Wednesday, January 29, 2014

Siart rhyngweithiol statws sosio-economaidd siaradwyr Cymraeg

Yn sgil yr holl gecru am y cysylltiad rhwng y Gymraeg a dosbarth cymdeithasol mae'n amserol bod Hywel M Jones wedi bod ddigon caredig i anfon linc i siart rhyngweithiol sy'n dosbarthu siaradwyr Cymraeg o pob ward yng Nghymru yn ol eu statws sosio economaidd.

 Dwi wedi gludio pedwar siart o wahanol fathau o lefydd sydd a nifer uchel o siaradwyr Cymraeg yn byw ynddynt   Ond mae siart Hywel yn caniatau i chi gyferbynnu a chymharu unrhyw wardiau sydd o ddiddordeb i chi.

Diolch Hywel.


 

3 comments:

BoiCymraeg said...

Pam bod yna gymaint o fyfyrwyr yn byw yn Llanerch-y-medd?!

Hywel said...

Mae'r categori 'Myfyrwyr amser llawn' yn cynnwys disgyblion ysgol oed 16+. Mae'r siart yn dangos cyfanswm o 102 yn y categori. Mae tabl KS102 Cyfrifiad 2011 yn dangos cyfanswm o 97 oed 16-19 (a 132 oed 20-24, sef cyfanswm o 229 oed 16-24). Mae tabl DC6114 yn dangos 89 o fyfyrwyr amser llawn oed 16-24. Mae'n debyg mai disgyblion ysgolion neu fyfyrwyr addysg bellach yw bron y cyfan o'r 102 'myfyrwyr amser llawn'.

BoiCymraeg said...

Diolch. Mae hyny'n esbonio hefyd pam bod y canrannau mor uchel ymysg y "myfyrwyr" - basech chi wedi disgwyl i fyfyrwyr prifysgol (sef pobl ddwad gan fwyaf) fod yn rŵp isel iawn o ran y Gymraeg.