Wednesday, January 29, 2014

Gwers fach i Michael Fabricant

Mae'n debyg bod y stori am Aelod Seneddol Litchfield, Michael Fabricant yn beirniadu addysg cyfrwng Cymraeg ar y sail bod 'niwtron' yn air benthyg yn rheswm tros boeni am safon addysg yn ysgolion gramadeg Lloegr.  Addysgwyd Mr Fabricant mewn ysgol felly yn Brighton.  Gair Lladin ydi niwtron wrth gwrs, sydd wedi ei fenthyg gan lawer iawn o ieithoedd.

Yn ol archwiliad a wnaed gan Joseph M. Williams yn The Origins of the English Language (1975)  o 10,000 o eiriau Saesneg a edrychwyd arnynt mewn rhai miloedd o lythyrau busnes roedd gwreiddiau'r geiriau a ddefnyddwyd fel a ganlyn:

Ffrangeg (langue d'oïl), 41%
Saesneg 'cynhenid'  33%
Lladin 15%

Mae yna fwy o fenthyg yma nag a geir yn y Gymraeg - nag yn wir  mewn bron i unrhyw iaith arall.  

6 comments:

BoiCymraeg said...

41+33+15=89%

Beth yw'r 11% arall? Groeg, Almaeneg, Arabeg ac eraill dwi'n cymryd?

Cai Larsen said...

Pob math o bethau - iaith Llychlynwyr, Yiddish, ieithoedd Celtaidd - mae'r rhestr yn ddi ddiwedd. Hwfyr o iaith.

Dylan said...

Mae'r cwestiwn yn anfaddeuol o hurt. Ond mae'n ddadlennol hefyd. Mae'n amlygu unllygeidiaeth anwybodus a mewnblyg y math yma o Sais.

I dwpsod fel Efaill Boris, mae Saesneg yn "normal". Dydyn nhw methu amgyffred y cyd-destun ehangach, sef bod Saesneg ac ieithoedd eraill fel ei gilydd wedi benthyg llawer o'r un geiriau o ieithoedd eraill. Dydi Fabricant ddim yn meddwl dim am y ffaith bod Saesneg wedi bachu'r gair "neutron" o'r Lladin, ond iddo fo mae'r ffaith bod y Gymraeg wedi gwneud yr un fath yn union (a'i addasu i'w horgraff ei hun) yn adlewyrchu diffyg yn yr iaith honno. Wrth gwrs, yr unig beth sy'n ddiffygiol fan hyn yw hunan-ymwybyddiaeth y creadur yma sydd rywsut neu'i gilydd wedi canfod ei hun yn aelod o ddeddfwriaeth y Deyrnas Gyfunol.

Gwyn Jones said...

Fel un sydd a fawr o feddwl o wleidyddion o bob plaid mae'n siwr bod yn ddwl o help mawr iddynt. Arlywydd Bush a ddywedodd, "'does gan y Ffrancwyr ddim gair am entrepreneur."
Gwyn

Wombat arall di enw said...

Fel mae ambell i un yn gwybod erbyn hyn, mae'r holl ieithoedd Indo Ewropeaidd yn hannu o'r Gymraeg yn wreiddiol beth bynnag. Edrychwch mewn i alffabet y Coelbren/Koelbren a'r lincs gyda hanes llwythi coll Israel sef y Cymry a'r Celtiaid yn gyffredinnol, a sut mae aml i un yn honni mae Prydain yw y tir beiblaidd gwreiddiol Mae yna reswm go iawn pam fod y Gymraeg yn cael ei galw'n iaith y nefoedd mae'n debyg - angen i fwy o Gymry edrych mewn i hyn

BigWelshSteve said...

Ble mae'r dadl yn ei herbyn?

Weler: http://materiongymraeg.blogspot.co.uk/2014/02/effaith-michael-fabricant-james-whale.html