig o bosibl) am y ddau ryfel yma ydi ground war ac air war. Y rhyfel llawr gwlad ydi'r un lle mae gwirfoddolwyr yn cerdded y strydoedd yn canfasio, dosbarthu taflenni, cynnal stondinau stryd ac ati. Mae'r rhyfel arall yn ymwneud a'r cyfryngau torfol - y papurau newydd, y teledu, y radio ac erbyn hyn y We Fyd Eang. Dydi'r ffaith bod plaid yn ennill y naill ryfel neu'r llall ddim yn golygu bod yr etholiad yn ei chyfanrwydd yn cael ei hennill wrth gwrs.
Yn ddiweddar mae wedi dod yn dipyn o ffasiwn i ddosbarthu lluniau o'r criwiau sy'n cymryd rhan yn y rhyfel llawr gwlad trwy gyfrwng y We - pawb yn dod at ei gilydd cyn mynd allan, ac yna ychydig o luniau yn ymddangos ar Twitter neu Facebook. Y syniad mae'n debyg ydi codi moral cefnogwyr, annog pobl eraill i wneud yr ymdrech a chreu argraff o weithgarwch. Mae'r arfer wedi cydio ymysg cefnogwyr pob plaid o Gernyw i Inverness, o Ipswich i Aberdaron.
Go brin bod yna luniau ymgyrch tristach na'r rhai a gyhoeddir gan Plaid Lafur Arfon - wele ddetholiad isod. Mor aml a pheidio llun a geir o'r ymgeisydd yn sefyll ar ei ben ei hun wrth ymyl arwydd. Dydi'r lluniau ddim yn edrych fel hunluniau, felly am wn i bod yna rhywun efo'r ymgeisydd i fynnu ri lun. Neu efallai ei fod yn gofyn i bobl sy'n digwydd pasio dynnu'r llun. Pwy a wyr?
Weithiau mae yna ddau unigolyn yn ymddangos yn y llun - Y Cynghorydd Sion Jones fydd y llall bron yn ddi eithriad. Sion ydi ymgeisydd Llafur yn Arfon y flwyddyn nesaf. Ambell waith ceir ymddangosiad gan wleidydd proffesiynol Llafur yn gwneud ymddangosiad byrhoedlog - Vaughan Gething yn yr achos hwn. Mae'r llun ar y gwaelod yn un hapusach a mwy byrlymus - ond yn anffodus dydi aelodau'r criw ddim yn dod o Arfon - ymweliad diwrnod gan griw oedd yn cymryd rhan mewn ymgyrch ymweld a thair etholaeth seneddol ydyn nhw.
Rwan peidiwch a cham ddeall - dydw i ddim yn awgrymu bod y ffaith bod ymgyrch llawr gwlad Llafur mor dreuenus o anigonnol ddim yn golygu bod y sedd yn ddiogel i'r Blaid. Mi fydd y cyfryngau torfol yn sicrhau y bydd Llafur yn cael llawer mwy o sylw mewn print ac ar y tonfeddi na'r Blaid, ac mae pres gwaed Tony Blair yn dechrau llifo i mewn.
Dydw i ddim chwaith yn awgrymu bod yr astudiaethau ffotograffig mewn unigrwydd hyn yn adlewyrchu'n wael ar Alun Pugh chwaith. I'r gwrthwyneb, ymddengys ei fod yn dal ati mewn amgylchiadau anodd. Ond mae'n adlewyrchu'n wael ar y Blaid Lafur yn Arfon. A barnu o'r lluniau syniad y Blaid Lafur yn lleol o redeg ymgyrch etholiadol ydi dewis ymgeisydd, rhoi pymtheg bocs o bamffledi iddo a dweud 'I ffwrdd a chdi'.
Ond yn fwy arwyddocaol o bosibl mae'r ymgyrch llawr gwlad dila yn adlewyrchu'n wael ar y Blaid Llafur Brydeinig. Mi fyddai dyn yn meddwl y byddai yna dan ym moliau cefnogwyr Llafur mewn ardal dlawd fel Arfon ar derfyn pum mlynedd o doriadau Toriaidd, ond does 'na ddim. Yn wir does yna fawr o dystiolaeth bod hyd yn oed aelodau ac actifyddion y blaid yn lleol yn gwneud fawr ddim. Ac mae yna reswm am hynny - mae'r hyn mae Llafur yn ei gynnig yn ddigon tebyg i 'r hyn mae'r Toriaid yn ei gynnig - toriadau mewn gwariant ar wasanaethau cyhoeddus, gwariant anferthol ar WMDs a sesiwn flagardio hysteraidd wythnosol ar y teledu o San Steffan. Pa ryfedd bod well ganddynt dwtio'r ardd, gwau a mynd i siopa nag ymgyrchu tros fwy o'r un peth?