Sunday, January 26, 2014

Y pol annibyniaeth diweddaraf o'r Alban

Mae yna ddau eglurhad posibl am y pol ICM a gyhoeddwyd heddiw yn yr Alban  sy'n awgrymu y gallai'r farn ynglyn ag annibyniaeth fod yn llawer nes nag a awgrymwyd gan bolau blaenorol.  Gallai fod yn outrider - pol achlysurol sy'n ymddangos sy'n hollol wahanol i pob un arall.  Bydd hynny'n digwydd o bryd i'w gilydd ym myd polio.

Ond gall hefyd fod yn arwydd bod y farn gyhoeddus yn troi yn yr Alban yn sgil cyhoeddiad y Papur Gwyn ar annibyniaeth yn ddiweddar.  Mae yna hanes o newidiadau disymwth yn y farn gyhoeddus yn yr Alban.  Digwyddodd hynny ddiwethaf yn 2011 pan newidiodd y polau yn gyflym iawn oddi wrth Lafur a thuag at yr SNP gan sgubo'r blaid genedlaetholgar yn ol i rym yn Hollyrood.  Mae'r tabl isod o hynt y polau piniwn bryd hynny wedi ei 'ddwyn' o'r wefan betio wych politicalbetting.com.

Gallai'r ychydig fisoedd nesaf fod yn rhai hynod ddiddorol.

5 comments:

Anonymous said...

Mae'r graff yn ogleisiol. Oes yna ogwydd ymhlith yr Albanwyr i orchuddio eu dyheadau cenedlaetholgar tan y munud olaf?

Os fydd y ras yn agos, mae'r misoedd nesaf yn mynd i fod yn dra gynhyrfus. Cyffrous yn yr Alban, wrth gwrs, ond diddorol ar y naw fydd canlyn agweddau a gweithrediadau Llundain yn Downing Street, y senedd ac yn y wasg Brydeinig.

Aled GJ said...

Be sy'n mynd i ennill hon ydi gallu apelio at gefnogwyr traddodiadol y Blaid Lafur.Dwi'n meddwl bod y pol piniwn hwn yn dangos bod hyn yn dechrau digwydd.

Yn ol y son, mae gan y grwp newydd Labour for Independence 4,000 o aelodau bellach. Ac er i'r SNP golli'r is-etholiad yn Cowdenbeath wsnos dwytha( mewn cadarnle Llafur) be oedd yn llawer mwy arwyddocaol oedd bod canfas o 11,000 o'r rhai a fu'n pleidleisio wedi dangos bod 41% o'r rhain am fotio o blaid annibyniaeth a 30% yn erbyn.

Dylan said...

Ar ben hyn i gyd, y gwir amdani yw nad yw ymgyrch y refferendwm wedi dechrau o ddifrif eto. Nid yw'r hyn sydd wedi digwydd hyd yma ddim byd o'i gymharu â'r sylw sydd am ddilyn rhwng y gwanwyn a mis Medi. Cyffrous.

Anonymous said...

"yn ol i rym yn Hollyrood" = cynghanedd groes gytbwys acennog

Iwan Rhys

Ioan said...

Da wan 'di Iwan Rhys?