Thursday, January 23, 2014

Ynys Mon a Cowdenbeath

O gymharu ag is etholiad Ynys Mon ar gyfer y Cynulliad yn yr haf, mae is etholiad Cowdenbeath am sedd yn Senedd yr Alban yn ddigon diflas.  Doedd yna ddim hanesion am stitch up hen ffasiwn wrth i'r ymgeiswyr gael eu dewis, dydi mwyafrif i'r llywodraeth ddim yn ddibynol ar y canlyniad, does yna   neb enwog yn sefyll, does yna ddim ffrae fewnol mewn unrhyw blaid ynglyn a materion niwclear.

Serch hynny bydd y canlyniad yn cael ei ddarlledu yn fyw ar BBC yr Alban.  Wnaeth hynny ddim digwydd yng Nghymru yn achos is etholiad Ynys Mon.  Roedd rhaid i'r rhan fwyaf o'r sawl oedd am wybod y canlyniad yn sydyn ddefnyddio gwefannau cymdeithasol - er i wasanaeth newyddion 24 awr y Bib adrodd ar y canlyniad (ond gan gam ynghanu enw'r etholaeth ac enw'r enillydd).

Pam y gwahaniaeth?  Dydan ni ddim yn gwybod wrth gwrs - ond mi fyddwn i yn awgrymu bod yr ateb yn rhywbeth i'w wneud efo pwysigrwydd cymharol bywyd gwleidyddol yr Alban a Chymru i'r Bib.

1 comment:

Unknown said...

Beth sy'n bod a ti Cai a phawb arall sy'n darllen y blog yma, dydy gwleidyddiaeth Cymru ddim yn bwysig - rydym yn rhan o Loegr wrth gwrs, yn wlad eilradd israddol. Dyna feddylfryd Prydeinwyr tuag atom. Ond i fod o ddirfi am funud, mae hyn yn warthus, mae'r Alban yn cael ei haeddiant a dydyn ni ddim yma yng Nghymru - amser i bethau newid!