Sylw neu ddau - gweddol ddi ffocws - sydd gen i ynglyn ag argymhellion Comisiwn Williams ar gyfer ail strwythuro llywodraeth leol yng Nghymru.
Gwynedd a Mon i ddechrau. Mae yna gyfle a bygythiad o safbwynt y Gymraeg yma. Byddai awdurdod efo polisi iaith Gwynedd (gweinyddiaeth mewnol yn y Gymraeg) yn gryn gam ymlaen o safbwynt Ynys Mon, ond byddai dilyn polisi iaith Mon (gweinyddu mewnol Saesneg i pob pwrpas) yn gam enfawr yn ol yng Ngwynedd. Yr etholiadau cyntaf fydd yn ethol y bobl sy'n sefydlu polisi iaith y cyngor newydd. Go brin y bydd y polisi yn cael ei newid wedi iddo gael ei sefydlu, felly mae'n bwysig bod pobl sydd yn cymryd dyfodol y Gymraeg yn y Gogledd Orllewin o ddifri yn rheoli. Mae hanes diweddar yn awgrymu mai'r unig ffordd o wneud hynny ydi trwy ethol cyngor sy'n cael ei reoli gan Blaid Cymru.
Eto o safbwynt y Gymraeg yn y De Orllewin mae'r penderfyniad i gyfuno Penfro a Cheredigion yn drychinebus. Roedd gobaith y byddai cyfuno Caerfyrddin a Cheredigion wedi agory ffordd i ethol cyngor a fyddai'n cynnal yr iaith yn hytrach na'r ddau gyngor presenol sydd yn hanesyddol wedi bod yn niweidiol iawn i'r iaith - yn arbennig felly Cyngor Caerfyrddin. Bydd y trefniant newydd yn sicrhau mai cynghorwyr annibynnol o Sir Benfro fydd y dylanwad cryfaf ar y cyngor arfordirol newydd. Er bod rhai unigolion o'r grwp yma wedi dangos cefnogaeth clodwiw i'r Gymraeg, mae'r grwp yn ei gyfanrwydd wedi bod yn ddi hid.
Yng Nghaerfyrddin mae'r grwpiau Annibynnol a Llafur yn ymylu at fod yn elyniaethus tuag at yr iaith. Petai'r glymblaid yma yn colli grym gallai pethau wella, a byddai ymuno a Cheredigion wedi gwneud hynny'n haws.
Mae'r datblygiadau eraill yn y Gogledd - cyfuno Dinbych a Chonwy ar yr un llaw a Wrecsam a Fflint ar y llall yn ymddangos yn rhesymegol. Dwi ddim mor siwr am gadw Powys fel ag y mae. Y ddadl tros ail strwythuro ydi effeithlonrwydd ariannol - mae'n anodd eisoes i gyngor efo poblogaeth cymharol isel ond arwynebedd anferth ddarparu gwasanaethau mewn modd effeithiol. Bydd rhaid i Bowys wynebu toriadau'r blynyddoedd nesaf heb yr arbedion fydd yn dod o uno.
Dwi ddim yn adnabod y De cystal a dwi'n 'nabod y Gogledd a'r Canolbarth, ond mae'n debyg gen i y bydd rhai ym Mro Morgannwg yn poeni am gael eu traflyncu i grombil awdurdod fydd a bron i hanner miliwn o boblogaeth. Bydd yr un peth yn wir i raddau llai ym Merthyr - bydd yn cael ei lyncu gan gymydog poblog iawn - ond o leiaf mae'n gymdeithasegol debyg i RCT ac yn wynebu problemau tebyg. Hyd y gallaf farnu mae'r datblygiadau eraill yn y De yn synhwyrol.
Mae'r ymarferiad o ail strwythuro yn rhoi cyfle i leihau'r nifer o gynghorwyr yn sylweddol. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr bod y rhan fwyaf o gynghorau Cymru efo mwy o aelodau na sydd yna o Aelodau Cynulliad. Nid yw mabwysiadu trefn o ethol cynghorwyr trwy drefn STV efo wardiau aml aelod fel y gwneir yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban o dan ystyriaeth - ond dyna fyddai'r drefn fwyaf teg o ethol cynghorwyr.
Yn absenoldeb hynny dylid defnyddio trefn Caerdydd neu Ynys Mon - wardiau mawr aml aelod a threfn ethol cyntaf i'r felin. Byddai hynny'n ei gwneud yn anos i bobl sy'n nabod pawb yn eu wardiau ond sydd a fawr ddim arall i'r gynnig gael eu hethol. Dydi hyn ddim yn beth poblogaidd i'w ddweud - ond dylid talu mwy i gynghorwyr hefyd er mwyn gwneud y swydd yn atyniadol i amrediad ehangach o bobl. Mae'n bryd i oes y gombin annibynnol ddod i ben.

10 comments:
I agree with most of the points made here, but fundamentally disagree with your assessment that first past the post in multi member wards is a good second best. See my reasoning here http://penartharbyd.wordpress.com/2012/09/03/the-anti-democratic-local-government-boundary-review/
Cytuno a phob gair
Pam bod nhw wedi mynnu cadw'r ardaloedd presennol yn gyflawn o dan y drefn newydd? Debyg bod hi'n gwneud synnwyr yn y mwyafrif o lefydd (ee Wrecsam/Fflint, RCT/Merthyr) ond fel rydych chi'n awgrymu, dydy Penfro/Ceredigion ddim yn gwneud synnwyr o gwbl. Collwyd hefyd y cyfle o ail-ymuno Dyffryn Conwy a Gwynedd.
Aberconwy nid Conwy oedd yng Ngwynedd cyn y addrefnu dwytha. Mae Conwy yn cynnwys Aberconwy a thalp go helaeth o'r hen Sir Ddimbech. Cymysg fyddai effaith cynnwys Conwy yng Ngwynedd am fod y sir honno'n ymestyn o Uwchaled a Hiraethog i lan mor Seisnigaidd Bae Colwyn…
Syniad arall ydi rhoid Llandudno, Bae Colwyn, Rhyl a Phrestatyn hefo'i gilydd gyda'r Sgowseg yn iaith sywddogol a chroesawu Uwchaled a Hiraethog (ac Edeirnion) i Wynedd ond breuddwyd ydi hyne….
mae yna dabl hefo % y rghai sy'n siarad Cymraeg yn y siroedd arfaethedig ond rwy'n credu fod ambell ei ganran yn anghywir e.e Gwynedd + Môn 69.1%. Hwyrach mai "any skill in Welsh" ydi o, ond mae'r categori hwnnw'n gamarweiniol i mi
http://www.clickonwales.org/2014/01/can-bigger-be-better-local-government-2/
Nonsens llwyr ydy uno Ceredigion a Phenfro, beth sy'n gyffredin rhwng Aberdaugleddau ac Aber yr afon Ddyfi!! Byddai'n gwneud llawer mwy o synnwyr i uno Gogledd Powys/rhan o Faldwyn at Ceredigion, rhoi De Powys efo Mynwy ac ardal Ystradgynlais efo Nedd. Byddai hynny'n adlewyrchu realiti y natur ieithyddol, gwasanaethau iechyd a'r cymunedau yn llawer gwell-pethau o'n i'n meddwl oedd fod yn bwysig i'r Comisiwn !
". Cymysg fyddai effaith cynnwys Conwy yng Ngwynedd am fod y sir honno'n ymestyn o Uwchaled a Hiraethog i lan mor Seisnigaidd Bae Colwyn…"
Ie, dyna pam o'n i'n awgrymu hollti'r sir presennol ar hyd yr afon Conwy a rhoi'r ochr gorllewin (Penmaenmawr, Llanrwst, Betws-y-Coed) i wynedd a'r gweddill i "Greater Wrexham".
Hylo BoiCymraeg,
Ti am roi lefydd Seisnigaidd fel Penmaenawr a Betws y Coed yng Ngwynedd a gadael Hiraethog ac Uwchaled i Greater Wrexham? Dwi ddim yn dallt, mae'r rhan fwya o blant yn Hiraethog ac Uwchaled yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd ond ychydig iawn o blant Betws a Phenmaenmawr sy'n Gymry hyd yn oed ymysg y rhai cynhenid. Yr hyn a rois i ymlaen oedd asio Hiraethog, Uwchaled ac Edeirnion a Gwynedd am fod yr iaith yn fyw o hyd yn y tri chwmwd hyn
Iawn, OK, do'n i heb ddarllen eich post yn iawn.
Mae Llanrwst i'r dwyrain o Afon Conwy.
Post a Comment