Saturday, January 11, 2014

Newidiadau arfaethedig y Comisiwn Etholiadol

Dwi'n meddwl ein bod wedi trafod hyn o'r blaen - ond efallai nad ydi hi'n syniad drwg i wneud hynny eto.  Cyfeirio ydw i at gynlluniau'r Comisiwn Etholiadol i orfodi pleidleiswyr i ddod a dogfennau adnabod i'r orsaf bleidleisio.  Mae hyn yn ychwanegol at gamau eraill i orfodi pawb i gofrestru yn annibynnol yn hytrach na chaniatau i un person gofrestru pawb sy'n byw mewn ty.  Y rheswm am yr ymyraeth yma ydi bod y Comisiwn eisiau atal twyll etholiadol - nid bod yna lawer iawn o dwyll etholiadol yn y DU.

Mae'r camau hyn eisoes wedi eu cymryd mewn rhan o'r DU - yng Ngogledd Iwerddon.  Y rheswm bryd hynny oedd twf ym mhleidlais y pleidiau 'eithafol' - y DUP a Sinn Fein.  Roedd y Comisiwn o'r farn mai un eglurhad am hyn oedd twyll etholiadol - er nad oedd yna ddim tystiolaeth bron o dwyll etholiadol bryd hynny chwaith.  Arweiniodd y newid yn y rheolau cofrestru at gwymp sylweddol yn y nifer o bobl oedd wedi eu cofrestru i bleidleisio - ac roedd y cwymp hwnnw yn fwy amlwg mewn wardiau Pabyddol, mewn wardiau tlawd ac mewn wardiau trefol.

Y disgwyl oedd y byddai hyn yn arwain at gwymp ym mhleidlais y PUP, y DUP ac yn arbennig SinnFein.  Ond nid dyna ddigwyddodd - y pleidiau 'cymhedrol' a welodd canran eu pleidlais yn syrthio trwy'r llawr, tra bod canrannau SF a'r DUP wedi cynyddu'n sylweddol.  Dydan ni ddim yn siwr pam ddigwyddodd hyn - ond y rheswm mwyaf tebygol ydi bod gwell trefniadaeth mewnol a mwy o aelodau o lawer gan y pleidiau 'eithafol'.  Felly roeddynt mewn gwell sefyllfa i adnabod eu cefnogwyr a thrwy hynny sicrhau eu bod yn cofrestru yn briodol ac yn mynd a'r dogfennau angenrheidiol i'r orsaf bleidleisio.  The Law of Unforseen Consequences ydi'r term Saesneg.

Mae'n ddigon posibl y bydd hanes yn ail adrodd ei hun ac y bydd yna ganlyniadau sydd heb eu rhagweld yng ngweddill y DU hefyd.


3 comments:

Dylan said...

Swnio i mi fel ffug-ddatrysiad i broblem nad yw'n bodoli yn y lle cyntaf.

Cofier bod y dogfennau yma'n costio. Anodd meddwl am amcan amgenach na dadfreinio'r tlawd.

Dylan said...

Gyda llaw, os oes unrhyw awgrym bod elfen o dwyll etholiadol yn digwydd, yn achos pleidleisiau post mae hynny. Sut fyddai hyn yn helpu yn hynny o beth?

Cai Larsen said...

Mi fyddai cyfyngu'r gofrestr etholiadol yn ffeithio ar hynny - ond fyddai gorfod mynd a dogfen i bleidleisio ddim.